Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhif 21.] MEDI, 1891. [Cyf. II. Y CWMWL NIWL A'R GOLOFN DAN. GAN Y PARCH. T. jÒNES-HUMPHREYS, COEDPOETH. "A'r Arglwydd oedd yn myned o'u blaen hwynt y dydd mewn colpfn o niwl, i'w harwain ar y ffordd ; a'r nos niewn colofn o dan i oleuo iddyut; fel y gallent fyned ddydd a nos. Ni thynodd efe ymaith y golofn niwl y dydd, na'r golofn dan y nos, o flaen y bobl," Exodus xiii. 21 a 23. Ç7T| R amgylchiad bythgofiadwy a ddygwyddodd cyn ymddangosiad y ÍO cwmwl niwl y dydd, a'r golofn dan y nos, i fod yn gyfryngau arweiniol y genedl, ydoedd eu gwaredigaeth o gaethiwed yr Aifft. Gwaredigaeth oedd hon, a ddygwyd oddiamgylch trwy arwyddion a rhyfeddodau na welodd y byd eu cyffelyb. Yr oedd yn waredigaeth a brofai tuhwynt i bob amhe\iaeth uwchafiaeth Duw yr Hebreaid ar dduwiau yr Aifftiaid. Ac heblaw hyny, yr oedd yn waredigaeth cenedl gyfan mewn un dydd—cenedl heb ewin ar ol yn cyd-gefnu ar dy y caethiwed, ac yn cyd-gychwyn yn gryno tua gwlad eu hetifeddiaeth. Y fath waredigaeth—dros dair miliwn o eneidiau yn cael eu gwaredu ar unwaith. Nid rhyfedd fod yr ysgrifí nwyr ysprydoledig yn c>feîrio mor aml at y waredigaeth hon fel prawf o allu digymar y Jehofah mawr. Ymddengys fod y waredigaeth wedi cael ei dwyn oddiamgylch yn sydyn. Yr oeddynt wedi tylino eu toes, ond heb ei grasu, ac felly y cymeraf-ant