Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhif 15. MAWRTH, 1891. Cyf. II. YNFYDRWYDD GWRTHRYFEL DYNION YN ERBYN DUW YN APWYNTIAD EI FAB YN FRENIN YR EGLWYS. GAN Y PARCH. T. J. HUMPHREYS, COEDPOETH. "Paham y terfysga y cenhedloedd, ac y myfyria y bobloedd beth ofer ? Y mae brenhiuoedd y ddaear yn ymosod, a'r penaethiaid yn yrngynghori ynghyd, yn erbyn yr Arglwydd, ac yn erbyn ei Grist ef, gan ddywedyd, Drylliwn eu rhwymau hwy, a thaflwn eu rheffynau oddi wrthym. Yr hwn sydd yn preswylio yn y nefoedd a chwardd : yr Arglwydd a'u gwatwar hwynt. Yna y Uefara efe wrthynt yn ei lid, ac yn ei ddigllonrwydd y dychryna efe hwynt. Minau a osodais fy Mrenhin ar Seion fy mynydd sancUidd," Salm ii. 1—6. ÍtjERTHYNA i'r Salm hon ddirgeledigaethau. Gallwn enwi o leiaf pr ddau, sef ei hawdwr, a'r brenin y cyfeirir ynddi ato. Nis gwyddom pwy ydoedd ei hawdwr. Ond y mae genym lawer o resyrr.au dros ddywedyd mai y Messiah ydyw y Brenin y cyfeiria ato. Fel llawer ysgrythyr, perthyna i'r Salm hon ystyr ddyblyg, sef, llythyrenol a phroffwydoliaethol. Yn llythyrenol cyfeiria at un o frenhinoedd y ddwyfîywiaeth; ac yn broffwydoliaethol at Grist fel Brenin yr Eglwys. O dan y ddwyfiywiaeth yr oedd Israel fel cenedl etholedig Duw yn eglwys weledig iddo ar y ddaear, ac felly ei brenhinoedd yn frenhinoedd