Skip to main content

Y GWIE FEDYDDIWB. Cyf. II.] AWST, 1843. [Riiif. 20. PABAETH. PREGETH AR 2THES, ii, 8—12. Ac yna y datguddir yr Anwîr hwnw, yr hwn a ddyfetha yr Arglwydd ag ysbryd ei enaií, ac a ddüea â d:/syleir<:eb ei ddyfodiad : sefyrhwn y mae ei ddyfodiad yn ol gweithrediad Satan, gyi â phob ne.rth, ac arwyddion, a rhyfeddodau yau, a phob dichell anyhyfiawnder yn y rhai colledig ; avi na dderbyniasant gariad y ywirionedd, fel y byddent gadwedig. Ac atn hyny y denfyn Duw iddynt hwy amryfusedd cadam', fel y credont gelwydd. GAN J. JENKINS, LLYDAW. Yn y bennod flaenorol y mae yr apostol yn nodi y bydd i farn Duw ddisgyn ar y rhai a erlidiant ei bobl, tra y bydd i'r flỳdd- loniaid a gystuddir gael eu cwbl waredu o'u trallodau; ac y bydd i hyn gymmeryd lle yn ail ddyfodiad yr Arglwydd Iesu o'r nef, gyda'i angylion nerthol, &c, hyd ddiwedd adn. 10. Eithr fe ymddengys fod cyfeiliornad yn nghylch amser ail ymddangosiad Crist yn flynu yn mhlith y Cristionogion a anerchai yr apostol, yr hwn a gynnwysid mewn gol- ygu ei fod ef i ymddangos ar fyrder. I'r dyben o symud y cam-olygiad mewn golwg yr ysgrifenodd ef y ddwy adnod flaenaf o'r bennod hon, ac yr hysbysodd iddynt fod llygredigaeth mawr mewn crefydd ac yn yr eglwys i gymmeryd lle yn flaenorol i ail ddyfodiad y Gwaredwr. Gellir sylwi fod yr hyn a ddywed yr apostol am y llygredigaeth a gymmerasai le yn yr eglwys Gristionogol yn un o'r pro- phwydoliaethau mwyaf eglur a phwysig o barth cyflwr yr Eglwys Gristionogol, ag a gynnwysir yn y Testament New- ydd. Coleddir y farn yn gyffredinol mai llygredigaeth pabyddiaeth sydd mewn golwg, ac y mae yn afreidiol i mi chwanegu fy mod yn coleddu yr un golygiad. Sylwer fod y brophwydoliaeth hon wedi ei rhoddi i ni gan ddwyfol ysbrydoliaeth, ac yr ym- ddengys ei bod o bwys neillduol i eghvys wirioneddol y Ceidwad, am fod y llygredig- aeth mawr hwn yn llygredigaeth crefyddol yn yr eglwys Gristionogol, ei fod mor ddin- CVF. II. ystrol i eneidiau dynion a llwyddiant cref- ydd, ei fod yn amgylchu ac yn milwrio yn erbyn praidd bychain y Bugail da yn y byd ; a bod ymdrechion efengylaidd, cartrefol a thramor, eanlynwyr yrOen, yn wrthwynebol iddo, ac yn amcanu at ei ddyfetha a'i ddileu. Er egluro y rhan hon o air Duw, bwr- iadwyf sylwi ar y pethau canljnol:— I. Y darluniad a roddir yma o sefyllfa a mawredd y person a wisgir à'r awdurdod babaidd, a'r enwau cymmeriadol a roddir iddo. II. Dechreuad a moddion cynnydd yr awdurdod babaidd, a pharhad ei goruchaf- iaeth. III. Dinystr pabyddiaeth, yn nghyd a'r moddion a ddefnyddia yr Arglwydd i'r dyben hwn. I. Y darluniad a roddir i ni o sefyllfa a mawredd y dynion a wisgir â'r awdurdod babaidd a draethir i ni yn y 4ydd adnod. Yma dynodir i ni drigfa, sefyllfa, mawredd, a hunan-ddyrchafiad yr awdurdod babaidd. 1, Trigfa yr awdurdod babaidd yw teml Duw. Wrth y deml y golygir yn gyflredin yr adeilad mawr a godwyd yn Jerusalem i holl lwythau Israel ymgynnull i addoli yr Arglwydd, dysgu ei gyfraith, ac oflrymu iddo. Yn yr adnod dan sylw, golygir wrth y gair teml, nid yr adeilad ag a elwid felly yn Jerusalem, eithr coríf gweledig yr eglwys Gristionogol, neu y corfF hwnw o bobl a arddelant y grefydd Gristionogol yn y byd, ac yn mhlith y rhai yr addolir Duw, y dysgir athrawiaethau crefydd, ac y gwasanaethir 2e