Skip to main content

--------------~~~~~~------------~~y-----— " Ffrwyth yr Ysbryd yw—Dirwest.' Rllif. »5.] oobphëmhaf, is&s» pPris lc* ARDYSTIAD CYMANFA DDIRPRWYOL DIRWEST GWYNEDD: " Yb wyf yn ymrwymo yn wirfoddol i lwyr-ymwrthod â Gwlybwr Meddwol; i beidio na rboddi na chynnyg y cyfry w i neb arall; ac yn mbob modd i wrthsefyll yr achosion a'r achlysuron o Annghymedroldeb." TRYDEDD GYMANFA DDIRWESTOL GWYNEDD, A gynnalìwyd yn y Bala, Mai 22, a 23, 1838. Wrth gydmaru agweddiad moesol y wlad á'r hyn yd- oedd er's ychydig o flynyddau yn ol, y mae yn naturiol i ni yniholi pa beth a weithredodd y cyfnewidiad. Yr oedd meddwdod ac annghymedroldeb yn damsang y pethau mwyaf anwyl a chyssegredig, ac fel Nebuchod- onosor gynt, yn barod i waeddi uwch ben ei gaethion, " Pa Dduw sydd a'ch gwared o'm dwylaw i ?" Ond yn awr, y mae y Gymdeithas Ddirwestol yn ateb y gofyniad yn weithredol, ac wedi bod yn foddion, yn llaw Duw, i ollwng caethion yn rhyddion ar diroedd sobrwydd a chrefydd. Ac wrth sylwi'ar hyn nis gallwn lai na dywedyd, u Yr Arglwydd a wnaeth i ni bethau mawr- ion, am hyny yr ydym yn llawen." Yn nghychwyniad cyntaf y gymdeithas hon ni's gall- esid meddwl y cyrhaeddasai yr anrhydedd a'r bri ag y mae eisoes wedi ei gyrhaedd. Mae yn wir fod cannoedd lawer yn nghymoedd a bryniau Cymru wedi dyfod allan yn awyddus i'r frwydr ar ganiad cyntaf ei hudgorn son- iarus : ond pwy a allasai ddychymygu ? Pwy oedd yn meddu digon o ysbryd proffwyd, i ddywedyd y rhwygid yr awyr â'i bonllefau yn ei chyfarfodydd cyhoeddus— yn y ffeiriau a'r marchnadoedd—yn nghyfarfodydd y dosparth—yn yr uchel wyliau blynyddol—ac yn' y cymanfáoedd llüosog ? Pwy, meddwn, oedd ddigon o ŵr i ddywedyd yr ymgasglai dynion, o wahanol enw- adau a daliadau, yn rhwymyn brawdgarwch a chariad, o bob parth o Wynedd, i ymroddi fel un gwr yn erbyn y cewri oedd yn gwatwar byddinoedd y Duw byw ? Ond erbyn heddyw mae y cwbl wedi cymeryd lle; nid mewn rhith a darlun, fel mewn Panorama, neu rhyw ffug- ddangosle araîl, ond yn sylweddol ac yn wirioneddus; o herwydd yn y Bala, ar y 22ain a'r 23ain o Fai diweddaf, cynnaliwyd "Täydedd Gymanfa Ddirwestol GWYNEDD." Yn y cyfarfod llüosog hwn yr oedd y Parchedigion canlynol wedi dyfod yn nghyd ; John Hughes, Wrex- ham; H. Pugh, Mostyn; Rich. Humphreys, Dyffryn; D. Price, Pen-y-bont Fawr; E. Hughes, Treffynnon ; J. Owen, Cyffin, Conwy; D. Griffiths, Bethesda; R. P. Griffith, Llanberis ; — Morgans, Samah ; E. Wynne, Llansanan ; J. Willìams, Dinas Mawddwy ; J. Will- iams, Llanfachreth ; — Davies, Ffestiniog; D. Jones, Cefnbrith; T. Griffiths, Rhydlydan; T. Ellis, Llan- I gwm ; H. Ellis, Do.; M. Jones, Llanuwchllyn; L. | Edwards, M. A., Bala; D. Charles, B. A., Do.; | Richard Jones, Do.; T. Edwards, Myfyriwr, Bala; I T. Jones, Do.; Edward Roberts, Do.; J. Jones, Do.; | Griffith Jones, Do.; Thomas Hughes, Do.; J. Thomas, I Do.; H. Roberts, Do.; J. Owen, Do.; Daniel Jones, | Do.; William Pugh, Do.; ac amryw ereill. Ymwelodd y boneddig, clodwiw, a llafurus hwnw, ; D. Nasmith, Ysw., o Lundain, a'r cyfarfod. T DIRPRWYWYR. Meistriaid T. Thomas, Argraffydd, Caerlleon; Wm. Jones, Ffestiniog; Wm. Davies, Llanrwst, T. Owen, Treffynnon; John Davies, Corwen; Isaac Griffiths, Rhuabon ; William Williams, Penrhyn-deu-draeth ; John Jones, Llandderfel; John Dolby, Llanfaircaer- einion; Robert Griffiths, Robert Jones, a Hugh Hughes, Caernarfon; Capt. Pritchard, Port Madoc; Edward Hughes, Llandrillo; John Owen, Lleyn; W. Roberts, Cefn Mawr; David Jones, Gydros; Evan Jones, Rhu- abon ; John Hughes, Trawsfynydd ; Hugh Jones, Bettws; Rich. Evans, Dinas Mawddwy; Ellis Will- iams, Dolgellau; ac amryw o weinidogion ac sydd wedi eu henwi eisoes yn y rhifres gyntaf; ac ereill nas gall- wyd cael eu henwau. Yr oedd yn bresennol yn y cyfarfodydd, Mr. John Jones, Castle-st. Liverpool; Mr. John Jones, Llangollen ; ac amryw ddieithriaid ereill. Y CYFARFODYDD DIRPRWYOL. Cynnaliwyd y cyfarfodydd hyn am 10 a 2 o'r gloch ddydd Mawrth, (Mai 22), ac am 8 o'r gloch boreu ddydd Mercher, (Mai 23), pryd y dewiswyd Y Parch. J. Hughes, Wrexham, yn Gadeirydd. Yn mhlith yr amryw orchwylion perthynol i'r achos dirwestol, penderfynwyd yr hyn a ganlyn :— LIVERPOOL: ARGRAFFWYD GAN Y CYHOEDDWR, J. JONES, CASTLE STREET; AC AR WERTH GAN H. HUGHES, 15, ST. MARTIN'S-LE-GRAND, LLUNDAIN.