Skip to main content

V; 11 iì . IX Aj ha O U 11 U j íl 14 A. Cyf. I.—Rhif. 21.] DYDD IAU, HYDREF 6, 1859. [Pris Un Geiniog. FY YMWELIAD A'R "GREAT EASTERN." Un o nodweddau mwyaf arbenig y ganrif bre- senol ydyw y defnydd cyson a pharhaus a wneir o'r galluoedd a'r egwyddorion hyny a ddargan- fyddwyd mewn natur, ag sydd yn cyfuno mud- weithrediad elíënau difÿwyd â llafur ac yni meddyliol dynion. Yn wir yr ydym yn byw mewn amserau hynod iawn. Mae rhyw awydd i'hyfedd yn mhawb yn bresenol am gael pobpeth yn fuan, ac am gael pobpeth yn fawr. Yr ydych am y papyr newydd yn fawr—yr ydych ani dano y*n f'uan hefyd. Da iawn yr ystyrid cael trem ar yr hen "Seren Gomer" bob mis neu bob chwech wythnos, oddeutu deugain mlynedd vn ol; ond yn awr mae llawer yn dyweyd wrthyf fì eu bod yn methu aros pythefnos heb gael galwg ar " Charles o'r Bala,"—ac wythnos yn rhy hir i aros am yr "Amserau," "Y Faner," a'r "Herald," ac ni fyddai syndod yh y byd pe sylwem fod rhyw gyhoeddwr antur- iaethus wedi cychwyn newyddiadur dyddiol i Gymru! Ond i gymhwysoyr egwyddor yna at fater ein hysgrif—rhywbeth yn tarddu oddiar yr un egwyddor, neu yn ceel ei gynnyrchu gan yr un teimlad, a barodd i ddynion ymuno â'u gilydd i adeiladu llong fawr—y fwyaf yn yr hoil fyd! Y mae ar y marsiandwr eisieu tros- glwyddo ei nwyddau yn fuan, a throsglwyddo llawer o honyntyn fuan. Mae yn prysuro i wneyd ei fortune, ac mae am i hwnw fòd yn fawr. Iawn ai peidio, mae hyna yn ffaith, onid yw? Yr oedd cynydd masnach a thrafnid- aeth gyffredinol rhwng yr Hen Wlad a'r Unol Daleitìiau y fath fel ag y cymhellwyd peirian- wr enwog (yr hwn a fu fàrw ychydig wyth- nosau yn ol), o'r enw Mr. Brunel, i ^ynllunio agerlong fàwr o'r enw "Great Western" yn 1837, yr hon a fesurai 230 witli 36 o droed- feddi, ac yn 1350 o dunelli, gyda dau beiriant nerth 225 o geffylau. Wedi hyny adeiladwyd y "Duke of Welíington," a'r "Great Britain," a'r "Himalaya," rai troedfeddi yn fwy. Ond prif gampwri a pherffeithrwydd gallu a gwybod- aeth beirianol dynion yn yr oes hon yn ddiam- heu ydyw y "Great Eastern." Byddwn yn arfer dysgu fod pobpeth yn fach neu yn fawr mewn cydmariaeth. Yr oedd "coi-acl" yr hen Gymry gynt, a gerid ganddynt hwy ar eu cefn- au mor esmwyth ag y cariai y cwch bach hwythau ar y môr, yn fàwr y pryd hwnw. Llong fechan iawn yr ystyrid llestr o faintioli yr un a adeiladodd Harri VII., yr hon a elwid yn "Hari Fawr." Barnai Syr Walter Raleigh fod llong 160 o droedfeddi o hyd wrth 35 o led yn llong fawr ryféddol yn ei oes ef. Ond edrych- wch ar^y "Great Eastern" am f'unúd. Dygwyddodd i mi yn ddiweddar fod mewn tref yn Ngogledd^Lloegr, lle y gwelwn yn ar- graffedig, 'tìjpwíÈ^ ilytìh^renau bi-eision, ar furiau yr heolydd—"3Çhe Great Eastern!—Cìieap \ Trip to Weymoijèh" Rhagofn na chyrhaedda y llestr odidogjÿW i Gaergybi, ebe fi wrth- ì yf fy hun, beth fyddai i mi achub y blaen ar fy I ngìiymydogion yn Nghymru i f'od yn llygad dyst I o'i hardderchowgrwydd. Yn y fan, heb ym- gynghori ond ychydig â'm llogell, penderfynais fýnecì, a bum mòr ffodus a tharaw wrth gyfaill o Gymro, yr hwn a addawodd ddyfod gyda mi. Ymàith â ni, yn lioew ein hysbryd a llawen ein calon, gan ddysgwyl cael gwledd iawn i'r lly- gaid a'r meddwl ar unwaith. Wedi cyrhaedd y "porthladd dymunol" gwelem y "Great ; Enstern" (hynod mor annaturiol yw'r enw yn Gymraeg,—sut y cyfieithiet ti ef, ddarllenydd?) 1 yn neillduedig, wrthi ei liunan, fel castell i cadarngryf, yn herio holl ryferthwy a chynddar- ecld yr elfenau. Ẁrth agoshau ati yr oeddwn yn cael fy nharaw â'r fath syndod fel y tybiwn fy mod wedi fy nhrpsglwyddaw i fyd cyflawn o ryfedd- odau digymysg! Wedi cael fy nhroed gyntaf ar ei bwrdd, defnyddiai fy nghyfaill (yr hwn sydd ychydig fwy cellweirus na mi) yr adeg liono i gymeryd golygfa ddoniol ar wynebau yr ymwelw'yr sỳnedig ereill oedd o'n deutu. Yr oedd arnaf finau chwant mwynhau yr unrhyw olygfa fy Jiunan,—ond gwarchod pawb, yr hyd, y ìled, ỳ dyfnder!—dyna oedd ar fy mecìdwl I! A ewyllysiech chwi gael prawf pa fodd y gall creadùr meidrol "synu yn anfeidrol," ewch ar fwrdd y "Great Eastern," a cîiwi gewcli hyny. A weli' di wyn llygaid yr hen ladics acw," ebe, Wmffre yn 'barha'us, "'a weli tli gêg y llall—► aeliau parddüog a thalcen crychedig yr hen ẃr trwyn cribog ỳna?" "Na'welaf," ebe finan; "ni'd i edrych'ar gegau na thrwynau pobl y deuais I yma—gallaswn gael í'y ngwala o hyny yn Sasiwn Bangor, yr wythnos ddiweddaf, pe 'buaswri yn dymuno cymeryd survey iawn o wynebau rhadlon fÿ nghydwladwyr. Aethum yrîo i wrandaw pregethu, ac yr wyfwedi dyfod yma (Weymouth) i weled llong." Y gwirion- edd ydyw, yr oedd yno wledd ddigymhar i'r neb sydd yn h'offi darllen y natur ddynol drwy gyfrwng y wyneb; ond beth er hyny? Gwneler pobpeŵ mewn trefn ac yn ei amser