Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

€ìm\t SEF CYHOEDDIAD PYTHEFNOSOL AT WASANAETH CREFYDD, LLENYDDIAETH, AC ADDÍSG. Cyhoeddeâig er CofFadwriaeth am y Parchedig Thomas Charles, o'r Bala. Cyf. I.—Rhif. 9.] DYDD SADWRN, EBRILL 23, 1859. [Pris Un Geiniog. ffiînttttogsíta'ö. Y Parche<% John Cfaarles, Gwalchmai.—Pennod II. 129 Y Cymfrwysderau Angenrheidiol er gwueyd Gwraig rinweddol......-----......................... 132 Y Fenyw Fech a'r Beibí........................ 133 Llongddrylliad............................ ... 133 Cynghor Llongwr Ieuanc........................184 Y Genadaeth Gymreig at yr Iuddewon, a Chvfarfod MisolSirPon............................... 134 Yr Adfywíad Crefyddol yn Nghymru.............. 136 Deng Noswaith yn y " Black Lion."—Yr Ail Nos- wàith .....................................1S9 Pwrs Breninol................................. 141 Llwch Aur................................... 141 01 Feibl cu! Ton—Cyflwynedìg at wasanaeth yr Ysgol Sabbothol................„............ 142 Gerhau a Difyrion.............................. 142 YrYsgol..................................... 143 Pennod y Golygydd............................ 144 Y PARCHEDIG JOHN CHARLES, GWALCHMAI. PENNOD II. Gwyddai John Charles pa fodd i ymddwyn yn weddus yn mhob cysylltiad. Yr oedd hyn yn codi mewn rhan oddiar ei gallineb, ac mewn rhan oddiar ei natur deimladol (sensitim), a'r naill a'r llall 'wedi eu dwyn o dan lywodraeth y ddoethineb sydd oddiuchod, yr hon sydd yn foneddigaidd. Adwaenom rai a ystyrir yn ddiniwed, ond un rheswm mawr paham y maent felly, yw, diflyg gallu i fod yn ystrywgar—peth o raid ydyw yn hytrach nag o ddewisiad—anallu naturíol, chwedl y duwinydd- ion, ac nid anallu moesol; ac y mae hyn yn eu harwain weithiau i ymddwyn yn y fath foild ag y gallai y neb fyddai yn ddigon diegwyddor a barbaraidd i hyny, eu eymeryd yn wawd. O'n rban ein hunain, y mae ein cariad gymaint at ddiniweidrwydd fel y byddwn yn hoffi gweled pob peth tebyg iddo, os bydd yn peidio a bod yn rhagrith; ondyn J. Charles, yr oedd dini- weidrwydd mewn undeb â'r cyfryw alluoedd meddyliol ag oedd yn ei wneyd yn rhinwedd o radd uchel ynddo, ac ar yr un prydyn ei ddioc- elu rhag darostwng ei hunan mewn cymdeithas. Gwelsom ambell un a ystyrid yn gall yn gwneyd lluaws o gamgymeriadau, a íryny oherwydd ei iod yn cyfrif cymaint ar ganlyniadau—yn cym- hwyso arithmetic at amgylchiadau bywyd, ac yn ceisio llunio ei ymddygiadau wrth gyfrifon "*dyrus profit and loss; ond oherwydd nad yw bywyd mor hawdd i'w drafod yn ol rheolau rhifyddiaeth a ftugyrau, ac oherwydd nad yd- oedd yntau yn ddigon Uygad-graff,—yn methu; ond yr oedd callineb yn John Charles mewn undeb â natur dyner, deimladol; ac mewn am- gylchiadau ag y byddai y cyntaf yn pallu, byddai yr olaf yn sicr o roddl eî wasanaeth a'i help. Y mae llawer, o drugaredd, ỳ gellir rhoddi pob ymddiried ynddynt gyda chwestiynau mawrion, drwg a da moesol—materion ag y bydd eisiau cydwybod oleuedig i fyned uwch eu penau—y maent i fyny yn lled dda â'r pethau sydd wir, y pethau sydd onest, y pethau sydd gyfiawn, a'r pethau sydd bur; ond gyda golwg ar y pethau sydd hawddgar, y maent yn lled anífortunus. Y mae myned i ddyweyd wrth y cyfryw am wrthuni unrhyw ymddygiad, neu weddusrwydd j^mddygiad aralì, yr un peth a phe baech yn siarad wrth y dall am brydfèrth- wch Uiwiau, neu wrth y byddar am beroriáeth seiniau; nid oes gan y naill na'r llall un ddir- nadaeth am yr hyn ydych yn ceisio ei ddy- weyd: riid yw o un pwrpas i chwi fyned i geisio darbwyllo neb o wiwdeb y lili, neu brydferth- wch y rhosyn, os na wêl efe hyny ei hunan. Byddech mor aflwyddiannus a phe baech yn ceisio curo gras i'r galon â phastwn—mater o chwaeth yw; ond am J. Charles, yr oedd efe yn hynod hapus gyda'r pethau ag sydd yn gor- wedd y tuallan i dcrfynau ymresymiad. Fel y mae yr oen yn cilio yn reddfol oddiar ffordd y blaidd, pan y mae yn ei weled am y waith gyn- taf erioed, felly hefyd yr oedd rhyw reddf ynddo yntau yn ei gyfarwyddo i gilio oddiwrth yr hyn sydd anweddaidd: yr oedd yn ẃeddaidd yn y pulpud, yn weddaidd yn y society, yn weddaidd yn y Cyfarfod Misol. Nid oedd yr ysfa an- nifyr hòno arno ef i lefaru rhywbeth yn hytrach na gadael i'r cyfarfod fyned trosodd heb iddo ddyweyd dim. Os na byddai ganddo beth" i'w ddyweyd, byddai mor ddoeth a selio ei enau niewn mudandod: pan lefàrai, gwnai hyny yn esmwyth a gwylaidd, ac nid yn gynhyrfus a hyf; ac ar ol gorphen yr hyn* fyddgi ar ei feddwl, byddai mor gall ag eistedd i lawr, yn Üe crogi yn druanaidd wrth y naill funud ar ol