Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhif 13. IONAWR, 1891. Cyf. II. DIRGELWCH YR EFENGYL. GAN PROF. ELLIS EDWARDS, M. A, BALA. "Ac yr oedd dyn o'r Phariseaid a'i enw Nicodemus, pennaeth yr Iuddewon : Hwna ddaeth at yr Iesu liw nos, ac a ddywedodd wrtho, Rabbi, nyni a wyddom mai dysgawdwr ydwyt ti wedi dyfod oddi wrth Dduw: canys nì allai neb wneuthur y gwyrthiau hyn yr wyt ti yn eu gwneuthur, oni bai fod Duw gyd âg ef," Ioan ni. 1 a 2. CjfJ R oedd hyn, fel y gwyddoch, yn ddechreuad ymddyddan rhwng 33 Nicödemus â Iesu Grist. Yr oedd Nicodemus yn Pharisead, yn perthyn i'r dosbarth a brofodd yn fwyaf gelynol i'r Gwaredwr. Ond yr oedd rhai yn y nifer wedi cadw digon o le yn eu calonau i'r gwir oleuni i allu gweled Athraw dwyfol yn mab Joseph. Daeth Nicodemus at yr Iesu mewn duwiol-frydedd a gostyngeiddrwydd dwys. Wele un yn dyfod i glywed Duw yn siárad â'i enaid. Dyma yr amcan a ddylai fod genym nináu yn awr. Yr ydÿm yn gweled oddiwrth eiriau cyntaf Nicodemus mai dyfod at Grist yr pedd fel at athraw, dyfod i gael ei ddysgu. Nid yw yn ceisio dim arall. Fel pe bai yn dywedyd, "Athraw òddiwrth Dduw, dangos i miy ffordd, a mi a'i rhodiaf! Dywed wrthyf pa beth i'w wneud, a mi a'i gwnaf. Y mae fy mod yn dyfod atat yn dangos fy mod yn barod i dderbyn dy arweiniad." Ac oni fuasem yn dyẅedyd am un mor ddifrifol, mor ysprydol, mor ostyngedig, mai dysgu yn unig oedd arao ei