Skip to main content

Rhif 20.] AWST, 1891. [Cyf. II. Y DDAU SYNIAD. GAN Y PARCH. T. M. JONES, PENMACHNO. <l Canys y rhai sydd yn ol y cnawd, am bethau y cnawd y maent yn synio ; eithr y rhai sydd yn ol yr Ysbryd, am bethau yr Ysbryd. Canys syniad y cnawd, marwolaeth yw ; a syniad yr Ysbryd, bywyd a thangnefedd yvrK. oblegid syniad y cnawd sydd elyniaeth yn erbyn Duw : canys nid yw ddaros- tyngedig i ddeddf Duw ; oblegid nis gall chwaith. A'r rhai sydd yn y cnawd, ni allant ryngu bodd Duw," Rhuf. viii. 5—8. WELIR nad yw yr Apostol, yn yr adnodau hyn, yn cydnabod ond dau syniad mawr, ac eglura eu natur, a dengys y gwahaniaeth sydd rhyngddynt; ac wrth wneud hyny cymer yn ganiataol fod yr holl fyd dan lywodraeth un o honynt. Y ddau syniad hyn ydynt sylfeini holl ysgogiadau cymdeithas. Ceir, ar ol sylwi, fod yr holl Ysgrythyrau Sanctaidd yn cadarnhau hyn, ac yn dysgu nad oes, mewn gwirionedd, ond dau syniad mawr mewn bod, a bod pob dyn dan lywodraeth un o honynt; ac yn yr ystyr hon, dengys y Beibl y gellir rhanu holl ddynol- ryw i ddau ddyn—dyn syniad y cnawd, a dyn syniad yr Ysbryd, a'r ddau ddyn hyn, mor bell ag y mae dynion yn myned, sydd yn llywodraethu yr holl fyd. Gellir crynhoi hanes pawb i hanes dau ddyn—dyn heb ei achub, a dyn wedi ei achub. Gwyddom o'r goreu fod rhai yn dal mai un dyn sydd, ac nad yw y dyn da ond ychydig drwsiad ar y dyn drwg— y dyn drwg wedi ei harddu, ei liwio, ac wedi tyfu mewn gwareiddiad a dysg—dyna y cwbl, ac mai croes i natur a rheswm yw siarad am ddim