Skip to main content

Y DIRWESTYDD. " Ffrwyth yr Ysbryd yw—Dirwest.' ltllîf. ».] I?1E1>]. 1S30. [Prls lc* LLWYDDIANT CYMEDROLDEB YN NGHYMRU. [Erfynir hynawsedd darllenwyr y Dirwestydd yn herwydd ei fod mor ddiweddar cyn ymddangos y tro hwn, yr hyn a achlysurwyd, mewn rhan, trwy ymwel- iad y Cyhoeddwr â gwlad ei enedigaeth.] Y mae yr olwg àc sydd yn bresennol ar achos Cymedrolder mewn amrywiol o ardaloedd Cymru, yn destun o syndod mawr, yn gystal âg o'r diolchgarwch gwresocaf, i bob cristion gwladgarol; ac nis gall neb ystyriol edrych ar yr hyn a wnaed, heb ganfod a chydnabod mai llaw yr Arglwydd a fu yn gweithio. Braidd y gallasai y mwyaf brwd-frydus ei feddwl gydà'r achos hwn, ddisgwyl gweled y fath lwyddiant ar yr egwyddor o lwyr-ymwrthodiad â díodydd meddwol, o'r hyn líeiaf mewn cyn lleied o amser. Ac wrth ystyried gymaint o lês ac o ddaioni a brofir ac a fwynêir, gan gan- noedd o'r sawl a dderbyniasant ac a weithred- ant yn ol yr egwyddor hon, y mae genym sail i ddisgwyl yn hyderus y bydd i'r cyffredinol- rwydd o honynt ddal eu ffordd, yn gystal âg i obeithio y caiff miloedd etto eu tueddu i wneuth- ur yr un modd: i"e, yr ydym yn hyderu y bydd meddwdod wedi myned, cyn pen ychydig o amser, mor warthus a dirmygus yn ngolwg v Cymry, fel mai nid hawdd fydd cael meddwyn o fewn yr holl Dywysogaeth, er chwilio am dano o Gaergybi hyd Gaerdydd. Er bod y gelyn wedi dyfod i mewn i'n gwlad fel afon lifeiriol, " Ysbryd yr Arglwydd a'i hymlid ef ymaith;" a hyny trwy y cyfryw foddion àc a fyddo yn " cuddio balchder oddiwrth ddyn," fel y byddo "yr Arglwydd yn unig yn cael ei ddyrchafu." Y mae cynnydd a llwyddiant annghyffred- inol ar y Cymdeithasau Dirwestol yn swydd Fflint, a hyny o'r naill gẁr i'r llall iddi bron. Yn Dyserth, Rhyl, Mostyn, Carmel, Treffyn- non, Wyddgrug, Bulkeley, Penarla^, Caergwrle, &c, y mae y tân pureiddiol hwn wedi enyn, ac yn íflamio mòr danbaid nes y mae yn difa pob rhwystrau a osodir o'i flaen, gan lenwi calonau llaweroedd â dîolch, a'u geneuau a mawl i Awdwr pob daioni, am ymweled yn ei râs a'i drugaredd i achub meddwon Cymru, yn lle ymweled â hwy ar lwybr ei farnedigaethau. Ýn swydd Dinbych hefyd, y mae yr achos yn myned rhagddo yn llwyddiannus mewn am- rywiol fanau, sef yn Ngwrexham, yr Adwjc, Rhuthin, Dinbych, Henllan, Llanrwst, &c., a gwyddom fod parodrwydd i ffurfio cymdeith- asau mewn llawer o ardaloedd ereill, yr hyn ni a obeithiwn gael yr hyfrydwch o hysbysu cyn pen hir. Y mae yr un tân wedi dechreu mewn rhai ardaloedd yn Sîr Gaernarfon, yn enwedig yn nghymmydogaethau chwareli Llanberis, Llan- ddeiniolan, Bethesda, &c, a channoedd lawer wedi ymrestru yn llwyr Ddirwestwŷr. Disg- wyliwn erbyn y bydd hyn yn cael ei ddarllen yn Nghaernarfon, Bangor, Conway, &c, y bydd cymdeithasau wedi eu sefydlu yn y trefydd hyny hefyd; o herwydd gwyddom fod yn mhob un o honynt amrai gyfeilìion yn awyddus anx hyny, àc sydd yn wŷr o gymeriad a pliarch gan eu cydwladwyr. Parai ein hymweliad âg ynys Môn ddywen- ydd a sirioldeb nid bychan i'n meddyliau, wrth weled y fath addfedrwydd cyffredinol i gofleidio egwyddorion Dirwest. Y mae gweinidogion, pregethwyr, henuriaid, ac athrawon yr Ysgol- ion Sabbothol yn Môn, yn ymwroli i fyned yn erbyn annghymedroldeb; a'r rhan fwyaf o honynt yn addef mai y ffordd oreu i'w ddaros- twng yw trwy lwyr-ymwrthod âr diodydd sydd yn ei achosi. Penderfynwyd yn nghyfarfod blynyddol yr Ysgolion Sabbothol, a gynnaliwyd yn Llangristiolus, A wst 23, na byddai i neb fod yn athraw nac yn athrawes yn yr Ysgolion, heb fod yn aelod o'r Gymdeithas Gymedrolder. Y mae rhai Cymdeithasau Dirwestol eisoes wedi eu ffurfio, yn cynwys cryn nifer o aeîodau, sef yn Llanfechell, (yr hon yw y gyntaf a sefyd- lwydyn Nghymru,) Llanerchymedd, Llangefni a Gwalchmai; a chyn ymddangosiad ein rhifyn nesaf, yr ydym yn disgwyl gallu hysbysu am sefydliad y cyffelyb mewn llawer o leoedd ereill. Nid oes eisiau ond i'r ymrwymiad dirwestol gael ei gynnyg, a llyfr cyfaddas gael ei barotoi, na byddai cannoedd, 'ie, miloedd, yn prysuro i arwyddo eu henwau wrtho. Yr ydym yn gobeithio y bydd holl siroedd Cymru yn fuan yn cael eu llenwi â'r un ysbryd o ddiwygiad, âgy sydd eisoes wedi dechreu mewn