Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DIRWESTYDD. Ffrwyth yr Ysbryd yw—Dirwest/ IfcBiil. 4.] TÂCHWEDD, 1§S6* [Pris le« Y GWYDRAID BYCHAN. Mewn cyhoeddiad cymedrolder Americanaidd, rhoddid y darlun canlynol, yr hwn a wnaed yn ofalus gydâ gradd- fesur a chwmpas wrth Brande's Table, i'r dyben o ddangos i'r llygad y gwahanol gyfarlalrwydd o wirf (alcohol) àc sydd mewn gwirod, gwin, cwrw, ac osai; (cider;) wrth edrych ar ba un, gall y darllenydd íFurfio meddyl-ddrych lled gywir am y dogn o'r sylwedd meddwol a gynwysir yn yr amrywiol ddíodydd hyn. " Dywedais fod rum, gwin, cwrw, ac osai, (cider,) yn cynwys gwirf. Cynnygiaf roddi eglurâd i'ch llygaid o'r gyfran o wirf y mae y naill a'r llall yn ei gynwys, a pha faint o'r naill sydd raid ei yfed i'r dyben o gael y nerth, neu y gwirf, a gynwysir yn y llall. Yn ol Tablau Brande, cynwysa y 19 math o win a enwir gyntaf, wedi eu dosranu (analized), 22 rhan o'r ganfed o wirf; cwrw Burton 9 rhan o'r ganfed; osai (cider) ychydig dros 74 rhan o'r ganfed ; a rum, gin, brandy a whishey 53 rhau o'r ganfed. " Y mae llawer, er eu bod yn ystyried yfed gwirod yn beth isel a gwael, etto yn ymlynu wrth yr arferiad o yfed gwin, cwrw, ac osai. Yn awr, yr wyf yn galw ar y darllenwýr i farnu yn ddiduedd acbos y pedwar yfwr canlynol. " Y cyntaf yw yr yfwr gwirod: y mae arno eisiau rhywbeth i wneuthur iddo deimlo yn well: ni chaniatâ ei sefyllfa iddo yfed gwin ; am hyny efe a gymer wydr- aid bychan o rum, yn gymysgedig â dwfr glân. " Yr ail yw yr yfwr gwin. Y mae arno yntau eisiau cael cynwysiad y gwydraid bychan ; ond y mae yn beth rhy isel ganddo yfed rum ; heblaw hyny y mae efe yn ŵr cymedrol, ac wedi arwyddo yr ymrwymiad, ac ni fydd yn yfed dim cryfach na gwin. Ni raid iddo ond líenwi Rhif. 2 â gwin, ac efe a sicrâ y gwydraid bychan o rum, neu yr hyn sydd yn ogymaint. 0 y gwydraid bychan anwyl! " Onid bychan yw V* "Y trydydd yw yr yfwr cwrw. Y mae efe wedí ymuno â'r gymdeithas gymedrolder, ac yn ymwenieithio iddo ei hun ei fod ef allan o berygl; ond y mae amo eisiau teimlo yn well hefyd. O'r gwydraid bychan acw ! Eithr nid yfa efe ddim cryfach na chwrw. Nid rhaid iddo yntau ond Uenwi Rhif. 3 âg ef, ac efe a fjdd yn sicr o'r gwydraid bychan. " Onid bychan yw ?" " Yn ddiweddafy maeyfwr osai (Cider) yn dyfod yn mlaen. Teimla lesgedd yn ei gylla; eithr ni fyn ddim o'r cymysgiadau a elwir gwin a chwrw. Efe a leinw Rhif. 4 âg osai gwreichionllyd, ac a'i teifl i lawr i'w gylla; a chydâg ef yr â nerth y gwydraid bychan. " Yn awr gofynaf i chwi, Pa un o'r pedwar yma sydd a'r hawl oreu ganddo i gael ei ystyried yn weddaidd a chymedrol ? Gwelaf eich bod wedi penderfynu eisoes, a'ch dedfryd sydd fel y canlyn: " Y mae yr yfwr gwirod yn cymeryd ei wydraid o wenwyn yn gymysgedig â dwfr glân: cymer yr yfwr gwin ei wydraid yn gymysgedig â nis gŵyr pa beth; a'r un modd y gwna y ddau ereill. Y mae pob un wedi sicrâu iddo ei hun gynwysiad y gwydraid bychan, gan gymeryd yr un faint o wirf, er ei fod wedi ei gymysgu yn wahanol. Y mae pob un o honynt wedi dynesu yn. gydradd at feddwdod. Ac ond ychwanegu yr un dogn ddwywaith neu dair, yn ol y byddo yr achos, ac f» fydÄ y pedwar boneddigion hyn yn hollol feddw."