Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhif 16. EBRILL, 1891. Cyf. II. OEN DUW YN TYNÜ YMAITH BECHODAU Y BYD. GAN Y PARCH. RHYS GWESYN JONES, D.D., UTICA, AMERICA. "Tranoeth Ioan a ganfu yr Ieau yn dyfod ato: ac efe a ddywedodd, Wele Oen Duw, yr hwn sydd yn tynu ymaith bechodau y byd," Ioan 1. 20. IMDDENGYS y testyn hwn i mi y mwyaf yn yr holl ysgrythyrau. Cyrhaedda o Genesis hyd y Datguddiad, o Eden ar y ddaear i baradwys Duw yn y byd anweledig. Er ei ddeall rhaid i ni ddechreu gyda phechod yn ei darddi&d a'i gynydd, yn nghyda'r ymdrechion a wnaed er atal ei ledaeniad â dianc rhag ei ganlyniadau. Yna gallwn werthfawrogi cenhadaeth Crist i'r ddáear, a'r modd ei cyflawnwyd. * Pechod yn ei darddiad a'i natur. Troseddiad 0 gyfraith, neu anghyfraith, yw pechod. Dýn yü ceisio bod yn annibynol ar ei Greawdwr, yn ceisio bod yn ddiddeddf, yn ceisio bod yn rhydd oddiwrth ei ddyledswydd o garu ac ufuddhau yr hwn sydd yn rhoddi pob peth iddo. Dyna bechadur. Deddf ydyw dyledswydd neu rwymedigaeth yn tarddu o berthynas pleidiau a'u gilydd. Nid eftaith ewyllys Duw ydyw y ddeddf foesol, eithr effaith ein perthynas ni âg ef fel Creawdwr a Chynhaliwr. Ni all Duw ychwanegu at na thynu oddcüwrth y ddeddf hon. Pe ychwanegai. ati, gofynai fwy nag a fedr crèadur wneud. Pe tynai oddiwrtlẃ gofynai lai nag -sydd