Skip to main content

n íDaiBwiEOTinm Ffrwyth yr Ysbryd yw—Dirwest." Riiif. »3.] M.a, ìsss. [ŴPÌS lc. ARDYSTIAD CYMANFA DDIRPRWYOL DIRWEST GWYNEDD: * Yr wyf yn ymrwymo yn wirfoddol i lwyr-ymwrthod â Gwlybwr Meddwol; i beidio na rboddi na cbynnyg y cyfryw i neb arall; ac yn mhob modd i wrthsefyll yr achosion a'r achlysuron o Annghymedroldeb." CYHOEDDIAD GWRTHDDIRWESTOL CAERNARFON. Efallai nad ydyw yn hysbys i'r rhan fwyaf o'n darllenwyr fod papuryn misol yn awr yn cael ei gyhoeddi yn nhref Caernarfon, yn yr hwn y dirmygir ac y gwawdir dirwestwyr a dirwestiaeth yn y raodd mwyaf atgas. Y dull a gymera y golygydd parchus (?) j wneyd hyny ydyw, chwilio am y pethau gwaelaf a ddywed- wyd gan bleidwyr yr achos dirwestol yn eu hareithiau, &e. a dangos y pethau hyny i'r wlad, er ceisio gwaradwyddo y gymdeithas. D'iau fod gormod o bethau gwael wedi cael eu dyweyd gyda'r achos hwn, fel gydâ phob achos bron; a dymunol fyddai i'n cyfeillion fod yn fwy gochclgar, rhag i'w hareithiau gael eu taflu i "dwb golchion" Caernarfon. Braîdd \ coel- iasera y gallesid cael un Argraffýdd cyfrifol mewri un man, yn enwedigol yn Nghymru, a wnaethai ddefnyddio ei argraffwasg i dros- glwyddo y fath sothach i blitii ei gydwladwyr. Y mae dyfod allan trwy y wasg i ddifrì'o ei gyd-ddynion, ac i wneyd gwawd o honynt, yn peri i ni feddwl nad gŵr boneddig ydyw y golygydd di'enw, a lecha yn ngysgod X. Y. Z. pwy bynag ydyw ; pe amgen efe a ymddang- osasai o dan ei enw priodol, fel y gallasai pawb wybod o law lanwaith pwy y teflid y dom arnynt. Oblegyd rhaid cael genau glan i oganu. Ond, yn wir, o^an y papuryn crybwylledig ei hun, ni soniasem air am dano; o herwydd yr ydym yn ei ystyried yn rhy annheilwng i neb wneuthur sylw o hono: ond gan i ni weled yn y Rhifyn am y mis Ebrill restr o enwau Deunaw o •* Bregethwyr yr efengyl, o'r am- rywiol enẃadau, yn Eglwyswyr ac Ymneill- duwyr, yn N ghaernarfon, sydd heb fod yn perthyn i'r Titotaliaid," tybiasom mai addas ydoedd gwneuthur crybwylliad fel hyn am y papuryn, yn yr hwn y cawsant yr anrhydedd o gael rhestru eu henwau. Ac yr oedd gweled eu henwau ynddo yn peri i ni gasglu, yn eithaf naturiol, eu bod hwy yn cymeradwyo ei gy- hoeddiad, ac yn gefnogwyr iddo heíÿd; ac y mae yn dra thebygol mai hwy ydoedd yn gwneyd i fynu y " cyfarfod a gynnaliwyd i ystyried teilyngdod y Gymdeithas Ditotalaidd, a pha ymddygiad sydd briodol tuag ati gan ddynion sydd eisoes a'u galluoedd yn gyjiwyn- edig i wasanaelh rhinwedd a gweddeidd-dra, y'nghyd a dedwyddwch y byd!" Ni ddywedir pwy oedd y cadeirydd yn y cyfarfod hwnw; ond gallai dirwestwTr feddwl mai Bacchus ei hun oedd y Uywydd ar yr achlysur, wrth ddar- llen y penderfyniadau, yn enwedig gan fod eu sawyr alcoholaidd mor gryf. Dyma rai o honynt: " Penderfynwyd—Ein bod am hyny yn cyfrif y Gym- deithas hon, fel Cymdeithas, yn deilwng i'w gwrthwynebu yn fwy nag un pechod, o gymaint ag y mae yn ddidor yn cyflawni, ac yn dysgu drwy ei hesiampl, y pechodau mwyaf gwarthus, a mwyaf dinystriol i bob egwyddorion gwir a sanctaidd ; i bob heddwch cymdeithasol; ac i bob rhinwedd ymarterol, a hyny oll mewn cysylltiad â chrefydd^ a than rith diwygiad a duwioldeb !!" " Penderfynwyd—Ein bod yn cyfrif yn drueni na bai Cyhoeddiad pwrpasol wedi ei sefydlu i arddangos anfoes- oldeb y Gymdeithas ddywededig, ac i amddiffỳn character y rhai, yn unig am eu bod yn wrtbwynebwyr ei drygioni a'i hynfydrwydd, a erlidir ganddi mor fileinuig, ac (o leiaf) i geisio achub personau a phethau crcfyddol o afael ei halogedigaeth." " Penderfynwyd—Ein bod yn ymrwymo i anog hyd y gallom ryw Argraffydd i sefydlu Cyhoeddiad Misol i'r dybenion hyn, ac, os Jlwyddir, i roddi pob cymhorth a chefnogaeth a allwn i'r gwaith." ]\Ieddyliwn fod hyna yn ddigon i alluogi ein darllenwyr i weled pa ryw fath ysbryd sydd yn llywyddu yr Adolygydd, yn gystal ag i beri i bob dyn ystyriol ei lwyr fifieiddio. Gresyn yw fod neb a elwir yn gristionogion, heb sôn am UVERPOOL: CVHOEDDWYD GAN JOHN JONES, ARGRAFFYDD, 9, CASTLE STREET; AT YR HWN Y MAE POB GOHEBIAETH I'W DANFON, YN DDIDRAUL.