Skip to main content

Y GWIR FEDYDDIWR. Cyf. II.] HYDREF, 1843. [Ruif 22. GWIRIONEDD CRISTIONOGRWYDD YN CAEL EI BROFI ODDIWRTH DROEDIGAETH YR APOSTOL PAUL. Y DEFNYDD WEDI EI GYMMERYD O YSGRIFEN' ARGLWYDD LITTLETON. GAN DEWI MAI. Mab troedigaeth yr apostol Paul, ynghyd â'r amgylchiadau cydfynedol, yn ein cy- nysgaethu ag un o'r profion mwyaf bodd- haol ag a roddwyd erioed o ddwyfoldeb crefydd y Testament Newydd. Ddarfod i'r person enwog hwn, o fod yn erlidiwr selog dysgyblion Crist, ddyfod ar unwaith yn ddysgybl ei hun, sydd ffaith nas gellir ei gwadu heb ddymchwelyd yn hollol bob ymddiried yn ngwiredd hanesyddiaeth. Rhaid gan hyny ei fod ef wedi ei ddych- welyd yn y modd gwyrthiol a grybwyllir ganddo ei hunan, ac o ganlyniad fod y grefydd Gristnogol yn ddatguddiad dwyfol, neu ynte rhaid mai twyllwr ydoedd, pen- boethddyn, neu hudwr ereill i gyfeiliornad- au. Anuichonadwy fod yr un olygiaeth arall idd ei dewis. Os twyllwr ydoedd, ac yn cyhoedjU yr hyn a wyddai ei fod yn gyfeiliornusnfiiaid y tueddid ef i weithredu y rhan hyny gan ryw gymhelliad. Eithr yr holl gymhellion amgyffredadwy mewn hydwylledd crefydd- ol, ydynt y gobeithion o ychwanegu golud, enwogrwydd, a gallu; neu ragolygiaeth i foddloni rhyw nwyd, neu chwaeth dan gochl ac awdurdod y grefydd newydd. Na allasai yr un o'r pethau îryn fod yn gym- helliad i Paul broffesu ffydd yn y Crist croeshoeliedig sydd eglur, oddiwrth sefyllfa Iuddewiaeth aChristionogaethyny tymhor pan yr ymadawodd a'r blaenaf, ac y cofieid- iodd yr olaf, Y cyfryw a adawodd oeddynt berchenogion a dosparthwyr golud, mawr- edd, agallu yn Judea; y cyfryw at ba rai yr Cyf. ii. aeth öeddynt oblygedig mewn angenoctyd, ac wedi eu cau oddiwrth yv holl foddau o wellhau eu hamgylchiadau; y canlyniad sicr gan hyny o'i ymbleidiad ef o Gristion- ogaeth ydoedd colliant nid yn unig o'r oll a feddai, eithr o bob gobaith o ennül rhagor; tra wrth barhau i erlid y Cristnog- ion yr oedd ganddo obeithion yn cyfodi braidd i sicrwydd o wneuthur ei hun yn oludog trwy ffafrau, y rhai hyny ag oeddynt wrth law y lywodraeth Iuddewig, idd y rhai nis gallasai dim ei gymmeradwyo gym- maint a'r sêl a ddangosasai yn yr erledig- aeth hòno. Am gymmeradwyaeth, neu enwogrwydd, a allasai ysgolhaig Gamaliel obeithio enill yr un o honynt tiwy ddyfod yn ddysgawdwr yn athrofa pysgodwyr! A allasai efe wenieithio iddo ei hun y buasai yr athrawiaeth a gyhoeddai naill ai yn, neu tu allan i Judea, yn anrhydedd iddo, tra y gwyddai " ei bod i'r Iuddewon yn dratngwydd, ac i'r Groegiaid yn ffol- ineb." Ai awydd am awdurdod ynte a'i tueddodd i wneuthur y cyfnewidiad mawr hwnl Awdurdod! dros bwy? dros ddi- adell o ddefaid, y rhai yr ymdre.chasai eíe ei hun eu dystrywio, ac unig Fugail pa rai oedd newydd gael ei lofruddio! Dichon mai gyda golwg i foddhau rhyw nwyd aflywodra'ethus dan árgymmeriad crefydd newydd, yr ymosododd ar fod yn ddysgawd- wr y grefydd hòno. Hyn nis gelBr haeru, canys yn ei ysgrifeniadau nid oes ond y moesoldcb mwyaf manwl yn cael ei ar- ddantíos. Ufudd-dod i swyddogion, i 2 N