Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ffìTBHjB : Ffrwyth yr Ysbryd yw—Dirwest.' Rfilif'. 16.] II\1»1MM\ 1939. rjPris lc. ÂRDYSTIAD CYMANFA DDIRPRWYOL DIRWEST GWYNEDD: "Yr wyf yn ymrwymo yn wirfoddoli lwyr-ymwrthod â Gwlybwr Meddwol; i beidio na rhoddi na chynnyg y cyfryw i neb arall; ac yn mhob modd i wrthsefyll yr achosion a'r achlysuron o Annghymedroldeb." GWRTHWYNEBWYR DIRWEST. " Y neb nid yw gydâ ni, yn ein herbyn ni y mae.'1 Y mae llwyddiant y gymdeithas ddirwestol yn Nghymru, wedi bod yn llawer helaethach na dysgwyliad eu chyfeillion mwyaf brwdfrydus. Nid oedd nifer ei phleidwyr ar ei chychwyniad ond ychydig, a'r rhai hyny heb feddu nemawr o ragoroldeb; oddiethr eu bod yn rhagori yn eu hymdrechiadau diflino am wneuthur daioni i'w cydgenedl. Ond erbyn hyn, y mae gan y gymdeithas ddirwestol yn mhlith ei haelodau flỳddlonaf, ■ a'i chefnogwyr mwyaf gwresog, rai o'r gweinidogion enwocaf o ran eu duwioldeb, eu doniau, a'u defnyddioldeb, ag a fedd y Dywysogaeth; yn nghyd â llüaws o'r gwŷr mwyaf parchus a chymeradwy yn eu hamryw- iol gymydogaethau. Ond er hyny, y mae yn rhaid addef, gydâ gofid, bod etto rai, mewn gwahanol ardaloedd, yn defnyddio eu lioll alluoedd a'u dylanwad i'w gwrthwynebu, ac i geisio attal llydaeniad a chynnydd ei heg- wyddorion. Gellir ystyried gwrthwynebwyr dirwest yn gynwysedig o ddau ddosparth cyffredinol. Y dosparth cyntaf ydyw y rhai a wrthwynebant y gymdeithas yn bendant a chyhoeddus, a thrwy hyny a ymddangosant yn elynion amlwg iddi. Yr aü ddosparth ydy w y rhai a'i gwrth- wynebant yn fwy dirgeiaidd, gan ddefnyddio rhyw ymesgusiad, neu dwyll-reswm, fel cochl dros eu gwrthwynebiad iddi. Gallai ambell un feddwl fod y dosparth hwn yn fwy diniwed na'r Uall, gan mor fwynaidd a hynaws yr ym- ddengys; eithr y mae yn lled sicr mai nid felly y mae; ond mai hwn yw y mwyaf ni- weidiol o lawer i'r achos dirwestaidd. Pa fodd bynag y mae y naill cygystal a'r llall yn mil- wrio o blaid yr un gormesdeyrn creulon, sef annghymedroldeb. Y mae y dosparth cyntaf a nodwyd yn ad- ranedig i amrywiol o gangenau. Un o honynt a gynwysa gyfeddaehwyr, diotwyr, a meddwon ein gwlad, yr hon sydd etto yn gangen gref a gwasgaredig iawn; a thori hon i lawr yw un o brif amcanion y gymdeithas, a'i llwyddiant yn hyn fyddai yn fendith anmhrisiadwy i'n cenedl. Grym eu blŷs, eu gwangc, a'u chwant at y ddiod feddwol yw yr unig achos, debygid, fod y rhai hyn yn gwrthwynebu y gymdeithas. Cangen arall yw y rhai sydd yn dybynu ar y fasnach mewn diodydd meddwol am eu cyn- naliaeth, pa un bynag ai fel gwneuthurwyr ai gwerthwyr y cyfryw. Y mae ennill ac elw yn dyfod i mewn yma i ddallu llygaid dynion, fel nas gallant iawn farnn pethau; ac er na ellir cyfiawnâu y gangen hon yn ei gwrthwyn- ebiad i'r gymdeithas ddirwestol, y mae yn fwy esgusodol yn hyny, odid, nag un o'r lleilí. Cangen arall yw y rhai a ddefnyddiant eu doniau, eu galluoedd, a'u dylanwad, i wrth- wynebu a difri'o y gymdeithas o'r areithfa, a thrwy gyfrwng y wasg. Er nad yw y gangen hon o'n gwrthwynebwyr yn llüosog, y mae yn gwneyd llawer o niwed, yn enwedig i ddynion gwanaidd, na fynant, neu nas beiddiant arfer eu rhyddid i farnu drostynt eu hunain, eithr a gymerant eu harwain gan ereill, yr un modd ag y tywysir y Gwyddelod gan yr offeiriaid pabaidd. Ni fynem ddy weyd dim yn dd'íystyrllyd am neb o'r rhai sydd etto heb gydweled â ni ar y pwngc dirwestaidd, yn enwedigol am neb o weinidogion yr efengyl; a'n dyben yn adrodd y ffaith ganlynol, yw i ddangos pa fath ryw effeithiau a ddilynant eu gwaith hwy yn gwrth- wynebu y gymdeithas. Ychydig o fisoedd yn ol, mewn tref yn Lloegr, fel yr oedd gweinidog adnabyddus i ni yn pregethu ar nos Sabboth, efe a ddywedai ryw bethau yn erbyn Uwyr- ymattal; ac ar ol yr oedfa, aeth ei fab ef eihun i dafarndŷ i yfed y ddiod feddwol! Ni ddy- wedwn nad aethai efe yno pe na buasai i'w dad wrthwynebu dirwcst; ond pe pleidiasai efe yr achos, yn lle ei ddi'ystyru, buasai yn debycach iddo beidio a myned; a pha un bynag, buasai ei waed ef ar ei ben ei Jiun.