Skip to main content

Rhif 22. HYDREF, 1891. Cyf. II. YR EGLWYS YN OGONIANT I GRIST YN EI AIL- DDYFODIAD. GAN Y PARCH. OWEN DAYIES, CAERNARFON. " Pan ddêl efe, i'w ogoneddu yn ei saint, ac i fod yn rhyfeddol yn y rhai oll sydd yn credu."—Thessaloniaid i. 10. 4fl WNC pwysig yn y Testament Newydd yw " dyfodiad yr Arglwydd." /13 Y mae yn naturiol dysgwyl i ryw waith mawr gael ei gyflawni ar ddyfodiad un mor fawr. Cyfeirir at ddau ddyfodiad neillduol o'i eiddo, ei ddyfodiad ar adeg dinystr Jeruslalem, a'i ddyfodiad yn niwedd y byd. Y mae yn fuddiol ystyried yn bwyllog bob amser, pa un o'r ddau hyn a olygir, nid yn unig yn yr Efengylau, ond hefyd yn yr Epistolau a'r Datguddiad. Mae dyfodiad yr Arglwydd yn cael lle amlwg yn y llythyrau at y Thessaloniaid, ac y mae pynciau pwysig yn dibynu ar pa ddyfodiad sydd yn cael ei olygu. Barna llawer mai ei ddyfodiad i ddinystrio Jerusalem a olyglr yn yr ail benod, o'r ail lythyr, ac os felly, y mae yn rhoddi goleuni neillduol ar " Ddirgelwch yr anwiredd,"—" Y dyn pechod,"—a'r " Hwn y mae ei ddyfodiad yn ol gweithrediad Satan." Ond y mae yn amlwg mai nid at ddyfodiad yr Arglwydd i ddinystrio Jerusalem y cyfeirir yn mhob man yn y Uythyrau hyn. Yn 1 Thessaloniaid iv. 13—18, y mae ŷ cyfeiriad yn amlwg at ei ddyfodiad yn niwedd y byd. Ymddengys i ni