Skip to main content

Rhif 18. MEHEFIN, 189i. Cyf. II. EIDDO DÜW I DDÜW. GAN Y PARCH. R. HUMPHREYS, BONTNEWYDD, CAERNARFON. *'A'r Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Rhoddwch yr eiddö Cesar ì Cesar, a'r eiddo Duw i Dduw," Marc xii. 17. JûlELy mae yn ddigon hysbys, yr oedd yn Ngwlad Canaan, yn n*ỳ\ nyddiau y Gwaredwr, nifer o bleidiau crefyddol a gwîadol. Yn fynych, fe fyddai y pleidiau hyn yn dyfod i wrthdarawiad anghysurus a'u gilydd. Yr oedd y pynciau y gwahaniaethent gyda golwg arnynt yn fawrion a phwysig, a dangosent lawer o sel, beth bynag am wybodaeth, wrth amddiífyn eu gwahanol ddaliadaii. Nid oes genym engraifft o'u gwaith yn cydolygu a'u gilydd, yn hollol, ond yn eu gwrthwynebiad i ddysgeidiaeth yr Arglwydd Iesu. Yr oedd ei addysg Ef yn annerbyniol gan yr holl bleidiau y cyfeirir atynt yn yr Efengylau, ac ymunent a'u gilydd yn gyfeillgar i geisio ei rhwystro i gael gafael yn meddyliau y bobl. Dywedir am y gwahanol lwythau oedd yn trigo yn Nghymru yn yr hen oesoedd, y byddent mewn rhyfel a'u gilydd bron yn wastadol. Ond pan y byddai i elyn o'r tu allan i*r Dywysogaeth wneud ymosodiad arnynt, byddent hwythau, ar amgylchiad felly, mewn perûaith undeb a'u gilydd yn amddifiyn eu hunain a'u gwlad. Lled debyg i hyny oedd y gwahanol bleidiau yn Ngwlad Canaan. Ar amgylchiadau cyffredin byddent yn brwydro a'u gilydd. Ond pan y dechreuoedd yr Iesu fyned oddiamgylch i ddysgu, daethant i deimlo fod gelyn cyffredinol wedì