Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GWm FEDYDDIWR. Cyf. II.] MEDI, 1843. [Rhif.21. BOD TRUGAREDD GAN DDUW I DRUEINIAID. GAN J. JONES, MERTHYE. Nid yw ein gwybodaeth ara y Bod dwyfol ond terfynpl ac anmherffaith iawn. Nis gwyddom ond ychydig am ein hys- brydoedd ein hunain, eu cyfansoddiad, a'u priodoliaeth.au. Nid yw yn ddichonadwy i ni farnu am Fod ysbrydol, ond yn unig wrth ei weithredoedd, na dirnad am ei biiodoliaethau ond wrth eu cymmeriad gweledig. Gochelwn feddwl am Dduw fel pe y byddai ryw wrthrych cyffelyb i ni, na thybied am ei briodoliaethau fel pe byddent ryw ansoddau dyeithriol i'w hanfod, ac nicl fel pethau a gyfansodda ei fodoliaeth, &c. Tystir am.Dduw ei fod nid yn unig yn Fod cariadlon, ond ei fod yn gariad ei hun, a'r hyn a enwir genym, ei briodoliaethau goruchel ynt sylweddau hanfodol ei natur. Diau fod iaith ddynol yn rhy wan i dros- glwyddo i ni ddimadiaeth gyfatebol am y Duw mawr ac arifeidrol, am hýny gwyliwn ymddyrysu o berthỳnas i'r Jehofah. Pan ddywedir fod Duw yn ddigllon beunydd ŵrth yr annuwiol, nid ydym i ddychymygu am ryw nwydau aflywodraethus yn y Duwdod santaidd a bendigaid, ond fod euogion troseddedig yn agored i'w ergyd dialeddol fel Bod cytiawn, a bod peçhod yn sicr o gael ei gospi gan yr hwn na wna gam â gwr yn ei fatter. Yr holl ddywed- iadau hyny, y rhai a egluranty Bod dwyfol fel yn feddiannol. ar serchiadau cariadlon, ynt ymadroddion lluniedig er ateb gwendid ein galluoedd ni, a chyfeiriant at ei ogon- iant amlygiadol, neu ei weithredoedd rhy- feddol yn ngwahanol ddosparthion ei lywodraeth. Er y bodola y perffeithiau dwyfol yn gydradd yn y Duwdod santaidd, eto dysgleir- Cyf. Ií. iant gyda graddau gwahanol o ogoniant i wahanol restrau o fodau deallol. Nid yw yn anmhriodol fod y llengau angylaidd yn ngwlad y gwawl yn cael y golygiadau dysgleiriaf o'r purdeb dtcyfol; y lluoedd cythreulig yr amlygiadau mwyaf ô'i gyf- iawnde»- dialeddol; a hil syrthiedig Adda y datguddiad godidocaf o'i drugaredd an- nherfynol. Gweithreda yr holl berffeithiau mewn cydgordiad, fel nad yw y naill yn cymylu y llall. Nid oes mwy o drugaredd mewn tosturio nag sydd o gyfiawndermewn cospi, pan yn estyn maddeuant i'r edifeir- iol. "Trugaredd a gwirionedd a ymgyf- arfuant; cyfiawnder a heddwch a ymgusan- asant." Golyga trugaredd Duwyr amlygiad hyny o'i Jiaelfrydedd, trwy yr hon yr ymgeledda drueiniaid, a chyfyd yr ymhyfrydiad y mae Duw yn gymmeryd ynddo o natur y gymhwynas ei hun; gorlona teinüad haei- frydig fwy. wrth weini trugaredd nag wrth weinyddu cyfiawnder mewn. barn; a phan y mae trosedd ar gyfraith yn galw am gosp oddiwrth y deddfroddwr, ymgoda hyn o angenrheidrwydd pethau, ond tosturio wrth y truenus Sydd hyfryd, fel y mae y Duwdod yn canu wrth achub. Cariad yn Nuw at gyfiawnder a ddeillia o'i gariad ato ei hun, ac hefyd o'i barch at ei gymmeriad. Fel Tad y golauni, a ffynon pob da, rhaid mai ei berffeithiau ei hun yw gwrthrych uwchaf ei sylw, am hyny y dywedir ei fod yn Dduto eiddigns, yr hwn ni rydd ei ogoniant i arall, na'i faA\l i ddeiwau cerfiedig. Nis goddef i anrliydeád ei gymmeriad i. gael ei lychwino trwy yr attaliad o Aveinyddiad c.yfiawnder; ond fel llywodraethwr gor-