Skip to main content

Rhif 17. MAI, 1891. Cyf. II. Y SAITH YSBRYD. GAN Y PARCH. D. R JONES, PONTARGOTHI, CAERFYRDDIN. " Y saith Ysbryd sydd gerbron ei orseddfainc ef," Dat. i. 4. Qfì MAE yn hysbys i efrydwyr yr ysgrythyrau fod y rhif saitli yn un jCJ tra chyffredin yn y Beibl, a byddai yn astudiaeth dda a hunan- wobrwyedig i blant yr Ysgol Sabbathol i chwilio allan pa sawl gwaith y deuir o hyd iddo yn yr Hen Destament a'r Newydd. Byth er pan y gorphwysodd y Creawdwr Mawr ar y seithfed dydd, y mae fel pe bae rhyw gysegredigrwydd neillduol yn gysylltiedig â'r ffugr saith; ac wrth ei weled drachefn a thrachefn yn cael ei ddefnyddio gan Dduw ei hun mewn cysylltiad â gweithredoedd eraill o'i eiddo, y mae yn cael ei awgrymu i ni fel arwydd-lun o bob perífeithrwydd, ac yn dangos unol- iaeth, neu berthynas unol ei holl weithredoedd â'i weithred fawr gyntaf o greu'r byd. Yn y goleuni yna nid ydym yn rhyfeddu fod annherfyn- olrwydd gallu a gogoniant yr Ysbryd Glan yn cael ei ddarlunio yn y testyn o dan yr hen arwydd-lun, a'i wisgo a'r un iaith,—"y saith Ysbryd sydd gerbron ei orseddfainc ef." Pan y dywedir eu bod "gerlron ei orseddfainc ef," yr ydym i gymeryd y geiriau fel y maent yn cael eu cyfaddasu at ein meddwl a'n hamgyffredion ni, ac i olygu hyn—mai megys ag y darllenwn am Grist, ei fod "ar ddeheuìaw Duw," i arwyddo ei gydraddoldeb yn nghyd a'i waith cyfryngol, felly y dywedir am yr Ysbryd Glan, ei fod ilgerbron ei