Skip to main content

Y GWIR FEDYDDIWR. Cyf. II.] RHAGFYR, 1843. [Ruif 24. COFIANT Y PARCH. WILLIAM EYANS, Gwcinidog y Bedyddtcyr yn Aberystwyih. GAN JOHN JONES, LLANDYSSYL. Pa>" fu farw y brawd teilwng W. Evans, yr oeddwn yn meddwl y buasai rbyw un mwy galluog nâ mi wedi ysgrifenu Cofiant addas i'w goffadwriaetbu, yn nihell cyn hyn; ond cr fy mawr siomedigaeth, y mae ei enw a'i hynodion wedi cael aros byd ynia tan lèni dystawrwydd. Meddyliais, wrth weled hanes ei farwolaeth yn Y Gwir Fedydd- iwr am Rhagfyr, 18-40, fod rhyw berson addas yn bwriadu ymosod at y gorchwylyn yn lled fuan, ac y buasai yn rhyfyg ynof fi i anturio sòn am dano. Dysgwyliais yn agos i dair blynedd, ac eto heb weled dim ; am lìyny cymmeraf fy rhyddid yn awr i roddi bras-ddarluniad o nodweddiadau fy anwyl frawd, yr hwn a ddaeth i'r byd trafferthus yma yr un fiwyddyn à mi, ac aethom i'r sefyllfa briodasol ein dau yr un fìwyddyn. Hefyd, cawsom y fraint o ddyfod at grefydd, a dechreuasom bregethu yr efeng- yl, yn-agos iawn i'r un amser; ac yr oedd- em eih dau dan yr un gyffelyb anfanteision, gyda golwg ar fyned yn bregethwyr, fel y buom yn ymddiddan lawer gwaith fod ein rhwymau yn fwy i Dduw nâ'r rhan fwyaf o'n brodyr, am i ni gael bod o ychydig ddefnydd yn ei deyrnas. Gwrthrycb ein sylw yn y Cofiant presen- nol a anwyd yn y fiwyddyn 1780, yn mhlwyf Llanboidy, yn swydd Gaerfyrddin; ac enwau ei riaint oeddynt James ac Anne Evans. Yr oeddynt yn deulu cymmerad- wy a pharchus neillduol gan bawb a'u had- waenent. Er nad oedd eu hamgylchiadau ond lled isel o ran manteision y byd hwn, yr oeddent yn cael eu cyfrif yn deulu gonest, cywir, heddychol, diwyd, a duwiol; a dygasant eu plant fynu yn addysg ac ofn Cyf. II. yr Arglwydd, trwy eu hyfforddi yn mhen eu fìbrdd. a'u ceryddu yn Ilym am dòri gorchymynion Duw, ac nid cyfyngu eu ceryddon yn unig am dori eu gorchymynion hwy eu hunain. Ymdrechent gateceisio eu plant yn egwydclorion y Testament Newydd, a rhoddi siamplau da mewn ymarweddiad iddynt bob amser. Yr oedd Mr. James Evans yn bregethwr cynnorthwyol yn Nghwmfelin-Monach, ac yn dderbyniol iawn, fel pregethwrprofiadol a selog yn yr eglwys y perthynai iddi, y*i gystal ag yn yr holl eglwysi a gawsant y fraint o'i wrando. Bu ef a William ei fab, yn teithio yn nghyd trwy lawer o eglwysi y Dywysogaeth, ac yn ol derbyn eu cyhoedd- iadau, byddai dysgwyliad mawr am amser eu dyfodiad ; a'r dywediad cytfredin oecld, " Y mae y tad a'r mab ỳn dyfod i ymweled à ni; os daw yr Ysbryd Glàn befyd, dyna ddigon ; " a chafwyd cyfleusdra yn fynych i grcdu mai felly yr oedd. Nid oedd amgylchiadau eì rieni yn can- iatâu iddynt roddi ond ychydig o fanteision dysgeidiaeth i'w plant; ac oblegid hyny, ni chafodd Mr. Evans ddim llawn tri chwarter blwyddyn o ysgol yn ei fywyd, fel y tystiodd ei hun wrthyf amryw weithiau ; ond trwy ei ddiwydrwydd a'i ymroad diílin, efe a ddysgodd fwy yn yr yspaid byr hwnw, nag a wna llawer mewn cynnifer a thair o flyneddoedd. Yr oedd rhai yn darüen eu Biblau pan ddechreuodd ef yn ei lyfr corn, ond gyda dechreu yr ail dri mis yr ocdd wedi eu dàl, a myned heibio iddynt, er ei fod yn lled ieuangc y pryd hwnw; oblegid gorfu arno adael ei rieni yn foreu iawn, a myned i wasanaetbu at dyddvnwr 2x