Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ir Ffrwyth pr Ysbryd yw—Dirwest.' ISIícI. »«.] AWÜT, 18 38. i^ris lc. ARDYSTIAD CYMANFA DDIRPRWYOL DIRWEST GWYNEDD: w Yr wyf yn ymrwymo yn wirfoddol i lwyr-ymwrthod â Gwlybwr Meddwol; i beidio na rhoddi na chynnyg y cyfryw i neb arall; ac yn mhob modd i wrthsefyll yr achosion a'r achlysuron o Annghymedroldeb." "EFENGYL ARALL/ Y mae gwrthwynebwyr y gymdeithas ddir- westol wedi ei chyhuddo, o bryd i bryd, â Ilüaws o wahanol bethau. Haerid gan rai ei bod yn meithrin anffyddiaeth;—dy wedai ereill drachefn ei bod yn cymeryd lle yr efengyl;— ond yu awr fe haerir mai " efengyl arall" ydyro ! Gan ibd y cyhuddiad hwn wedi ei ddwyn i'w herbyn o areithfa Gymreig yn y dref hon, ar y lOfed o'r mis Mehefin, yn nghlywedigaeth llawer o'n cydwladwyr, yr ydym yn meddwl y dylid dyweyd gair mewn amddiffyniad i'r gymdeithas, yn gystal ag i ddangos nad yw ei phleidwyr yn haeddiannol o'r anathema a gy- hoeddid yn eu herbyn. Testun y gweinidog parchus ar yr amser a nodwyd, ydoedd Gal. i. 6—9. "Cymhwysodd (medd ein gohebydd), y geiriau hyny i'r amser presennol, ac i'r gymdeithas ddirwestol, gan naeru yn ddigywilydd mai "efengyl arall" ydyw y gymdeithas; a bod ei hamddiffynwyr yn ateb i'r 7fed ad. sef yn trallodi yr eglwysi, ond yn enwedig y gweinidogion druain: a hefyd bod tueddiad y gymdeithas i " ddattroi efengyl Crist." Wedi hyny aeth y'mlaen gan geisio dychrynu ei wrandawyr synedig gyda'i wedi ei orlenwi â'r fath eiddigedd tanllyd dros yr efengyl, neu â chymaint o aidd santaidd yn erbyn y gymdeithas ddirwestol, fel na fedrai ganfod nemor yn ei destun ond rhybuddion, a gocheliadau a bygythion yn erbyn dirwestaeth. Meddyliwn yr ymddengys i bob un a ddarlleno yr Epistol at y Galatiaid yn ystyriol, mai cyfeirio yn bennodol a wna yr Apostol at yr athrawon Iuddewaidd, y rhai a ddysgent y dysgyblion fod yn rhaid iddynt gadw rhyw gymaint o'r ddeddf seremoniol, cymeryd eu henwaedu, &c. cyn y gallent fod yn gadwedig; gan geisio cymysgu y cyflawniad o'r defodau hyny â'r hyn a wnaeth Iesu Grist, fel sylfaen cymeradwyaeth pechadur gydâ Duw; ac felly yr oeddynt yn cymylu gogoniant athrawiaeth fawr yr efengyl, sef cyfiawnhad pechadur trwy ffydd, heb weithredoedd y ddeddf. A di'au fod yr hyn a ddy wedir am yr athrawon hyny, yn briodol hefyd i unrhyw ddysgeidiaeth, neu i unrhyw ddysgawdwr, ag a fyddo yn ceisio dwyn dim yn mlaen yn y pwngc o gyfiawnâd, heblaw perffaith ufudd-dod Mab Duw. Os y w y golygiadau hyn yn gywir, pa resym- oldeb oedd mewn cymhwyso y testun crybwyll- edig at y gymdeithas ddirwestol? A ydyw ei phleidwyr yn ny weyd na all pechadur fod yn gadwedig heb iddo fod yn aelod o honi? Neu allu rhyfygus apostolaidd, i arllwys ei anathema ar benau ei frodyr cristionogol, sef amddiffyn- j a oes neb mor ffol a meddwl fod peidio yfed wyr dirwestiaeth, neu vr " efengyl arall." ! gwlybwr meddwol, yn rhyw beth tuag at gy- Yn awr, gyda phob dyledus barch i farn y meradwyo ei berson ger bron Duw? Ni gweinidog a bregethai ferhvnv, ac heb fwriadu i chlywsom ni, pa fodd bynag, am y cyfryw rhoddi un tramgwydd iddo, yr ydvm yn barnu I erioed. Nid ydyw dirwest namyn rhinwedd mai camddefnyddiad hollol ar yr adnodau cry- | nacäol (ncgative rirtue) ar y goreu; ac y mae bwylledig, ydoedd iddo eu oymhwyso at y gymdeithas ddirwestol. Pell ydym oddiwrth feddwl ei fod yn amcanu at hyny; na'i fod yn wirfoddol yn rhoddi cam oìygiad ar wir ystyr yr adnodau dan sylw ganddo; o herwydd meddwn farn mwy caredig am dano nag y gallai efe wneyd y cyfryw bethau. Ond, yn rhyw fodd, ar y pryd hwnw, tebygid ei fod pawb yn gwybod nad rhy w gamp fawr ar ddyn ydyw peidio gwneyd drwg. A oes rhywun mor ddwl a thybied y gwnai peidio rhegu a thyngu, y tro iddo yn lle gweddîo Duw ? Neu y byddai peidio gweithio neu wag-rodiana ar y Sabboth, yn ddigon yn lle addoli yr Arglwydd ar ei ddydd sanctaidd ? Felly hyderwn nad oes un dirwestwr mor ynfyd, a meddwl fod LIVERPOOL: CYHOEDDWYD GAN JOHN JONES, ARGRAFFYDD, 9, CASTLE STREET; AT YR HWN Y MAE POB GOHEBIAETH TW DANFON, YN DDIDRAUU