Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEF CYHOEDDIAD PYTHEFNOSOL AT WASANAETH CREFYDD, LLENYDDIAETH, AC ADDYSG. Cyhoeddedig er Coffadwriaeth am y Parchedig Thomas Charles, o'r Bala. Cyf. L—Rhif. 5.] DYDD SADWRN, CHWEFROR 26, 1859. [Pris ün Geiniog. aFgnntogstafc. P«ihàm y Tlefarai Crist mewn Dammegion?..........65 Y Phariseaid a'r Saduceaîd...................... 67 Y Bibl ..................................... 68 Y Wasg....................................... 71 T»lwch eich Dyled............................. 71 41 A. Phlentyn bvchan a'u tyw) s"................. 72 NewyddDa...'................................. 73 Gweddi gan Syr Robert Peeí...................... 74 Trefydd Cymru a Llt egr......................... 74 Breu Idwyd Hynod............................. 76 Nodiadau Ysgrj thyrol........................... 77 0! dynä'rgân i mi. Ton— Cyflwynedig i'i "Band of Hope."...................................... 78 Detholion...................................... 79 Yr Ysgol..................................... 80 Y Golygydd at ei Ohebwyr....................... 80 PAHAM Y LLEFARAI CRIST MEWN DAMMEGION? Daeth dysgyblion Crist ato unwaith gan ofyn iddo, " Paham yr wyt yn llefaru wrthynt trwy ddammegion ?" Ac y mae yr un gofyniad wedi ymgodi yn meddyliau llawer heblaw y dysg- yblion. Ymostyngodd Crist i'w hateb, ac y mae yr atebiad a ì-oddodd iddynt, ond ei ystyr- ied yn fanwl a difrífoj, yn ddigonol i bawb. Ond cyn ceisio tynu alian beth o gynnwys ateb- iad Crist, byddai yn briodol i ni ymholi yn gyntaf, beth a feddylir yn gyffredin wrth ddam- meg. Cydnabyddwn yn rhwydd, gyda phawb sydd wecîi meddwl y cwestiwn gyda dwysder, fod anhawsder anorfbd i ni roddi darnodiad clir, perfiaith, o ddammeg—darnodiad ag a fydd yn cynnwys ei holl neilldaolion hanfodol, ac yn gadaei allan bobpeth afreidiol ac achlysurol. Yn hytrach nag ychwanegn ein darnodiad an- mherffaith at yr amrywiol sydd eisioes ar gael, ymdtechwn ddangos y gwahaniaeth sydd rhwng dammeg a phob ffurf-ymadrodd araìl sydd yn debyg iddi. Mae yn wir nad yw yr ysgrifen- wyr ysbrydoledig yn ofalus i gadw 'mewn cof y gwahaniaeth hwn bob amser, oblegid defnydd- iant y gair dammeg yn bur gyffredin, gan roddi ystyr gyfíredinol iddo. Weíthiau defnyddir ef am ryw ymadrodd cynnwysfàwr neuddiareb (Luc'iv. '23, Mat. xv. 15); pryd arall, defn- yddir ef am gymhariaeth gyffredìn (Marc iii. 23, Luc v, 36, a vi 39); ac unwaith defnyddir ef am gysgod (Heb. ìx 9). Dylem hysbystt i'n darllenwyr, yn y fan hon, mai am y gair gwreiddiol parabole yn y Testament Groeg yr ydym yn son, oblegid mae cyfieithwyr y Teá- tament Cymraeg wedi cyfieithu y gair parabole yn un o'r manau uchod i ddiareb ; ac mewn man arall i gyffelybiaeth. Ond er fod yr ysgrif- enwyr santaidd yn rhoddi ystyr gyffredinol i'r gair, eto mae yn amlwg fod dammeg yn ffurf- ymadrodd neillduol, yn gwahaniaethu oddiwrth \ bob ffurf arall. Gwahaniaetha oddiwrth y ! chwedl neu y ffugwers, fel ei defnyddir gan | JEsop, yn gymaint a bod priodoleddaua gweith- | redoedd dosbarlh uwch o greaduriaid yn cael j eu rhoddi i rai îs mewn chwedl, tra y mae pob I dosbarth a gradd yn cadw eu lleoedd priodol j eu hunain mewn dammeg. Nis gall y chwedl fod yn wirionedd o ran ei ffurf, tra y priodolir meddyliau, ymddyddanion, a gweithredoedd dynol i greaduriaid afresymoì; ond y mae hbll ddesgrifiadau y ddammeg yn cyfateí) i ffeithiau natur, a dygwyddiadau bywyd, ac yn dwyn ar gof i'r g%vrandawr bethau o fewn cylch ei sylw- adaeth ei hun. Heblaw hyny, amcan y chwedl ydyw dysgu rhinweddau daearol yn unig, sef callineb, diwydrwydd, darbodaeth, &c.; ond amcan y ddammeg ydyw dysgu rhinweddau nefol, sef moesoldeb a chrefydd. O ganlyniad, nid yw chwedl yn weddus i Air Duw mewn ystyr briodol. Ac nid yw chwedl y prenau y*i eneinio brenin (Barn. ix. 8—15), a chwedl yr ysgellyn yn anfon at y gedrwydden i ofyn ei ferch yn wraig i'w fab (2 Bren. xiv. 9), ond eithríadau ymddangosiadol yn unig; oblegid nid Duw nau genadon sydd yn llefaru, ond dynion oddiar safle daearoì/ Y mae gwTihaniaeth hefyd rhwng dammeg a diareb ; er mai yr un gair sydd am y naill a'r lla.ll yn yr Hebraeg, a'u bod yn cael eu defn- yddio yn gydgj'fnewidiol yn y Testament Newydd. Ymae cymharíaeíh yn hanfodol i'r naill a'r llall; ond y mae'r gymhariaeth wedi ei chario allan ymhellach yn y ddammeg nag yn y ddiareb. Ỳ mae y ddammeg o angenrheid- rrcydd yn ffugyrol, tra nad yw y ddiareb ond dygroyddiadol fèlly. Yn olaf, mae y ddammeg yn gwahaniaethu