Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

¥ IDÎÌIBWMWIDID* Ffrwyth yr Ysbryd yw—Dirwest.' Rllif. 13.] CJORPHEMHIF, 1S37. [Pris lc* ARDYSTIAD CYMMANFA DDIRPRWYOL DIRWEST GWYNEDD, Yr hon a gynnaliwyd yn Ninbych, Chwefror 8 á'r 9, 1837- " Yr ydwyf yn ymrwymo yn wirfoddol i lwyr ymattal oddiwrth yfed pob math o Wlybyroedd Meddwawl fel diod; i beid > a'u rhoddi na'u cynnyg felly i neb arall; ac yn mhob modd i wrthsefyll pob rhyw achosion ac achlysuron o Annghymedroldeb.'' Y GWPAN FEDDWOL A'l CHYNWYS DINYSTRIOL, Y nodweddiadau a ddarlunir uchod ydynt, 1. Tlodi— 2. Y Parlys mud (apop!exy)—3. Gwallgofrwydd— 4. Y Dyfrglwyf—5. Y Droedwst (gout)—6. Angau, a'i awr-wydr yn ei law, yn barod i gofleidio holl addol- wyr Bacchus. Priodolir bron bob rhinwedd i'r gwpan feddwol, gan hoffwyr ei chynwysiad, a chredant y cyffredinolrwydd o ddynion ei bod yn dra defnyddiol i gadw rhag, yn gystal ag i symud, pob anhwyldeb corfforol, i gynnal y meddwl rhag suddo o dan brofedigaethau, ac i beri i ddynion dybied nad yw tlodi ond rhyw beth mewn âychymyg ya unig. Ond nid oes angen am lawer o resymau i brofi mai twyll a siomedigaeth hollol yw y pethau hyn. Os oes ambell un o gyfeillion y ddíod feddwol yn diangc oddiwrth ei heffeithiau dinystriolj, gellir o leiaf sicrâu, gydâ golygiad cyffredinol, bod y darlun uchod yn gosod allan rai o'i chanlynyddion arferol. Y mae cosp a phoenedigaeth yn anwahanol gysylltiedig â throsedd o bob rhyw ddeddf o eiddo Duw. Ac er na wneir barn yn fuan yn erbyn pob trosedd, y mae yn sicr o oddiweddyd y pechadur ry>r bryd, mewn rhyw fodd neu gilydd. Ddarllenydd, edrych ar y darlun, a gwel y fath gym- deithion anhyfryd sydd gan y meddwon yn eu cyfedd- ach ! Dacw un anghenfil tenau yn ysgwyd y pwrs gwag, gydâ gwawd, ar y cwmni ynfyd. Un arall yn barod i roddi dyrnod angeuol i'r ymenydd, nes terfynu ar foment holl fwyniant y truan am byth. Dacw y llall