Skip to main content

SEF CYHOEDDIAD PYTHEFNOSOL AT WASANAETH CREFYDD, LLENYDDIAETH, ÁC ADDYSG. Cyhoeddedig er Coffadwriaeth am y Parchedig Thomas Charles, o'r Bala. Cyf. I.—-Rhif. 7.] DYDD SADWRN, MAWRTH 26, 1859. [Pris Un Geiniog. Barddoniaeth yr Hen Destsmeiit........ .......... 97 " £u Hiaith a gadwant."—Pennod II.........,..... 99 Diwydrwydd a Chynnildeh—Pennodll............ 101 William Edwards. yr Adeiládydd enwog o Bont-y- ■pridd........................................ 102 Hiraeth Cymro, n:ewn dinss estronol, atn ei wlad, ar Wyl De'wi Sant............................... 103 EngreifTtiau o ddiwydrwydd mewn darlien yr Ysgryth- yrau....................................... 103 Deng Noswaith yn y "Black Lion.".............< . 101 Trefydd Cymiu a tíoegr.—Pennod IV............. 107 Y Wasg...................................... 109 Cynghorion Buddiol i bawb...................... 109 Tôn:— Amesbury............................... 109 YrAdsain.................................... 110 Yr Ysgol Sul a'r Beibl.......................... 110 Yr Adfywiadau Crefyddol........................ 110 Llwch Aur.................................... 111 Gemau a Difyrîon...............«<............. 111 YrYsgol.................................... 111 Y Golygydd at ei Ohebwyr ...................112 BARDDONIAETH YR HEN DES- TAMENT. Peth a addefa pob dosbarth o'r awduron ar Ysbrydoliaeth Ddwyfol ydyw, bod yr ysgrifen- wyr santaidd, bob un, yn ysgrifenu yn ei briod- ddull ei hunan,—j mae yn ddeddf nad ydyw gras i gyfyngu ar derfynau natur yn unman. Yn awr, wrth gydnabod y ffaith yna, pa fodd y gellir rhoddi cyfrif am dra-rhagoriaeth barddon- iaeth yr Hebreaid ar eiddo pob cenedl arall? Nid oes eisieu i ni ofyn i'n darllenwyr a ydynt yn cydsynio i roddi y rhagoriaeth hwn i'r beirdd Hebreaidd,—y mae hyny yn addefìad cyffredinol. Yr hyn ddaw o dan sylw yn yr ysgrif lion fydd,—Gan mai nicl i Ysbrydoliaeth Ddwyfol yn uniongyrchol y mae i ni gyírif eu rhagoriaeth, i ba amgylcbiadau allanol y mae i ni briodoli hyny. Yr ydym Avedi darllen yn ddiweddar rai o'r awduron Seisnig ar hyn, a dichon y gwnawn ddefnydd o'u syniadau wrth fyned yn mlaen. Yn y lle cyntaf, sylwn ar y mesurau neu y mydrau a arferent; a chan y bernir bod rhyddid a naturioldeb y rhai hyny yn ëangach ac yn rhwyddach nag eiddo y beirdd cenedlig, ac felly wedi bod yn fanteisiol i'r beirdd santaidd i gyr- haedd eu safle goruchel, efallai na bydd sylw byr, wrth fyned heibio/ar deithi eu mydryddiaeth yn annerbyniol. Yn lle cynghaneddion ac odliadau, trefnu eu llinellau yn wanhanol gyfochrion (parattéls) y byddai y heirdd Hebreig. Yr oedd ganddynt bedwar math o wahanol gyfochrion. Rhoddwn yma esiàmpl o'r naill a'r lìall. Cyfoèhrion Graddfaol.—Yn y dull hwn yr oedd meddylddrych y llinell gyntaf i barhau ac i gael ei gryfhau yn y Ilinellau dylynol, megys yn y Salm gyntaf— "Gwyn ei fyd y gwr Ni rodia yn nghyngor yr annuwiolion, JNi saif yn ffordd pechaduriaid, Ac nid eistedd yn eisteddfa gwatwarwyr." Cyfochrion gwrthosödol—^Yn y rhai y mae y ddwy ìinell i gyfateb mewn gwrthgyfèrbyniad. Fel hyn,— " Yr annuwiol a fiy heb neb yn ei erlid, Ond y rhai cyfiawn sydd hÿ megys Jlew." Y mae Uawer iawn o Lyfr y Diarebion wedi ei gyfansoddi yn y dull hwn. Cyfochrion cyfluniol.—Er nad ydyw gair yn ateb i air mewn gwrthgyferbyniad, eto y mae cyfatebiaeth a chydraddiaeth rhwng y gwa- hanol osodiadau trwy y frawddeg—enw yn ateb i enw, a berí yn ateb i ferf. Engraifft— " Djdd î-ddydd a dractha ymadrodd, A iiüs i nos a ddengys wybodaeth " Cyfochrion mewndroadol (i?itroverted.) — Yma, pa faint bynag fydd rhifedi y llinellau, bydd y llinell gyntaf yn rhedeg yn gyfochrog, a'r olaf fel hyn,— " Fy mab os dy galon di fydd doeth, Fy r.ghaìon inau a lawenycha; Ië, fy arenau a grychneidiant Pan draetho dy wefusau di gyfiawnder." Gwelir eu bod yn rhwydd ac yn dra amryw- iol, yr hyn sydd yn fàntais fàwr i osod y meddyliau allan yn deg ac yn llawn. Eto nid ydynt yn amddifad o ystwythder a phereidd- dra—ni raid wrth gynghaneddion a chydseiniau tuagat fod yn fwyn a soniarus. Y mae natur yn llawn mwynder a cherddoriaeth; ond gad- awer iddi eu cynnyrchu a'ti ffurfio yn ol ei theimladau a'i hewyllys ei hun,—er mwyn pob- peth peidiwch a cheisio ei llyffetheirio â chyng- haneddion D. ap Edmwnd. Pa lun fyddai ar y môr, tybed, pe ceisiai siarad ei frawddegau meddylfawr mewn " Englyn ? " neu y daran pe