Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIRWESTYDD Ffrwyth yr Ysbryd yw—Dirwest.' Rhif. 7.] IONAWR, 1837. [Pris lfc. Yu Egwyddorìon a bleidir yn y Cyhoeddiad hwn, ydynt y rhai a gynwysir yn YR YMRWYMIAD DIRWESTOL. •* Yr wyf yn ymrwymo yn wirfoddol i lwyr ymatal oddiwrtli yfed Gwirodydd, Cwrw, Porter, Cider, Gwin, (oddieithr yn Sacramentaidd, neu fel meddyginiaeth,) a phob math arall o Ddiodydd Meddwol;—i beidio a'u rhoddi na'u cynnyg i neb arall;—ac yn mhob modd i wrthsefyll pob rhyw achosion ac achlysuron o Annghymedroldeb." YR EFENGYL A LLWYR-YMATALIAD. Nid anfynych y dywedir gan rai dynion syml a chrefyddol, a hyny efallai oddiar eiddigedd dros yr ordinâd ddwyfol o bregethu yr efengyl, " ein bod yn gosod y Gymdeithas Ddirwestol yn gydradd â, os nad uwchlaw, gweinidogaeth fawr yr Efengyl." Y mae hwn yn gyhuddiad o r fath drymaf a ellid ei ddwyn i'n herbyn; a phe byddai yn wirionedd, addefwn yn rhwrydd y gwnaem ni, beth bynag, ymddidoli oddiwrth y fath gymdeithas cygynted ag y gallom ; ac yr ydym yn sicr y gwnai rhai miloedd o'n brodyr dirwestaidd, yn Nghymru a Lloegr, yr un modd. Ond yr ydyni yn ddigon dibetrus yn dyweyd, mai camdystiolaeth hollol ydyw hon, fel llawer ereill a ddygir i'n herbyn. Fe ddichon, yn wir, fod ambell un, wrth ddadleu yn frwdfrydus o blaid y gymdeithas, wedi dywedyd rhyw bethau ag oeddynt yn tueddu i roddi gormod o sail i'r cyfryw gy- huddiad : ac os bu felly, ni ddylid rhyfeddu fod rhai dynion da a duwiol yn edrych yn lled oeraidd ar yr achos dirwestaidd; oblegyd nis gall eu heiddigedd dros y gosodiad dwyfol ò bregethu yr efengyl, trwy yr hyn y " gwelodd Duw yn dda gadw y rhai sydd yn credu," lai nag ymgodi yn erbyn pob peth a osodir i fynu fel ei chyd-ymgeisydd. Y mae'n sicr y dylid bod yn dra gofalus pwy a bennodir i bleidio yr achos yn gyhoeddus, rhag i'r cyfryw, o ddiffyg pwyll ac ystyriaeth, wrneuthur mwy o niweid iddo nag o les. Cynnydd a llwydd y gym- deithas a ddylid ei oíygu yn benaf, wrth drefnu rhai i areithio o'i phlaid, yn hytrach na boddio neb dynion, pwy bynag fyddont. Y mae y gymdeithas ddirwestol wredi bod eisoes yn foddion, dan fendith y Goruchaf, i ddwyn llaweroedd. o rai a dreulient eu dyddiau mewn dibrisdod ac esgeulusdra o'r efengyl a'i hordinadau, i fod yn wrandawyr cyson ar y weinidogaeth, ac i ymarfer â phob moddion o râs. Ac y mae hyn yn brawf dì'ammheuol mai nid gwrthdaro y sefydliad dwyfol o bregethu yw tuedd y gymdeithas hon; ond yn hytrach ei bod yn "darparu i'r Arglwydd bobl barod," trwy ddwyn dynion i sefyllfa addas i allu ym- arfer â moddion iachawdwriaeth. Ië, y mae yn dwyn dynion i barchu gwreinidogaeth yr efengyl, yr hyn sydd yn ddyledswydd arbenig ar bob dyn. Y mae y gymdeithas ddirwestol yn tynu y meddwon a'r d'íotwyr o'r tafarnau, | gan eu dysgu i dafiu y ddiod syfrdanol oddi- wrth eu mîn; ac yna yn eu dwyn i sŵn yr efengyl, " yn eu dillad a'u hiawn bwyll." Y mae yn sychu i fynu y corsydd a'r Heoedd lleidiog, fel y gallo yr hwn sydd " yn hau yr had da," gael tir addas i'w fwrw ynddo; a gellir dysgwyl fFrwyth toreithiog oddiar y íle- oedd hyny àc a olygyd o'r blaen fel yn an- obeithiol cael dim ffrwyth i Dduw arnynt byth. Nid oes un dirwestwr ystyriol yn meddwl fod ei waith yn ymatal oddiwrth ddi'odydd meddwol, yn ddigon iddo yn lle profiad o allu Duw trwy yr efengyl yn troi ei enaid. Ond y mae yn debygol yr addefa pawb, mai an- nrhaethol well y w bod yn gwbl rydd oddiwrth effeithiau syfrdanaidd d'iod feddwol, yn gwran- do yr efengyl, na bod wedi ymlenwi â'r cyfrvw: oblegyd nid oes gan y rhai a ymlenwrant â díod gadarn, un sail i ddysgwyL tra yn y cyfryw agwedd, y llenwir hwy â'r Ysbryd Glân. Y mae gweinidogaeth yr efengyl mòr or- uchel yn ei Hawdwr, ei natur, a'i dyben, fel nad addas yw cyferbynu na chystadlu unrhyw sefydliad dynol â hi; oddieithr i'r dyben o ddangos ei rhagoroldeb, neu er profi ei bod yn rhoddi cefnogaeth i'r cyfryw beth: o herwydd y mae yn sicr bod yr efengyl yn cefnogi ac* yn pleidio pob sefydliad, pob amcan, a phob cym- deithas, àc sydd yn tueddu at ddaioni amserol neu dragwyddol i ddynion. Arwyddair bendi- gaid yr efengyl yw, "I ddynion ewyllys da :" a chan fod amcan y gymdeithas ddir- westol yn cydgordio â'r arwyddair hwn, gallwn ddywedyd yn hyderus bod Duw a'i efengyl yn bleidiol iddi; ac os yw Duw drosti, y mae yn sicr o lwyddo, er pob gwrthwynebiadau.—G.