Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

f iBaiBWn^wiDm Ffrwyth yr Ysbryd yw—Dirwrst.' nnir. mo EBRILL, 1§8§. CPris lc. ARDYSTIAD CYMANFA DDIRPRWYOL DIRWEST GWYNEDDs " Yb wyf yn ymrwymo yn wirfoddol i lwyr-ymwrthod â Gwlybwr Meddwol; i beidio na rhoddi na chynnyg y cyfryw i neb arall; ac yn mhob modd i wrthsefyll yr achosion a'r achlysuron o ^^^^^^64^01^6^." CYMDEITHAS DDIRWESTOL GYMREIG LIYERPOOL. Cynnaliwyd Trydedd Gylchwyl y gymdeith- as uchod yr wythnos gyntaf o'r mis diweddaf; sef nos Fawrth, y 6ed, yn nghapel Rose Place; nos Fercher, yn Bedford Street; nos Iau, yn y Tabernacle, Great Crosshall Street; a nos Wener, yn Pall Mall; a thrwy ohiriad, nos Wener 16eg, yn nghapel Benn's Garden. Pleidi*ryd yr achos gan amrai Weinidogion dyeithr, heblaw y rhai cartrefol, sef, Wm. Hughes, Sîr Drefaldwyn, O. Thomas, Bangor, W. Rees, Dinbych, D. Morgans, Manchester, Griffith Hughes, Treffynnon, a R. Pritchard, Abergele. Yr oedd y cynnulleidfaoedd yn dra llüosog, a'r areithiau yn oleu, yn gedyrn, ac effeithiol; a chwanegwyd dros 400 at nifer yraelodau. Rhoddai yr Adroddiad canlynol, yr hwn a ddarllenwyd gan y Parch. R. Williams, lawer o ddywenydd i bawb a'i clywsant; a hyderir y bydd yn hyfryd gan ein darllenwyr ei weled. Y TRYDYDD ADRODDIAD. Pan fyddo dyn wedi ei wir ennill i gofleidio unrhyw gyfundrefn o egwyddorion, nis dichon lai na Uawenychu wrth weled yr egwyddorton hyny yn llwyddo, trwy fod y profleswyr o honynt yn amlâu: ac nid tegwch a fyddai priodoli y llawenydd hwnw i ysbryd plaid, ond yn hytrach i zêl tros y gwirionedd, a chariad at gydgreaduriaid. Y mae aelodau eich Cyfeisteddiad yn cael eu cadarnâu fwyfwy yn egwyddorion y gymdeithas ddirwestol. Yn wir, yr oedd yr egwyddorion hyn yn ymddangos iddynt hwy yn rhesymol yn y dechreu pan y llaw-arwyddasant yr ardystiad. Ond y mae sylwi ar y ffeithiau aneirif, ác sydd yn dangos mawr niweidiol- rwydd y gwlybyroedd meddwol,—-gwrando y tystioliaethau a brofant yn anwrthwynebadwy nad ydynt yn angenrheidiol i natur fel diod, nac fel cordial, ar neb, mewn unrhyw amgylch- iad, nac ar unrhyw amser; fel mai gwell i'r cyfoethog, a gwell i'r tlawd hefyd fod heb- ddynt; gwell hebddynt i'r myfyriwr, a gwell hebddynt i'r llafurwr; gwell hebddynt mewn gwres, a gwell hebddynt mewn oerfel; gwell hebddynt ar y tir, a gwell hebddynt ar y môr; gwell hebddynt mewn iechyd, a gwell heb- ddynt mewn afiechyd. Y mae ystyriaeth o'r pethau hyn, yn nghydâ theimlo eu hunain cystal, neu well, wrth ymgydmharu â'r hyn oeddynt cyn dyfod yn ddirwestwyr, yn soddi egwyddoriony gymdeithasyn ddyfnach ddyfn- ach i'w meddyliau ac f w caionau*- y nai}l flwyddyn ar ol y llalL Goddefer gan hyny iddynt ddyweyd, mai gormod gorchwyl a fyddai traethu y llawenydd a ddylifa i'w meddyliau, wrth glywed am y chwanegiad rhyfeddol sydd weái bod at ddysg- yblion dirwest, yn nghorff y flwyddyn ddi- weddaf, yn enwedig yn mlith ein cydgenedl yn Nghymru. Dywedir fod nifer aelodau y gym- deithas ddirwestol, yn Nghymru, yn gymaint arall heddyw ag oeddynt yn nechreu y mis Awst diweddaf. Yn eu hadroddiad diweddaf, yr oedd y gym- deithas yn gallu dy weyd fod dirwest yn myned rhagddo yn fuddugoliaethus mewn llawer o fanau yn Ngogledd Cymru, ond trymaidd iawn yr oedd olwynion ei gerbyd yn troi y pryd. hyny yn y Deheudir; ond erbyn heddyw, y mae pethau wedi newid yn fawr, a hyny er gwell; y mae dirwest yn ennill trigolion y Deheudir wrth y miloedd, fel na byddai yn rhyfedd iawn pe clywem cyn pen Ilawer o fisoedd, fod yr olaf wedi myned yn flaenaf. Bernir fod nifer y dirwestwyr yn Nghymrà yn unig yn ddaü Oant o »iloedd, hyny yw tuag un o bob pedwar o drigolion y Dy wysog- aeth. Y mae dirwest weài llwyddo yn fawr yn LIYERPOOL: CYHOEDDWYD GAN JOHN JONES, ARÖRAFFYDD, 9, CASTLE STREET; AT YR HWN Y MAE POB GOHEBUBTH I'W DAIîFpN, YN DDIDRAUL.