Skip to main content

Y GWIR FEDYDDIWR, Cyf. II.] TACHWEDD, 1843. [Rhif 23. TRAETHAWD AR IlüNAN-DWYLL CREFYDDOL. GAN J. JONES, CAPEL SION, MERTHYR. Bernir mai cariad at wybodaeth yw un o'r egwyddorion cryfaf yn y cyfansoddiad dynol; ei effeithiau hefyd a ymleda yn mhell a chyffredinol, nes cyihaedd pob oedran, cyfiwr, a sefyllfa. O dan ei ddylan- wadau argraffiadol yr ymgyfyd y teithiwr dewr-galon i'w bereiindodau hirfeithion, gan ddyoddef colledion ar y ffordd, a chroesi myrdd o beryglon yn ystod yr ymdeithiad; o dan ei eft'eithiau nodedig y gadawa yr an- turiaethwr ei wlad enedigol, er ei holl lan- erchau a'i dedwyddwch, ac a basiafynyddau uchelion, a moroedd dychrynadwy, gan grwydro mewn gwledydd estronol a dyeithr; ei chynhyrfion rhyfeddol a weithia yr as- tudiwr i'w fyfyrgell, gan aberthu pleserau bywyd, cyfoeth, ac iechyd, er cyrhaedd ad- nabyddiaeth o arferion a buchedd yr oesau a aethant heibio. Yr un egwyddor hefyd a ymafla yn nghalon yr athronydd penuchel, gan ei dynu ifyfyrio creadigaeth yn ei heangder a'i llwybrau, ei chylch-droion a'i phlanedau, ei phegynau a'i moroedd, nes yr eheda ei feddwl dychymmygol tu draw i'r terfyngylch gweledig, gan ymgolli mewn syndod yn nghanol yr ymchwiliad, &c, &c. Ymgeisia.yr enaid am wybodaeth newydd o hyd, ac nis llonydda nes cael gafael yn- ddi; a'r mwyaf ei wybodaeth yn gyffredin yw y mwyaf sychedig am wybod rhagor, pan y mae ereill, er gwybod ond ychydig, yn foddlon ar sy ganddynt, gan dybied hefyd fod yr hyn sy ddichonadwy ei wybod wedi ei gyrhaeddyd, ac nad yw yn bossibl myned yn uwch nag yr aethant hwy. Gwrando! y mae genyt fyd o ryfeddodau eto i'w ddysgu, for wonders will never cease; Cyf. II. ac y mae ychydig ddysg yn fynych yn eithaf peryglus, am ei fod yn aml yn cenedlu hiinanoldéb yn y galon, gan fod yr hwn sy ganddo ycliydig yn fynychach yn mesur ei wybodaeth yn ficy nag ydyw yn hytrach nag yn ìlai. Rho heibio dyfanciful majesty, ac ymafael hyd y mae ynot yn mhyngciau chwanegol gwybodaeth, oblegid fe ymleda yr enaid wrth fyfyrio, pan y mae y rhai a drigant byth yn yr un man yn gulfain ac ynnychlyd; eto wedi yr holl ymchwiliad, "ni ddigonir y llygaid â gweled, a'r glust â chlywed;" wedi dy wib-deithiau yn llwybr- au gwybodaeth, tro atat dy hun, a chyda difrifoldeb teilwng o'th gymmeriad fel creadur rhesymol, myfyria ar dy sefyllfa a'th dynged dragywyddol, dy gyssylltiad ag amser athragywyddoldeb—ymgyrhaedd am oleu ar dy gyflwr, rhag i ti yn y man gwrdd â siomedigaeth a bair i ti ymddyrysu heb olwg ar noddfa. Wrth hyny dymunwn fod y geiriau pwysig ac effeithiol hyny wedi eu hargi-aftu ger dy fron mewn llythyrenau eglur ac annileadwy, " Ddyn, adnebydd dy hun." Ac os ydwyt grefyddol, gan mai â thi y mae a fynwyf yn benaf ar hyn o bryd, cofia y cyngor apostolaidd, " Na thwylled neb ei hunan." O bob peth y gellir cam- synied yn ei gylch, y peth penaf yw hunan- dicyll mewn crefydd, yn gymaint a bod y can- lyniad yn bwysig a thragywyddol. Siom- edaeth mewn adwy o gyfynder yw un o'r pethau chwerwaf y mae yn bossibl i'r enaid dynol ei deimlo; efe yn tybied fod ganddo ddigon er ei ddiogelu, ond wrth ei chwilio a'i brofi, y cwbl o'i feddiant yn troi allaa yn arian gwrthodig—hyn sydd wermod a 2 R