Skip to main content

n iDMB^rmswîriDiD. Ffrwyth yr Ysbryd yw—Dirwest.' Rllif. 11.] MAI, 1939. [Prîs lc. ARDYSTIAD CYMMANFA DDIRPRWYOL DIRWEST GWYNEDD, Yr hon a gynnaliwyd yn Ninbych, Chwefror 8 a'r 9, 1837- " Yr ydwyf yn ymrwymo yn wirfoddol i lwyr ymattal oddiwrth yfed pob math o Wlybyroedd Meddwawl fel diod; i beidio a'u rhoddi na'u cynnyg fdly i neb arall; ac yn mhob modd i wrthsefyll pob rhyw achosion ac achlysuron o Ànnghymedroldeb." Y GWIRF YN WENWYN, Gan Dr. Massby. Y mae darllenwyr cyson y Dirwestvdö yn deall bellach, mai Gwirf (neu Alcohol) yw y sylwedd hwnw mewn gwlybyroedd àc sydd yn eu gwneuthur yn feddw- ol; ac oni b'ai bod hwnw ynddynt, ni fyddai dim mwy o'u llyngcu gan ddynion, nâg o ryw ddìodydd ereilh A'r un yw natur y gwirf yn yr holl wlybyroedd nieddw- ol, pa un bynag ai dì'odydd dystylliedig ai eplesedig fyddant, Ond y mae'r peth hwnw, sef y gwirf, àc sydd yn eu gwneuthur mòr ddymunol i archwaeth a blys llygredig dyn, nid yn unig yn afreidiol er cynnaliaeth a chysur ei natur, eithr hefyd yn niweidiol a dinystriol iddi; oblegyd nid yw amgen na gwenwyn yn mhob dull a ffurf o hono. Ni a ddymunem i bob dirwestwr, ac i bawb ereill hefyd, i ystyried ac olrhain y pwngc hwn yn y modd manylaf. Y mae parâd y diwygiad dirwestaidd yn dybynu, i raddau helaeth, ar gywirdeb golygiadau dirwestwyr am natur y dic dydd y milwriant yn eu herbyn. Os coleddant y dyìiiaeth gyfeiliornus, nad oes dim niwed anianyddol yn y diodydd hyny, eithr mai mewn cymeryd llawer, neu ormod o honynt yn unig y mae y drwg, y mae yn o debyg y dychwelant yn ol cyn pen hir at eu hen aTferion pechadurus. Gan hyny, i'r dyben o gadarnâu ein brodyr yn y pwngc han- fodol hwn mewn dirwestiaeth, yn gystal ag er dwyn ereill i ystyried y mater, ni a ddodwn ger eu bron y talfyriadau canlynol o sylwadau yr enwog Dr. Massey, o'r Amerig, ar natur wenwynig gwirf. "Y mae egwyddorion mawr cymedroldeb ynsylfaen- edig ar ddeddfau anianyddol a moesol ein natur; a dylent gael eu dwyn allan a'u dirgymhell ar bob ach- tysnr priodol. Bod gwirf yn wenwyn i'n cyfansoddiad, ac yn tueddu i wyrdroi ein teimladau moesol, a brofir trwy sylw cyffredin dynion. Beth ydyw gwenwyn ? Y sylwedd hwnw ydyw, yn mha ffurf bynag y byddo, yt hwn, pan ei cymhwysir at arwyneb (mrface) byw- iol, sydd yn cyffroi ac yn anhwyluso ysgogiadau iach- usol bywyd* Y mae yn hollol wahanol i'r sylweddau àc sydd yn eu natur yn faethlon. Anmhosibl yw ei droi yn ymborth, ac iddo felly ddyfod yn rhan o'r peirianau bywydol. Y mae gweithrediad y bywyd anifeilaidd yn achosi treuliad gwastadol ar ein cyrff, a rhaid i dd'ef- nydd newydd gael ei gymeryd i mewn, yr hwn, wedi ei ddarparu yn y cylla, & gludir i'r gwaed, ac yno fe'i cyfnewidir; a thrwy hyny y mae y golled yn cael ei gwneyd i fynn yn feunyddiol. Ond nis gelìir gwneyd fel hyn â gwenwyn. Mae'n wir y gellir ei gymysgu â sylweddau maethlon; ond os â i'r gwaed, fe'i teflir ymaith mor fuan ag y dichon i'r cyfansoddiad effeithio hyny; oni bydd wedi cael ei gwanychu yn ormodol trwy ei ddylanwad o'r blaen. Y cyfryw wenwyn yw y gwirf, yn mhob ffurf o hono, cymysger ef yn y modd a fyner. Nis gellir byth ei dreulio yn y cylla, a'i droi yn faeth i'r corfF. Y mae yr holl brofion a feddwn yn erbyn y fath dyb. Os rhoddir ef ar arwyneb bywiol, y mae yn achosi poen annrhaethol, poethder, a llosgiad. Y mae natur megys yn llefain bod gelyn wedi dyfod i mewn; y mae ei theimladau peiriannol yn canfod ei wyddfoldeb yn ddîoed, ac y mae y galluoedd bywydol yn rhuthro i'w hamddirryn yn erbyn y gelyn. ' Y mae llawer yn gydnabyddus â'r profion a wnaed gan Dr. Beaumont ar ddyn, yr hwn yr agorid rhwyg yn ei gylla gan belen o wn, a'r hon a barâodd yn agor- ed wedi i'r archoll wellâu. Rhoddai yr amgylchiad nodedig hwn fantáis iddo sylwi ar y tu mewn i'r cylla dynol, pan oedd y gweithrediad treuliol yn myned yn mlaen. Defnyddiodd y cyfleusder i sylwi ar yr effeith- iau a barai amrywiol fath o ymborth, &c. ar y cylla. Sylwodd ar effeithiau yr holl wlybyroedd meddwol; nid yn unig gwirodydd, ond hefyd gwin, osai, foider,) cwrw, &c. Pan ddefnyddiai ryw un o honynt ychydig o ddyddiau olynol, gwelid cochni yn ymdaenu yn fuan dros arwyneb y cylla, gydâg ysmotiau gwynion yma a thraw; ac os parêid i'w defnyddio, arwyddion o anhwyl- deb a ddilynent yn ddioed. Cur pen, a cholii chwant bwyd, a roddent brofion o ddyryswch y gweithrediad iachusol: a chan fod gwlybyroedd yn myned o'r cylla cyn i dreuliad'y sylweddau celyd ddechreu, gwelai Dr. B. eu bod yn rhwystr yn hytrach nag yn gynnorthwyol, ac yn gohirio treuliad yr ymborth, yn lle prysuro hyny, megys y dychymyga rhai. Y mae y gwirf yn myned i'r gwaed yn gymysgedig â man ronynau dyfrllyd; ond er hyny fe'i teflir allan o'r cyfansoddiad yn ei ffurf wirfawl. Y mae y ffeithiau canlynol yn dangos hyn.