Skip to main content

Y IDHIBWIlOTiriDÎBa '■ Ffrwyth yr Ysbryd yw—Dirwest." Jtliäfl. »4t.] MEMEFIM, 1838. CPris lc. ARDYSTIAD CYMANFA DDIRPRWYOL DIRWEST GWYNEDD: " Yr wyf yn ymrwymo yn wirfoddol i lwyr-ymwrthod â Gwlybwr Meddwol; i beidio na rhoddi na chynnyg y cyfryw i neb arall; ac yn mhob modd i wrthsefyll yr achosion a'r achlysuron o Annghymedroldeb." HOLWYDDOREG DDIRWESTOL: YN CTNWYS Amcanion y Gymdeithas;—natur gwlybyroedd meddwl, gyda barn Meddygon am danynt;—eu heffeithiau niweid- iol ar bersonau, ar gymdeithas, ac ar achos crefydd;— gwrthddadleuon ac anhawsderau yn cael eu hyslyried;— codiad a chynydd cymdeithasau dirwestol;—a'r buddiol- deb a ellid ddysgwyl oddiwrth eu sefydliad cyffredinol. [Rhydd-gyfieithiad yw yr hyn a ganlyn o draethodyn a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Gymdeithas Ddirwestol Frytanaidd a Thramor Llundain, gyda rhai cyfnewid- iadau.] YB. ADRAN GYNTAF : Amcanion y gymdeithas a'r moddion a arferir i'w cyrhaeddyd. 1. Gofyniad.—Pa rai ydynt amcanion y Gymdeithas Ddirwestol? Atebiad.—1. Diogelu y cymedrol rhag hud- oliaethau a pheryglon annghymedroldeb. 2. Adferu, trwy fendith yr Arglwydd, feddwon ymarferol. 3. Achub teuluoedd y meddwon, eu gwrag- edd a'u plant, o afaelion tlodi, trueni, a dinystr. 4. Symud gwarth ac euogrwydd meddwdod oddiar ein cymeriad fel cenedl. 2. G.—Trwy ba foddion y mae aelodau y gymdeithas yn ymgais at gyrlíaedd yr amcan- ion hyn ? A.—1. Trwy ymattal eu hunain oddiwrth bob math o wlybwr meddwol. 2. Trwy daer a difriol anog ereill i ddilyn eu he8ampl. 3. Trwy ledaeniad helaeth o draethodau priodol ar yr achos. 3, G.—O ba fath ddynion y gwneir i fynu y gymdeithas ddirwestol? A___1. O rai a yfasant yn helaeth eu hunain o gwpan chwerw annghymedroldeb, àc sydd yn awyddus am achubiaeth ereill oddiwrth y llwngc gwenwynig. 2. O rai àc sydd wedi byw eu hunain yn gymedrol, etto oddiar gymhellion dyngarol, gwladgarol, neu dduwiol, a dueddwyd i lwyr ymwrthod â diodydd meddwol er mwyn rhoddi esampl i ereilL TR AILFED ADBAN: Meddwdod—diodydd medd wol—a barn Meddy gon ar y mater. 4. G.—Beth yw natur meddwdod ? A—Ystyr llythyrenol y gair meddw ydyw* chwyldroad yn y pen, neu bod heb feddu üyio^ odraeth arno á hun: ac arwydda y gair Saesoneg gwenmyn. Y mae un ysgrifenydd Rhufeinaidd yn ei ddynodi gwallgôfrwydd. Yn yr Abaneg, arwydda y gair cynddaredd yr ymenydd. 5. G.—Pa effeithiau a achosir gan feddwdod ar y natur ddynol ? A.—Dilynir meddwdod â gwahanol effeith- iau, yn ol natur y gwlybyroedd neu y defn- yddiau a'i hachosant; ac yn ol cyfansoddiad a chymeriad y sawl a'u defnyddiant. 6. G.—Pa fodd yr effeithia meddwdod ar ddynion yn gyffredinol? A.—Y mae y gewynau yn cael eu cyffroi yn fawr,—cyflyniir curiad y galon a chylchrediad y gwaed,—cynhyrfir yr ymenydd yn ddirfawr, —y meddyliau yn gymysglyd, yn wyllt, ac yn fynych yn llawn cynddaredd,—llwyr ddaros- tyngir y galluoedd o reswm a barn; ac os hir ddilynir yr arferiad pechadurus, gwneir y trueiniaid annedwydd yn gymhwys yn unig i garchar neu wallgofdý, fel y lleoedd mwyaf addas iddynt! 7- G.—Pa bethau sydd o natur feddwol ? A.—Y mae rhai sylweddau felly, megys opiwn a myglys; ond y mae y gymdeithas hon yn cyfeirio ei hymdrechiadau yn erbyn gwlybm yroedd meddwol yn unig. 6. G.—Pa wlybyroedd sydd yn feddwol? A.—1. Gwlybyroedd ymweithiedig, neu ep* lesedig; megys cwrw, porter, cider, perry, medd, &c. yn nghyd a gwinoedd Tramor a Brytanaidd. LIVERPOOL: CYHOEDDWYD GAN JOHN JONES, ARGRAFFYDD, 9, CASTLE STÄEETi ATYR HWN Y MAB FOB GOHEBIAETH PW DANFON, YN DDIDRAUI*