Skip to main content

Rhif 14. CHWEFROR, 1891. Cyf. II. -------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------0 GOLUD GRAS. GAN Y PARCH. Ë. ROBERTS, D.D., PONTYPRIDD. "Fel y gallai ddangos yn yr oesoedd a ddeuai, ragorol olad ei raa ef, trwy eì gymmwynasgarwch i ni yng Nghrist Iesu," Epb. 11. 7. {{/jf/'RAS," rhadioni, rhodd heb ei haeddu, haelioni i'r annheüwng VlJ a'r drwg. Peth prin iawn yw hyny yn ein plith ni ddyn- ion. Cyfnewid gwerth am werth sydd yn ffynu gyda ni. Buasai yn dlawd iawn arnom pe felly yr ymddygai Duw atom ni; oblegid ni feddwn ddim, ac nid ydym yn haeddu dim ganddo ef. Arfer Duw yw rhoi, a hyny i'r annheilwng a'r drwg. Ond os yw gras yn brin gyda ni, mae cyflawnder yn Nuw. Dyma sydd yn cyfansoddi ei gyfoeth. "Yr hwn sydd gyfoethog o drugaredd" (adn. 4.) "Golud ei ras ef." Mae pob priodoledd berthynol i Dduw ar y raddfa helaethaf; Hollalluog, Hollwybodol, Hollbresenol, y gelwir ef; ond anfynych y defnyddir y gair cyfoeth neu olud mewn cysylltiad a'r priodoleddau hyn. Gras sydd yn gwneud i fyny olud Duw. Mae y geiriau yn ein testyn yn cyfleu y syniad o gyflawnder—"ei ras ef," "golud eiras ef," "rhagorol olud ei ras ef." Mae cymaint 0 ras yn Nuw fel y gall hyfforddio ei ddangos. Gwarth i ni fyddai ceisio dangos ein gras, gan mor brin ydyw; ond gogoniant Duw yw ei ras. Mae dangos ei ras yn rhoddi anrhydedd bythol arno. "Fel y gallai ddangos yn yr oesoedd a ddeuai, ragorol olud ei ras ef." Oes yr arddangosfeydd yw yr oes hon, er y flwyddyn 1851, pan y codwyd