Skip to main content

^a ST IDlIIBW^OTiriDIB* " Ffrwyth yr Ysbryd yw—Dirwest." MMíí'. 1£.] awst, ma?* EJWi ic. ARDYSTIAD CYMMANFA DDIRPRWYOL DIRWEST GWYNEDD, Yr hon a gynnaliwyd yn Ninbych, Chwefror 8 aW 9, 1837. " Yr ydwyf yn ymrwýmò yn wirfoddol i lwyr ymattal oddiwrth yfed pob math o Wlybyroedd Meddwawl fel dwd; i beidio a'u rhoddi na'u cynnyg feiiy i neb arall; ac yn mhob modd i wrthsefyll pob rhy w achoeioa ac achlysuron o Annghymedroldeb." TYSTIOLAETHAU MEDDYGOL. Dymunem alw sylw ein cydwladwyr at y tystiolaethau cedyrn a ddygwyd gan rai o'r Meddygon enwogafa mwyaf deallus, am natur niweidiol gwlybyroedd meddwol i'r cyfansodd- ìad dynol. Gwelir oddiwrth y rhai hyn, nad yw dirwestwyr yn ymddwyn mor afresymol ag yr haera amddifîynwyr y cyfryw wlybyroedd en bod; ond, yn hytrach, mai doethineb pawb fyddai llwyr-ymwrthod â'r cyfryw. Ni rodd- wn, ar hyn o bryd, ond ychydig allan o lawer o'r tystiolaethau hyny a ellid eu cael. Y mae llüaws o'r awdurdodau meddygol uwchaf yn y byd yn cyd-farnu, nad oes mewn un math o wlybyroedd meddwol un gradd o faeth ag a ddichon gynnal na chryfâu y natur ddynol:— eu bod yn cyffroi, neu yn symbylu natur am ysbaid byr o amser, trwy gyflymu, cylch-droad V gwaed, ac yna yn ei gadael wedi cael niwed gwirioneddol, yn hytrach na Uesâd trwyddynt: —a'u bod yn wenwyn, graddol neu gyflym, i bob dyn, yn gyfatebol i'r nerth neu y swn o honynt a ddefnyddir ganddo. Ystyrir y gwirf gan Feddygon yn gyffred- mol, y feÚdith drymaf i ddynolryw; ac mai trugaredd i'r byd fyddai ei yru yn llwyr aìlan o hono ; oblegyd y mae yn gwneuthur annhraethol fwy o ddrwg i ddynion, (mewn golygiad anianyddol yn unig, heb son am y drwg moesol a achosir ganddo,) na dim lles a wnaeth erioed. Ië, nid oes dim angenrheid- rwydd am wirf fel cyffer meddygol, gan fod pethau ereill a etyb yr un dyben, nad ydynt yn debyg o fod byth yn achlysuron o'r fath ddrygau ag y mae gwlybyroedd meddwol yn eu hachosi. Rhai o'r Meddygon penaf a farn- ant mai y moddion goreu er diogelu iechyd, a chael hir ddyddiau ar y ddaear, yw peidio ag yfed dim ond dwfr a llaeth. Yn awr, caiff y Meddygon canlynol lefaru yn iaith y Cymry, a hyderwn yr ystyrir eu tystiolaetíanyn deilwpg o sylw pob dariíepydd. Dr. Büchan—"Y mae diodydd brâg yn gludio y gwaed, ac yn ei anaddasu i gylchred- eg: o hyn y tardd dyryswch ac enynfa yn yr ysgyfaint. Nid oes ond ychydig o yfwyr mawr o gwrw yn diangc rhag darfodedigaeth yr ys- gyfaint, yr hyn a achosir gan natur ludiog ac annhreuliol cwrw cryf. Y mae yfwyr gwirod a gwin yn fwy eu perygl: y mae y gwlybyr- oedd hyn yn enynu y gwaed, ac yn rbwygo llcstri tyner yr ysgyfaint yn llarpiau." Meddyg yn Dublin a ddywed,—"Pe roddid terfyn ar yfed gwin, gwirod, a d'iod í'râg, byddai terfyn buan ar fy holl lwyddiant bydol. Meddygon, llaw-feddygon, a chyfferi'- wyr, a ddinystrid, a diosgid ein Hathrofàau Meddygol o'u gorwychder; a byddai afiechyd* mewn cymhariaeth yn anfynych, a haws ei lywodraethu. Y mae ugain mîynedd o brofiad wedi fy argyhoeddi, pe byddai i ddeg o ddynion. ieuaingc, un-ar-hugain oed, ddechreu yfed vn gwydriad o wirod, neu beint o win, £neu gwrw cryf,] a pharâu iyfed hynyyn ddyddiol, talj'yrié o Ì2 i 15 mlynedd arfywyd wyth allan o'r deg." Dit. James.—" Y mae arferiad cymedrol a ddiod feddwol yn dadymchwel y cyfansoddiad mewn modd ì-aor guddiedig, fel nad. yw y go- ddefydd ei hun yn ammheu dim o'r fath beth, hyd nes byddo cael adferiad iechyd wedi myned bron yn anobeithiol." Dr. M'Nish.—" Y mae saith o bob deg o'r rhai a arferant feddwi ar ddiodydd brâg, ya meirw o'r parlys mud, neu y parlys." Dr. Cheyne.—"Dwfr oedd di'od gyntefig dyn, a'r unig wlybwr addas yw i ateb angenion natur; a phe na ddyfeisiasid diodydd celfydd- gar erioed, buasai yn drugaredd i ddynoliaeth. Sylwais fod y rhai na arferent yfed dim heb- law dwfr, wedi byw yn iaeh a siriol nes cyr- haedd oedran mawr." Dr. Rush.—" Y mae gwirodydd bob amser yn gwneyd y corff yn fwy agored i oerfel: