Skip to main content

SEF CTHOEDDIAD PYTHEFNOSOL AT WASANAETH CREFYDD, LLENYDDIAETH, AC ADDYSG. Cyhoeddedig er Coffadwriaeth am y Parchedig Thomas Chaiies, o'r Bala. Cyf.'L—Èhif. 3.] DYDD SADWRN, IONAWR 29, 1859. [Pris Un Geiniog. Trem ar yr Ysgolion Sabbothol yn Nghymru.,...... 33 Y diweddar Barch. John Jones o Edeyrn............ 34 "Naddo, er pan oeddwn yn Blentyn.".............. 85 Teml Samaria.................................. 36 Gwînllanoedd yn y Dwyrain...................... 36 Cymhwysderau Athraw Defnyddiol yn yr Ysgol Sah- bothol............".............. ............ 37 Awgrym i Athrawon............................. 39 Nodiadau Ysgrythyrol...............,..........40 Gardd Eden...................-••••V........... 40 Dynion enwog wedi codi o radd jsol............... 41 Trefydd Cymru a Lloegr........................ 42 John Jones : y Dyn Hunanol...................... 44 " Hardd yw y Seion hono fry." Tôn—Cyflwynedig i blant yr Ysgolion Sabbothol.............- ....: 4S Llwch Aur. ■......................,............ 46 Yr Ysgol.................................... .. 46 Y Golygydd at ei Ohebwyr...................... 47 TREM AR YR YSGOLION SABBOTHOL YN NGHYMRÜ. (Gwely rhifyn diweddaf tudal. 17). Y mae yn bysbys fod gan yr Ysgol Sabbothol Gymanfaoedcî nen Gynnadleddau Cliwech- wythnosol, Daufìsol, nen Chwarterol. Tybygir nad oes dim yn eglurach na bod y rhai hyny yn eu hagweddion a'n trefniadan presennol yn dra diffygiol i ateb dybenion en sefydliad. Mewn llawer Dosbartli y mae yn anhawdd canfod nn daioni yn deilliaw ohonynt, ondyn nnig amytro yn y lle y cynnelir hwynt; o barth gwneyd lles i'r Dosbarth yn gyffredinol, byddwn yn ddigon tyner ein iaith os na ddywedwn rywbeth mwy anffafriol am danynt—lawer ohonynWna dy- weyd eu bod yn ddiles. Baont o les a bendith annhraethol i'r Dos- barthiadau; a dylem, gyda chraffder a doethineb mawr, edrych beth yw yr aclios, neu yr achos- ion, o'u dirywiad yn y dyddian hyn. Dymun- em yn fawr roi yr ymholiad hwn i ystyriaeth ddifrifol yr arolygwyr a'r athrawon yn mhob man. Goddefer i ni yma roddi yr hyn a dybiwn ni ydyw yr achos mawr o'n haflwyddiant; yr ydym yn oredu mai y prif achos o hyn ydyw,— Anghymhwysder y rhai a anfonir yn ddir- prwywyr iddynt. Apeliwn at yr ysgolion yn gyffredinol—Ai nid y dynion hawddaf eu hebgor o'r ysgol gar- tref ydyw y rhai a anfonir gan luaws mawr o leoedd i'w cynnrychioli ? Buom mewn llawer o'r cyfarfodydd hyn, ac yr ydym yn dystion o weled mewn rhai lleoedd ddirprwywyr a'u ham- gyffredion yn rhy drwsgl i ddeall y pynciau a roddid yn llafur i ysgolion y Dosbarth. Y mae hynyna yn ddywediad mawr mae'n wir, ond y mae yn safadwy. Tra ybo y Cyfarfod Athrawon Daufìsol, neu y Gynnadledd yn yr hon y tra- fodir amgylchiadau y Dosbarth, yn cael ei gwneyd i fyny o bersonau o'r fath yma, beth ellir ddysgwyl oddiwrthynt ? Y mae arolygu a chynllunio gwaith a symud- iadau sefydliad mor alluog a pliwysig yn hawlio y medrusrwydd mwyaf, a'r ymroddiad llwyraf. Ped ediychai yr holl ysgolion am y personau cymhwysaf o barth doethineb, gallu, a ffyddlon- deb i fyned drostynt; ac fclly cael cynnadledd o'r cyfiyw bersonau i eistedd ar eu hachos, nid oes dadl na deilliai o hyny fendithion cyfoethog i'r holl Ddosbarth. Y mae gan gyf- eisteddfod o gynnrychiolwyr cymdeithasau neu gyfundebau ddylanwad cyrhaeddgar ac effeitli- iol dros yr holl gangenau—mwy o bosibl nag yr ydys yn arfer meddwl yn gyffredin. Er esiampl edì-ychwn ar ddylanwad y Cyfarfodydd Misol ar y siroedd,—cymerwn eu h^Tnrwymiad â Dirwest i ddangos yr hyn sydd genym dan sylw. Gallem nodi siroedd lle y mae aelodau y Cyfarfod Misol, gan mwyafj yn Ddirwestwyr, ac felly yn arferyd eu dylanwad i gymhell Dir- west ar yr holl eglwysi; yn y siroedd hyny y mae yr achos Dirwestol yn llwyddiannus a blodeuog. O'r ochr arall, gwyddom am siroedd lle y mae y rhan fwyaf o'r pregetliwyr a'r diac- oniaid heb fod yn Ddirwestwyr, ac yr ydym wedi sylwi ar etfeithiau y diffyg hwnw ar eglwysi y siroedd hyny. A pha beth ydyw yr effaith ?—Dirwest yn ddyeithrbeth—Iluaws o, aelodau crefyddol a diaconiaid yn dafarnwyr,— meddwdod a chyfeddach yn madru haner y gwrandawyr,—a pherffaith ryddid i aelodau eglwysig fynychu y tafarndai, ac ymddeheu yn Ilygredigaeth eisteddfa y gwatwarwyr. Gallwn fwrw baich prawf yr hyn a ddywedwn ar ffeith- iau eglur. Gwasanáetìia hynyna i ddangos yr