Skip to main content

H IMiBWüOTiriDID. ' Ffrwyth yr Ysbryd yw—Dirwest.' Rílif. »8.] HIÖREF, 1838* [Pris lc. ARDYSTIAD CYMANFA DDIRPRWYOL DIRWEST GWYNEDD: " Yr wyf yn ymrwymo yn wirfoddol i lwyr-ymwrthod â Gwlÿbwr Meddwol; i beidio na rhoddi na chynnyg y cyfrywi neb arall; ac yn mhob modd i wrthsefyll yr achosion a'r achlysuron o Annghymedroldeb." EGWYDDORION RHYDD DIRWEST. " A oes rhyw achos.gan Dduw ar y ddaear, yn gofyn i ddynion crefyddol guro eu gilydd i'w ddwyn yn mlaen? A phaham y goddefir hyny gydag achos dirwest, os achos o Dduw ydyw, fel yr haerir ?" Meddyliwn fod y gofynion uchod, a ddan- fonwyd atom gan gyfaill parchus, yn teilyngu ystyriaethau mwyaf difrifol ein brodyr dir- westol yn mhob man. Y mae yn amlwg fod y gofynydd yn golygu bod dynion crefyddol yn curo eu gilydd, i'r dyben o ddwyn yn mlaen yr achos dirwestol; a chan nad oes gan Dduw un achos àc sydd yn gofyn y fath foddion Uymdost er ei ddygiad yn mlaen; y casgliad naturiol yw, nad achos o Dduw ydyw dirwest. Ond cyn dyfod i'r penderfyniad hyna, fe ddylid ystyried, pa un a ydyw y curo, (sef y difrio, yr enllibio, a'r gorthrymu y cwynir o'u herwydd,) yn llwybr angenrheidiol, ac yn ffordd a gymeradwyir gan y gymdeithas, i'r dyben o gael gan ddynion dderbyn ei hegwydd- orion. Pe moddion felly a arddelwid ganddi, ac a wasgai ar ei phleidwyr i'w defnyddio, byddai hyny yn brawf amlwg nad ydyw hi o Dduw. Ond cawn ddangos mai y gwrthwyneb i hyny yw y gwirionedd am dani. Y mae yn debygol yr addefir gan bob cristion, oddieithr y pabyddion, nad oes, ac na fu erioed, un achos gan Dduw, yn gofyn i ddynion crefyddol na digrefydd, orthrymu a churo eu gilydd i'w ddwyn yn mlaen. Nid oes angen am y fath arfau, na dim o'u cyfíèlyb, ar un achos teilwng o Dduw; ac nid cynnorthwyo i ddwyn y cyf- ryw achos yn mlaen, a wnai y sawl a'u defnydd- iai, ond yn hytrach attal ei lwyddiant; oblegyd fe genedlai hyny wrthdarawiad yn meddwl ì-ol) dyn ystyriol i'r achos a ddygid yn mlaen trwy y fath foddion. Un o nodau anffaeledig Annghrist, yw creu- londeb a gorthrymder; a dywed y dwyfol wirionedd mai yn Babilon Fawr, "y caed gwaed proffwydi a saint, a phawb a'r a ladd- wyd ar y ddaear," hyny yw o achos eu crefydd; sef am eu barnau neu eu hymarferion crefyddol. Ond yr un yw yr ysbryd, a'r unrhyw yw yr egwyddor, oddiar ba rai y mae dynion yn gorthrymu, yn erlid, yn di'frîo, ac yn enllibio eu gilydd, am nad ymostyngant i gofleidio eu hegwyddorion hwy, ac i weithredu yn ol eu rhëolau hwy, gyda golwg ar bob pwngc arall yn gystâl a chrefydd. Ysbryd Pabyddiaeth ac egwyddor Annghristaidd, sydd yn tueddu dyn- ion i ymddwyn felly, gyda pha achos bynag y byddo hyny yn cael ei arfer; a dylai pob dyn ei fneiddio a'i ochelyd fel gelyn ei heddwch a dinystrydd ei rydddid; yr hyn bethau ydynt fwy eu gwerth na dim a fedd y ddaear. Yn awr yr ydym, gyda'r hyfder mwyaf di- ogel, yn tystiolaethu ger bron y byd, bod y gymdeithas ddirwestol yn hollol annghymer- adwyo pob dull o ddwyn yn mlaen ei hamean- ion clodwiw, ag sydd yn y mesur lleiaf yn gormesu ar hawlfraint naturiol dyn fel rhydd- weithredydd. Gwelir hyn yn amlwg yn ysbryd y Penderfyniadau canlynol, y rhai a basiwyd'yn unfryd yn Nghymanfa Ddirprwyol Dirwest Gwynedd, a gynnaliwyd yn y Bala yn Mai diweddaf, a pha rai sydd yn argraffedig yn tudal 198 o'r Dirwestydd. <f 4. Gan mai ar yr egwyddor o rydd weithrediad y dylid dwyn yr achos dirwestol yn mlaen, mae y Cymanfa hon yn IIwjt annghymmeradwyo pob rhyw orfodaeth a arferir tuag at neb i'r dyben o'u cael yn ddirwestwyr." "11. Fod y Gymanfa hon yn rhoddi annogaeth ddi- frifol a thaer i bob areithiwr a fyddo yn dadleu dros yr achos dirwestol, ochelyd cyfeiriadau personol, a 5* bod heb gablu neb." Y mae yn amlwg, gan hyny, nad yw y gymdeithas ddirwestol yn rhoddi cefnogaeth i TlYERPOOL: ARGRAFFWYD GAN Y CYHOÌDDWR, J. JONES, CASTLE STREET; AC AR WERTH GAN H. HUGHES, 15, ST. MARTIKTS-LE-GRAND, LLUNDAIN.