Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Wtmìt SEF CÎHOEDDIAD PYTHEFNOSOL AT WASANAETH CREFYDD, LLENYDDIAETH, AC ADDYSG. Cyhoeddedig er Coffadwriaetli am y Parchedig Thomas Charles, o'r Eala. 0F. i._Rhip. 10.] DYDD SADWRN, MAI 7, 1859. [Pris Un Geiniog. Cyfarchiad i Athrawon yr Ysgol Sabbothol......... 145 Y Pulpud Cymreig............................. 148 Ffydd................................."..... 149 Y Genadaeth Gymreig at yr Iuddewon, Cyfarfod Misol Mon, a Mr. Trefnydd......................... 149 Deng Noswaith yn y "Black Lion.".............. 152 Beirniadaeth y Traethodau, &c................... 154 Dynes Gyfrwysgall............................. 155 Nodiadau Ysgrythyrol........................... 155 Meddwl am dy Enaid.......................... 155 Gardd Eden................................... 156 LlwchAur................................... 156 Yr Ysgol Sabbothol............................ 157 Yr Adfywiad Crefyddol yn Ngbymru.............. 157 YrYsgol...................................... 159 Pennod y Golygydd............................. 159 Cymeiadwyaethau i " Charles o'r Bala.".......... 160 ^YFARCHIAD I ATHRAWON YR YSGOL SABBOTHOL. CYHOEDDEDIG AR GAIS CyFARFOD DADFISOL ABERTAWE. Ymdeimla jy ysgrifenydd yn wylaidd wrth gyfarch athrawon yr Ysgol Sabbothoî, 'am fod llawer o honynt yn wybodus, crefyddol, a defn- yddiol iawn. Ond fel un sydd wedi ei fagu yn eu plith, ac yn ei chyfrif yn hyfrydwch i gael bod gyda hwynt bob tro y caniaíeir hyny iddo, teimla radd o hyder wrth siarad â hwynt yn yr anerchiad presennol. Y cymhwysder penaf a ddymuna at hyn y w, cyfranogiad helaeth o'r un ysbryd a'r un cariad tuagatynt ag oedd yn y gŵr enwog ag y mae y cyfrwng yr ydym yn yn eu cyfàrch trwyddo, yn goffadwriaeth am dano. Y mae eich sefyllfa fel swyddogion yr Ysgol Sabbothol yn bwysig, ac y mae y pwysigrwydd hwnw yn cynnyddu yn ol graddau anfanteision y plant sydd o dan eich gofal. Y mae rhai plant o dan eich gofal ag y mae ganddynt rieni, brodyr, a chwiorydd i'w hyfforddi a'u haddysgu bob dydd yn deuluaidd; ac ysgolfeistr dyddiol medrus, yn gystal a phob llyfrau manteisiol er eu haddysgiant. Gan hyny y mae arnoch eisieu llawer o ddoethineb tuagat y dosbarth hwn, er peri i'ch dylanwad gydweithio â hwynt. Yr ydych yn gweled nad oes i chwi ryw lawer o le gyda'r dosbarth hwn, ond nid ydych yma heb ychydig o le. Gan y bydd eu rhieni yn ys- grifenu eu henwau ar eu meddyliau, a chan y bydd yr ysgolfeistr yn ysgrifenu ei enw yntau, mynwch chwithau ysgrifenu eich enw eich hun arnynt hefyd—serch iddo fod yn drydydd. Yr ail ddosbarth y cawn alw eich sylw atynt jw y plant hyny nad oes ganddynt ond ychydig o fanteision addysg a chrefÿdd yn eu cartref, na chwaith gysondeb o addysg ddyddiol. Am eu rhieni, er eu bod yn proffesu crefydd, neu yn wrandawyr cyson yn y gynnulleidfa, eto nid oes arnynt ond ychydig o ofal am eu plant. Bid siwr y mae yn well ganddynt eu gweled yn myned i'r ysgol na pheidio, ond nid oes arnynt un pryder yn eu cylch—ac am eu hysgol ddydd- iol, yn dra angbyson yr anfonir hwynt yno, am nad yw eu rhieni yn gweled rhyw lawer o werth raewn dysgeidiaeth. Gan hyny, fel y mae eu haddysg deuluaidd a bydol yn cael ei esgeuluso, o gymaint a hj^ny yn fwy, ac yn drymach, y mae y gofal am danynt yn disgyn ar yr athraw Sabbothol. Chwi welwch, os oeddech yn dry- dydd yn y dosbarth o'r blaen, eieh bod yn d}r- fod yn ail yn y dosbarth hwn ; am fod llawer o waith eu rhieni, yn gystal a'r athraw dyddiol, heblaw eich gwaith eich hun fel athraw Sab- bothol, yn syrthio arnoeh. Am hyny, y mae eich sefyllfa yn bwysieach, a'ch cyfrifoldeb yit helaethach. Ond y trydydd dosbarth yw yr un ag y mae a wneloch âg ef fwyaf—sef y rhai nad oes gofal am danynt gan dad, na mam, nac ysgolfeistr, na neb arall chwaith, os na ofelwch chwi am dan- ynt. Y maent yn dlodion y bycl hwn, ac am hyny yn fwy isel a chaethwasaidd eu hysbryd- oedd. Ond y mae eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd wedi eu hymddyried i'ch gofel chwi-— i chwi fud yn dadau iddynt, ac yn farnwyr drostynt. Felly os oeddech yn ail yn y dos- barth blaenorol, yr ydych yn dyfod yn gyntaíj os nad yr unig un, i ofalu am eu haddysg dym- morol, yn gystal a'u hiachawdwriaeth dragy- wyddol. Gan eìch bod yn sefyll ar dir mor fanteisiol i wneuthur daioni iddynt, y ])etlt cyntaf a ddylech wneyd tuagatynt, yw argraffa yn ddwfn ac yn efFeithiol ar eu meddyliau eich bod yn eu caru. A dangoswch hyny trwy fod eu cysur tymmorol a'u dedwyddwch tragy- wyddol yn uchel yn eich cyfrif, ac yn agos iawn at eich calonau. Chwi wyddoch fod cyfraith y