Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

•'TT IMIBW : Ffrwyth yr Ysbryd yw—Dirwest." Rfiif. 15.] MËBl, 1939. [JPris lc. ARDYSTIAD CYMANFA DDIRPRWYOL DIRWEST GWYNEDD: " Yb wyf yn ymrwymo yn wirfoddol i lwyr-ymwrthod â Gwlybwr Meddwol; i beidio na~rhoddi na chynnyg y cyfryw i neb arall; ac yn mhob modd i wrthsefyll yr achosion a'r achlysuron o Annghymedroldeb." AILFED GYMANFA DIRWEST GWYNEDD, A GYNNALIWYD YH NHBEF CAERNARFON, AWST 2 a'r 3, 1837- Pan fyddo unrhyw orchwyl o bwys mawr gan ddynion i'w gyflawni, ymunant â'u gilydd yn gymdeithasau i'r dyben o gyrhaedd eu hamcan: oblegyd gwirionedd a brofwyd yn mhob oes yw, bod undeb yn gadernid. Ni fu erioed un anturiaeth yn cynnyg at beth mwy na'r amcan sydd gin y gymdeithas ddirwestol; yr hyn nid yw ddim llai na chyfnewid a dadymchwel hen ddulliau ac arferion, àc sydd wedi eu greddfu a'u cadarnâu trwy oesoedd o ymarferiad, a'u cydblethu bron a phob peth perthynol i'n cenedl. Y mae undeb a chydweithrediad, gan hyny, yn anhebgorol angenrheidiol, i'r dyben o lwyddo yn yr anturiaeth fawr hon : nid yn unig undeb yr aelodau yn gymdeithasol,—undeb y cynideithasau hyny yn ddosparthiadol a sîryddol,—ond hefyd undeb yr holl gymdeithasau o'r siroedd a'u gilydd yn gym- manfaol, trwy eu dirprwywyr. Hyderwn y gwna pob dirwestwr cywir ymdrechu yn egriíolam feithrin, parâu, a chynyddu yr undeb hwn. Ond i ddirwestwyr Cymru sefyll yn flỳddlon at eu hymrwymiad, a chydweithredu yn galonog â'u gilydd, d'i'au y coronir eu llafur, trwy fendith yr Arglwydd, â llwyddiant llawn.—Gol. Dechreuodd yr achos dirwestol yn nhref Caernarfon, wegys mewn llawer o fanau ereili, yn fychan a Uesg; a thra gwahanol y tybiau, a mawr y dadleu, oedd yn ei gylch. Ychydig nifer yn unig a'i pleidiai, ond Uawer a'i gwrthwynebai yn egn'íol, ac amryw o honynt yn wýr o awdurdod a chyfrifiad yn yr eglwys ac yn y byd. Er hyny, trwy fendith yr Arglwydd ar lafur ac ymdrech •hfliuo ei bleidwyr egwan, llwyddo a wnaeth yr achos yn y dref a'i chymmydogaethau. Yh flaenorol i'r Gymanfa hon, cynnaliwyd cyfarfod- ydd misol dirprwyol cwmmwd Caernarfon yn Llanrug, i'i dyben o ystyried a threfnu y dull goreu o'i dwyn yn ^lften. Trefnwyd ynddynt ar fod i'r cwmmwd gael ei ddosparthu yn dair rhan, i gerdded yn yr orymdaith: *• Caernarfon, Caeathraw, Waen Fawr, a'r Rhyd-ddu. 2. Bont-newydd, Saron, Bryn'rodyn, Bwlan, Rhostry- fan, Talsarn, a Llanllyfni. 3. Llanrug, Llanberris, Dinorwíg, Llanddeiniolen, Rhydfawr, Sion, Bethel, a Than-y-maes: ac iddynt gael eu cantorion eu hunain, a dewis eu caniadau. Trefnwyd swyddogion a gweith- wyr gan gymdeithas y dref, at bob rhan o'r gwaith. Y GWEINIDOGION A'B PBEGEBHWYR. Y gweision effro ac enwog canlynol i'r Arglwydd lesu Gri8t, a ymddangosasant yn ein plith, a mawr oedd ein Uawenydd wrth eu croesawu : Y Parchedigion John Elias, Món, Wm. Williams, Lẁerpool, (gynt o'r Wern,) H. Griflìths, (offèiriad,) Llandrygan, Môn, G. Hughes, Treffynnon. Christmas Evans, Caernurfon, G. Solomon, Llanengan, Wm. Jones, Bhuddlan, Cadwalader Jones, Dolgellau, John GrifBths, Llandudno, J. O. Cyffin, Coniey, J. Hughes, ac R. P. GrifHth, Llanberris, John Jones, a Robert Jones, Llanllyfni, John Seignior, Sîr Ddinbych, Evan Davies, a Richard Parry, Llanerchymedd, W. Jones, Rhyd-ddu, G. Hughes, Edeyrn, T. Edwards, Ltan- ddeiniolen, John Morgans, Abereirch, Owen Thomas, Talsarn, David GrifHths a LL Samuel, Bethesda, John Jones, Llangybi, W. Davies, Nefyn, Owen Thomas, Bangor, John Williams, Dolgellau, John Wüliams, Llanrug, D. Jones, J. Morris, R. Prichards, a John Thomas, Caernarfon, ac ereill. DIRPBWYWYB. Meistri Evan Edwards, Bethesda, John Daniel, Cae Athraw, Owen Owens, Llanrug, T. GrifBths, Port Dinorwig, Richard Roberts, Morris Anwyl, Beddgelert, O. Owens, J. M'Larau, Trefriw, O. Jones, Llanfro- then, W. Edwards, J. Hughes, Llanberris, William Williams, J. Wüliams, Penrhyn-deudraeth, E. Will- iams, W. Jones, Rhydfaurr, W. Owens, Guy Evans, Llanllyfni, Evan Hughes, Bwlan, J. Rowlands, Four- crosses, J. Jones, Llangollen, O. Jones, R. Owens, Waenfawr, D. Roberts, Abereirch, D..01iver, Bryn- *rodyn, E. Richardson, Conway, J. Owens, Dinorwig, W. Jones, Penycaerau, E. Richards, Rhyw, J Hughes, Dinas, G. Evans, Rhostryfan, G. Williams, Carmeì,