Skip to main content

TT ÍMíBWiËOTiriM^ " Ffrwyth yr Ysbryd yw—Dirwest." ltliif. 19.] IOMWM} 1§3§. [^ris lc. ARDYSTIAD CYMANFA DDIRPRWYOL DIRWEST GWYNEDD: ; Yr wyf yn ymrwymo yn wirfoddol i lwyr-ymwrthod â Gwlybwr Meddwol; i beidio na rhoddi na chynnyg y cyfryw i neb arall; ac yn mhob modd i wrthsefyll yr achosion a'r achlysuron o Annghymedroldeb." AT DDERBYNWYR Y DIRWESTYDD. Gydwladwyr hôff, Ar ddechreuad blwyddyn newydd, ac wrth ddanfon allan y pedwerydd-ar-bymtheg Rhifyn o'r Dirwestydd, dymunwn ddychwelyd ein diolchgarwch gwresocaf i'n cyfeillion, am y cefnogaeth a'r cymhorth a roddasant i ni gydâ y cyhoeddiad hwn, yr hyn a fu yn mhell tu hwnt i'n dysgwyliad helaethaf: oblegyd trwy eu cynnorthwy hwy, galluogwyd ni i ddosparthu yn mhlith y Cymry dros bymlheg a thriagain ojiloeàd o'r Dirwestydd; a chafwyd tystiolaethau mynych o wahanol ardaloedd, eu bod wedi gwneyd lles i laweroedd. Pan ymddangosodd y Dirwestydd gyntaf, yr oedd yr egwyddorion a bleidid ganddo mor anmhoblogaidd, a'r fath wrthwynebiad egni'ol iddynt oddiwrth bob math o ddynion,—y cref- yddol a'r annghrefyddol, y doeth a'r annoeth, yr ieuaingc a'r hên, y sobr a'r meddw,—fel yr ofnid mai methu yn hollol a wnaethai yr an- turiaeth. Ond er yr holl bethau hyn, cafwyd y siomedigaeth fwyaf hyfryd; oblegyd dilyn- wyd ymdrechiadau y gymdeithas ddirwestol â llwyddiant rhyfeddol, er annhraethol gysur a daioni, tymhorol ac ysbrydol, i tìloedd o'n cydgenedl. Ymddangosai y gymdeithas yn ei dechreuad yn wael iawn, ac yn lled ddirmygus yn ngolwg llawer? yn cyfodi o Liverpool (canys yma y sefydlwyd y gymdeithas ddirwestol gymreig gyntaf,) megys cwmmwl bychan fel cledr llaw gwr, ac yn defnynu ambell i ddiferyn yma a thraw ar yr anial crâs a diffrwyth; ond gan mor nerthol a chynddeiriog y rhyferthwy ofn- adwy a ymgodai yn ei herbyn o bob parth, ofnid y dilëid y cwmmwl bychan yn fuan, fel na byddai dim o'i ol i'w ganfod mewn un man. Ond erbyn heddyw, wele y mae wedi llenwi awyr-gylch Gogledd Cymru bron i gyd, a rhan go fawr o'r eiddo y Deheudir hefyd, a ben- dithion fyrdd wedi defnynu o hono i ddegau o filoedd o drigolion Gwalia. A d'iau yw y bydd effeithiau ymdrechiadau y gymdeithas ddirwestol ar genedl y Cymry, ae ar y byd hefyd, am oesoedd etto i ddyfod. Ond er cymaint y llwyddiant a fu, y mae tir lawer iawn etto heb ei feddiannu gan ddirwest; ac er holl lafur gweinidogion yr efengyl, ac ymdrechiadau athrawon yr ysgol- ion Sabbothol, y mae yn parâu yn grasdir diffrwyth; a rhaid ennill hwn o law y gelyn annghymedroldeb, a'i fwydo â chawodydd dirwest, ac felly ei barotoi i dderbyn yr " had da," "yr impiedig air, yrhwn a ddichon gadw eneidiau" y rhai a*i derbyniant. Gan hyny, erfyniwn yn daer ar bob dirwestwr a ddarlleno hyn, i ymadnewyddu yn ei zëì a'i ffyddlondeb gydâ'r achos bendithfawr hwn, gan lwyr ym- roddi i fyned yn mlaen mewn llafur ac ymdrech, o blaid dirwest, nes y llanwer Cymru, Prydain, a'r byd i gyd, â dynion gwir sobr, ac y byddo meddwdod wedi myned mor warthus, a dîod- ydd meddwol mor atgas a Ifiaidd, fel na weler y naill, ac nad archwaether y ll'all, gan ddynion mewn un man. Y mae yr hyn a wnaeth Duw trwy offerynoldeb y gymdeithas ddirwestoL yn yspaid y ddwy flynedd ddiweddaf, yn rhoddi sail i ni ddysgwyly gwneir etto bethau