Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

RHIFYN ADCHWANEGOL DIRWESTYDD. " Ffrwyth yr Ysbryd yw—Dirwest." Rhif. 5.2 TACHWEDD TS, 1936. [^rfs lc* GWELLIANT AR Y CYFARWYDDYD I WSEDTHUE BURYM DIRWESTAIDD. (Gwel tudalen \A.) AT OLYGYDD Y DIRWESTYDD. Garedig Gyfaill, Gwelais gyfarwyddyd yn yr ail Rhifyn o'r Dirwestydd, tudalen 14, i wneud bara heb arfer burym cyffredin; a da yw y gellir gwneu- thur bara iachus heb arfer y cyfryw, gan fod cynifer yn bresennol yn cael eu nacâu o furym gan y Tafarnwyr; a dymunol fyddai hysbysu i'r holl wlad, nad oes dim eisiau burym mewn un modd tuag at wneud bara iach. Ond y mae yn bosibl gwellâu llawer ar y cyfarwydd- yd a nodwyd uchod, a'i addasu at amgylchiadau pob cwr o'r wlad yn fwy, gan nas gall pawb gael llaeth sur bob amser; a hefyd byddai y bara yn well pe rhoddid un dram o Carbonate of Amonia at bob owns o Carbonaie of Soda, gan eu cyd-doddi mewn tna hanner peint o ddwfr oer, neu glaiar, (ond heb fod yn boeth,) a'i roddi yn nghanol y blawd, gan ei gymysgu fel y gwneir â lefain neu furym: a phryd na byddo Uaeth sur i'w gael, gellir defnyddio sudd crabas, a elwir Verjuice, neu winegr, yn gymysgedig â dwfr, yn y modd canlynol: At wytb owns o Carbonate of Soda, rhodder un owns o Carbonate of Amonia, yn llwch, gan eu cymysgu yn dda, a'u cadw mewn costrel, neu lestr cauedig, rhag yr awyr. I wneuthur 20 pwys o flawd yn fara, cymerer un owns o'r cymysg hwn, a phedair owns (sef chwarter peint) o winegr, neu o Verjuice, yn gymysgedig â dwfr: tyliner yn gyflym, a rodder yn y pobtŷ yn ddiymaros. Pe byddai yn anhawdd cael gwinegr neu Ferjuice, fe wnai hanner owns o Tartaric Acid, wedi ei doddi yn y dwfr, ateb yr un dyben. Gwinegr gwyn yw y goreu, o herwydd fe fydd y bara yn wynach. Yn Rhifyn 3, tudal. 23, yn y cyfarwyddyd i wneuthur Peppermint Water, ni chofiodd yr ysgrifenydd mai nid yr un peth y w Essence qf Peppermint ac Oil of Peppermint; o herwydd y mae yr Essence yn cynwys gwirf, (alcohol,) sef tua 3 owns o Oil of Peppermint a 2 beint o wirf.* Heblaw hyny, pe yr Oil a ddefnyddid, byddai y ddîod yn rhy gref i'w hyfed yn ol y cyfarwyddyd hwnw; canys fe wna un owns o Óil of Peppermint wyth galwyn o dd'fod llawn ddigon cref i neb ei hyfed, sef un dram i bob galwyn. A'r neb a fyno wneud ychydig, rhodded 15 dyferyn o Oil of Peppermint ar hanner pwys o siwgr gwyn heb ei falu, a thywallted arno chwart o ddwfr poeth, a chaiff brawf y bydd yn ddigon cryf i fod yn hyfryd i'r archwaeth. Camgymeriad mawr hefyd yw tybied fod y Ginger yn gryfach wrth ferwi llawer arno, fel yn y cyfarwyddyd cyntaf. Y gwirionedd yw, y mae grym yr holl sylweddau peraroglaidd, (aromatics,) ar ol dechreu berwi, yn esgyn yn yr agerdd i'r simnai; ac, o ganlyniad, y mae y drwyth yn gwanâu. Gwell fyddent heb ferwi ond ychydig, a gofalu am fod caead tyn arnynt, i atal yr agerdd rhag esgyn. Ydwyf yr eiddoch, E. Phillips. Gwrecsham, Hydref 20, 1836. Dymunem ddychwelyd ein diolchgarwch diffuant i'n gohebwr parchus a dysgedig, yn enw ei holl frodyr dirwestaidd, am ein cynnysgaeddu â'r llythyr gwerth- fawr uchod; a thaer erfyniwn ar iddo ein hanrhegu etto, o bryd i bryd, â'i gyfarwyddiadau synwyrìawn a defnyddiol. Afraid fyddai i ni geisio ymesgusodi yn herwydd y gwallau a noda, gan nas gwnaethom ond yn unig eu cymeryd hwynt fel yr oeddynt yn y Saesonaeg. Di'au fod yn Nghymru lawer o wýr dysgedig, ac yn meddu ar wybodaeth helaeth mewn athronyddiaeth anianyddol ac ymarferol, ac yn ewyllyswýr da, o leiaf, i'r achos dirwestol, pa rai a aîlent fod o ddefhydd mawr i'r achos, trwy eu hysgrifeniadau ar amryw faterion. Gwyddom am rai Meddygon enwog a pharchus, àc sydd yn bleidwŷr egn'i'ol i'r achos hwn, y rhai a allent fbd o ìawer mwy o ddefnydd i'r achos pe cefnogent ef trwy y wasg hefyd, yn gystal â thrwy eu hareithiau hyawdl. Byddai yn ddywenydd mawr i holl ddirwe^twyr Cymru pe deuant yn mlaen i'w cynnorthwyo felly; oblegyd byddent hwy "yn lle Uygaid i ni." Er mai ein har- wyddair yw, í{ Y GWia yn erbyn y byd ; " ac mai at y gwir yr amcanwn bob amser; etto, efallai, y byddwn yn methu y nòd yn ihy fynych : ond diolchem i bwy bynag a'n gosodai ar yr iawn—Gol. * See Gray's Supplement to the Pharmacopia, p. 342.