Skip to main content

H ID2IBWIMWIDID< Ffrwyth yr Ysbryd yw—DirWest.' riiîì: ©o liWRTH, 1§S7. [Pris lc. ARDYSTIAD CYMMANFA DDIRPRWYOL DIRWEST GWYNEDD, Yr hon a gynnaliwyd yn Ninbych, Chwefror 8 a'r 9, 1837. •* Yr ydwyf yn ymrwymo yn wirfoddol i lwyr ymatal oddiwrth yfed pob math o Wlybyroedd Meddwol fel diod; i beidio a'u rhoddi na'u cynnyg felly i neb arall; ac yn mhob modd i wrthsefyll pob rhyw achosíon ac achlysuron o Annghymedroldeb." RHESYMAU DROS DDIRWEST. Sylwedd Araeth a draddododd y Parch. W. Roberts, Caergybi, yn addoldŷ y Trefnyddion Calfinaidd, yn Oil-street, Literpool, Ionawr 6, 1837. Y mae dyn yn greadur rhesymol, ac fel y cyf- ryw dylai fod yn barod i ateb i bob un a ofyno iddo reswm am y pethau y mae yn eu credu, a'r pethau y mae yn eu gweithredu. Heb hyn, darostyngai ei hun islaw creadur rhesymol Pe gofynid i ddyn paham y mae yn ymborthi, yn ymddilladu, ac yn addoli; oni byddai ganddo resymau cedyrn dros y pethau hyn, ni byddai y cyfryw yn deilwng o'r enw, dyn. Felly pe gofynid i ninau, paham yr ydym wedi ymuno â'r Gymdeilhas Ddirwestol; paham yr ydym yn ei charu mòr wresog, yn ei dilyn mòr gyson, yn ei gwasanaethu mòr ewyllysgar, ac yn ei hamddiffyn mòr wrol; oni byddai genym res- ymau cedyrn dros ein hymddygiad, gellid, yn gyfiawn, ein golygu yn anmhwyllwyr, 'ie, yn wallgofiaid. Cìall rhai, er pob peth, ein gol- ygu yn anmhwyllwyr; ond atebwyf y cyfryw trwy ddy wedyd, " Os anmhwyllo yr ydym i Dduw yr ydym." Enw Duw, yr hwn a geblid gan y meddwon, sydd yn agos at ein calon: gair Duw, yr hwn a ddirmygid gan y meddw- on, sydd mewn parch genym : gogoniant Duw, yr hwn a ddirmygid gan y meddwon, sydd yn gorwedd yn bwysig ar ein meddyliau. " Ac os yn ein pwyll yr ydym, i chwi yr ydym " Eich dedwyddwch chwi, eich llwyddiant chwi, eich diogelwch chwi, yw ein dyben yn ein holl ymdrechiadau. Wel, dymunem wybod ffpa beth yw y ddysg newydd hon a draethir genych; canys yr yd- ych yn dwyn rhyw bethau newydd i'n clustiau ni; am hyny ni a fynem wybod beth a allai y pethau hyn fod ? " Gwrandewch, a mi a fyn- egaf i chwi. Egwyddor y gymdeithas ydyw, }rmattaliad hollol oddiwrth bob math o dd'iod- ydd meddwol; oddieithr yn sacramentaidd a meddygawl. oblegyd, yn Yr wyf yn pleidio yr egwyddor, 1. Na ihrefnodd Durv y diodydd meddwol, yn ddìod gyffredin i'ro greaduriaid. Y ddi'od a drefnodd Duw i'w greaduriaid yw dwfr neu laeth. Y mae dyweyd bod y d'iodydd raeddwol yn well na dwfr neu laeth, yn taflu dirmyg ar ddoethineb, ac yn cymylu gogoniant Duw fel llywodraethwr y byd. Meddyliwch am yr asyn gwyllt, (Zebra,) "yrhwnsydd 'i'i drigfa yn yr anialwch; yr hwn a chwardd am ben lliiaws tref; ac ni wrendy ar lais y geilwaid;" ni ŵyr am ddim cryfach i'w yfed na dwfr yn barâus. Meddyliwch am y march cryf; i(\v hwn a gloddia y dyffryn â'i draed; yr hwn a dd'fystyra arswyd; yr hwn a lwngc y ddaear gan greulondeb a chynddaredd; yr hwn a ddywed yn mhlith yr udgyrn, Ha ! ha!'' ni ŵyr am ddim cryfach di'od nâ dwfr bob dydd. Meddyliwch am y llew cryf; yr hwn a rüa nes hollti yr awyr, nes y b'o y goedwig yn crynu, a bwystfìlod yn brawychu yn eu lloch- esau ; ni ŵyr am ddim cryfach i'w yfed beu- nydd nâ dwfr. Meddyliwch, wedi hyny, am yr adar bach, sydd yn llenwi pob llwyn â pheroriaeth ddifyr, àc sydd ddigon i godi ys- bryd y cystuddiedig; nid archwaethant ddim di'od gryfach nâ dwfr yn wastadol. A phan oedd Israel yn teithio yn anialwch Arabia, yr oeddynt yn fawr eu lludded a'u syched gan boethder yr hin; ond dygodd Duw ddwfr allan o'r graig, yn Horeb; hwy a yfas- ant o hono, a'u hysbryd a adfywiodd. A phan oedd Samson wedi bod mewn ymdrech caled gydâ'r Philistiaid, dygodd Duw ddwfr allan o ddant asyn; efe a yfodd o honOî a'i ysbryd a ddychwelodd. Gallasai Duw, yn yr amgylch- iadau hyn, ddwyn allan y Brandy, y Rum, y Gwin, neu y Cwrw, mewn cyflawnder; oblegyd gwyrth a fuasai y naill yn gystal a'r llall. Y mae yn ddi'au genyf, pe buasem ninau wedi yfed dim ond dwfr, neu laeth, er pan ddaethora j. i'í byd, y buasem yn gryfach, yn biydferthach,