Skip to main content

" Ffrwyth yr Ysbryd yw—Dirwest.' BCiiif. i/j AWST, 1§36. [Vria lc. AT Y CYMRY. GYDWLADWYR HÔFF, Ar gychwyniad Cyhoeddìad newydd, yr hwn a amcenir i fod yn ymwelydd misol â chwi, yr arferiad gyffredinol ydyw rhoddi ger eich hron ryw resymau er ceisio dangos bod anghen am y fath gyhoeddiad: a chan y gol- ygir y cyfryw arferiad yn un digon gweddus, gwnawn ninau hefyd yr un modd; ac ond i'r pethau canlynol gael eu hystyried, yr ydym yn hyderus yr addefìr yn rhwydd nad afreidiol yw y cynnygiad i sefydlu "y DirWestydd," fel cyfrwng i led-daenu gwybodaeth yn mhlith y Cymry, ara y pethau a dueddant at lwydd i achos cymedroldeb yn ein gwlad. Anturiwn gyhoeddi "y Dirwestydd," o herwydd nad oes un cyhoeddiad yn yr iaith Gymreig â'r un dyben pennodol iddo: yr hyn yw, ceisio gwrthsefyll y llifeiriant dinystrìol o feddwdod, di'otta, a chyfeddach, àc sydd wedi ymdaenu dros ein gwlad, nes y mae mìloedd lawer o'n cydgenedl yn sicr o gael eu cludo gan y gorlif creulon i fôr o wae tragWyddol, oni chipir hwy ar frŷs o gyrhaedd y ffrwd angeuol, a'u gosod i sefyli ar y graig uchel a chadarn o ddirwbst ; yr hyn y w amcan clod- wiw y Gymdeithas Gymedrolder. Y mae yn wir bod amryw o'r Cyhoeddiadau misol yn Nghymru, er eu mawr anrhydedd, yn rhoddi ìle i Ohebiaeth achlysurol ar y testyn hwn; ' nd nid oes un o honynt wedi ei fwrìadu i'r îiîìíg berwyl o bleidio cymedrolder, yn enwedig ìlwyr ddirwest A phe byddai iddynt wneuthur hyny, y mae eu prîs yn rhy uchel i'r cyffredin- olrwydd allu eu prynu: ond y mae " y Dir- Westydd" yn ddigon isel i'r tlotaf allu ei gyrhaedd; a chaiff yma lawn werth ei geiniog am dani, fel y gwelir wrth y Rhifyn hwn. Heblaw hyny, y mae holl gyhoeddìadau misol trefyddol y Dywysogaeth yn dwyn perthynas â rhyw enwad neilltuol o Gristionogion, yr hyn, ysywaeth, a lesteiria lawer ar eu lled-daeniad a'u defhyddioldeb. Ond ni oddef yr achos hwn i unrhyw ddadl gymeryd lle rhwng y rhai a wir ddymunant lesâd a chysur amserol, ac achub- iaeth dragwyddol, eu cyd-bechaduriaid: gan hyny y mae "y Dirwestydd," wrth ei enw, yn honi perthynas â phob plaid o grefyddwýr, y naill cygystal â'r llall, wrth ba enwad bynag yr adwaenir hwy yn mysg dynion; a hydera y caiff dderbyniad a chefnogrwydd ganddynt oll. Os na fedrwn gydweled yn hollol am y dull goreu ì gyrhaeddyd y dyben gogoneddus mewn golwg, ni a ddylem ymdrechu i gadw o fewn terfynau gweddeidd-dra a boneddigeiddrwydd Cristionogol, gan gyd-ddwyn â'n gilydd, a goddef ein gilydd mewn cariad; ac ymgais at ennill ein gilydd i gyd-farnu ac i gyd-weith- redu, trwy oleuo ein gilydd yn fwy ar y mater. Y mae ymosod yn erbyn yr hyn àc y mae dyn- ion wedî hir ymgynefino âg ef, ac heb erioed weled dim drwg na pherygl ynddo, yn sicr o godi gwrthwynebiad ynddynt ar ddechreuad yr anturiaeth; ac os bydd eu rhagfarn yn gryf, a'u gwŷn yn mawr ymgynhyrfu mewn gwrth- wynebiad i'r egwyddor o lwyr ymataliad oddi- wrth dd'íodydd meddwol, ni bydd hyny ryfedd ynybyd; oblegyd felly y bu gydâ llawer o honom ninau nes i ni ystyried yr achos yn ddifrifol, a phwyso yn ddiduedd y rhesymau a ddygid o'i blaid. Nid trwy ei ddifrîo, ei ddi- fenwi, ei fygwth, a'i ddwrdio, yr argyhoeddwyd neb erioed o'i gamgymeriadau: eithr trwy ym- resymu yn fwynaidd âg ef, nes golëuo ei feddwl i weled ei gamsyniad. At hyny y dymuna "y Dirwestydd" ymgyrhaedd,hebamcanu rhoddi achos tramgwydd i neb o'i ddarllenwyr, nac ychwaith ymatal oddiwrth amddiffyn yr hyn a ymddengys yn wirionedd, er y dichon i'r gwir- ionedd nwnw fod yn lled annerbyniol gan laweroedd.