Skip to main content

Y DIRWESTYDD 'Ffrwyth yr Ysbryd yw—Dibwbst/ ltliíl. 8.] CHWËFROB, 1839. CPrfts lc Ym. Egwyddorion a bleidir yn y Cyhoeddiad hwn, ydyrtt y rhai a gyntoyẁr yn YR YMRWYMIAD DIRWESTOL. «* Yr wyf yn ymrwymo yn wirfoddol i lwyr ymatal oddiwrth yfed Gwirodydd, Cwrw, Pcrtar, Clder, Gwìn, (oddleitbr yn Sacramentaidd, neu fel meddyginiaeth,) a phob math arall o Ddiodydd Meddwol;—i beidio a'u rhoddi na'u cynnyg i neb arall;—ac yn mhob modd i wrthsefyll pob rhyw achosion ac achlysuron o Annghymedroldeb." HAERIADAU PLEIDWYR YFED DIODYDD MEDDWOL. Mewn cyfarfod cyhoeddus y Gymdeithas Gymedroldeb, a gynnelid yn ddiweddar yn Rhuthyn, haerai un neu ddau o'r areithwyr, " Bod cymedroldeb o ddiod gadarn mor angen- rheidiol at gynnaliaeth y natur ddynol, ag ydyw cymedroldeb o ymborth, diüad, a chwsg." Fel y dywed yr hen air, " Haws dyweyd * mynydd/ na myned trosto ; " felly haws oedd dy wedyd hyn na'i brofi ; ond hawdd y gellir profi i'r gwrthwyneb, drwy tíèithiau anwadadwy. Pwy a all ymwrthod â phób ymborth, a natur, yn lle trengu, yn myned yn iachaeh ac yn gryfach? Neb. Ac os yw cymedroldeb o ddi'od feddwol mor angenrheid- iol âg ymborth, er cynnaliaetb dyn, pa fodd y jnae miloedd o ddirwestwyr yn gallu byw er's blynyddau, gan dystio, pan yn cyflawni y gor- uchwylion caletaf, eu bod yn gryfach ac yn iachach trwy lwyr-yraattal oddiwith y cyfryw ddi'odydd? Ped ymattaliai dynion oddiwrth bob math o ymborth, buan y trengynt; a chyfrifid hwy gan Dduw a dynion, yn hunan- leiddiaid. Hefyd, y mae cwsg mor naturiol i ddyn fel nas galL lwyr-ymwrthod âg ef: a phe gorweddai dyn iach, lluddedig, yn sŵn holl glychau a thabyrddau y byd, gallwn roddi hér iddo lwyr-ymwrthod â chwsg: i'e, nis gall dynion Juw yn hir heb gysgu. Ond "y mae cymedroldeb o ddiod gadarn mor angenrheid- iol â dillad." Wele, wfl't i chwi! Pwy, mewn difrif, a ddichon rodio yn noeth, ar bob math o dy wydd, heb fod yn agored i glef- ydau, ac i angau ? Pa gysondeb na rheswm sydd mewn haeru bod dîodydd meddwol, (â pha rai y gall dynion lwyr-ymwrthod byth, a bod yn iachach a chryfach trwy wneud felly,) mor angeniheidiol at eu cynnal âg yw ym- borth, dillad, a chwsg? Oni wyddant y gwyr cymedrol hyn y byddai mor hawdd i ddyn fyw heb awyr i anadlu ynddi, a byw heb ymborth ? Haerid hefyd ein bod ((yn diystyru rhoddiou yr Arglwydd, trwy Iwyr-ymwrlhod a diodydd meddwol." Gofynaf i'r gwŷr hyn, Onid oedd y Nazareaid, y Rechabiaid, Daniel a'i gyfeillion, ac Ioan fedyddiwr, yn gymaint di'ystyrwyr arnynt a ninau ? Ac er hyny dyma fel y dy- wedir am daUynt hwy: " Am hyny, (sef am ymwrthod â gwin, yn mhlith pethau ereill,) fel hyn y dywed Arglwydd y îluoedd, Duw Israel, Ni phalla i Jonadab, fab Rechab, ŵr i sefyll ger fy mron i yn dragywydd " Jer. 35. " A Duw a roddes Ddaniel mewn ffafr a thir- iondeb gydâ'r pen-ystafellydd. A'r bechgyn hyny ill pedwar, Duw a roddes iddynt wybod- aeth a deall yn mhob dysg a doethineb." Dan. i. 9—17. Ac am Ioan y dywedir, ««Canys mawr fydd efe yn ngolwg yr Arglwydd, ac nid yf' na gwin na diod gadarn ; ac efe a gyf- lawnir o'r Ysbryd Glàn, ie, o groth ei fam." Luc i. 15. Pa fodd yr oedd yr Arglwydd yn bendithio ac yn canmol y gwŷr hyn, os oedd- ynt yn di'ystyru ei roddion trwy Iwyr-ym- wrthod â gwinoedd? A chan fod eu gwaith hwy yn llwyr-ymwrthod â gwinoedd a di'rd- ydd cedyrn yn yr oesau hyny, yn ganmoladwy gan yr Arglwydd, onid rhesymol meddwl bod dirwestwyr yr oes hon yn ymddwyn yn ol ei ewyllys trwy wneuthur yr un modd? Os nad ydynt, pa beth yw yr achos o hyny ? Dywedid hefyd, " Pe buasai pawb yn gym- edrol, ni buasai meddwon yn Rhnthyn." Nis gwn pa fodd y mae cymedrolwyr yn gallu haeru hyn ; oblegyd pa faint bynag o wirion- edd a ddichon fod yn y dywediad, a'i ystyried yn wahanredol, (fel pe dywedid, pe buasai yr holl feirch yn ebolion, ni buasai un cèftÿl yn y wlad,) y mae yn amlwg nad oes un meddwyn o fewn Prydain, na bu unwaith yn yfwr cym- edrol: a thra byddo yfwyr cymedrol yn y byd, ni welir y byd heb feddwon. Y mae hyn yn rhwym o gymeryd lle, yn olnaturpethau. Pa beth a greodd y chwant at ddîodydd cedyrn, ond ymarferiad cymedrol â hwynt ? Y mae gwrthdarawiad yn y natur ddynol i ddi'odydd meddwol, nes ei gorchfygu gan rym arferiad. Clywais ugeiniau o feddwon yn tystio, mai trwy yfed yn gymedrol yr aethant yn feddwon.