Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GWIR FEDYDDIWR. Cyf. II.] GORPHENHAF, 1843. [Riiif. 19. ARAETH GENHADOL, A DRADDODWYD YN NGHAPËL SION, MERTHYR. GAN J. JONES. .\nwyliaid Cristionogol,—Goulonir fy metldwl yn neillduol wrth gyfarfod â chyfeilliou achos y Gwaredwr yn ngwa- hanol barthau y dywysogaeth, y rhai a ym- wregysant o du Arglwydd y lluoedd yn crbyn ycedyrn gan ddiweinio eu cleddyfau, gan chwifio eu banerau yn yr awelon haf- aidd a anadla dros fryniau gwirionedd, gwasgu ar wersylloedd a thir y gelyn, a thwng-ymrwymo mynu Tywysog tangnef- edd yn llywydd y cyfanfyd. Yr wyf, erbynJ| liyn, bron yn ystyried pob man fel fy ngar- trcf, a'r rliai a'm hamgylchyna fy ngharwyr calonog, cyfcillach pa rai sy ddymunol, eryn niyd y trallodau; ond annhraethol felusach ar ol glànio i'r oror berfleithiedig, oblegid gyda chwi yr wyf yn hyderu cael oesi yr hirfaith dragywyddol a ddaw, &c, &c. Cyfarfyddwn heddyw, nid i ffurfio mesur- au er dysgu llywodracth ein gwlad, aphen- derfynu ar ý moddion tebycaf i gyrhaedd pomp ac anrhydedd yn mhlith uchelion y ddaear, ond i ddadleu hawliau y deyrnas sydd â'i sail yn angeu y Gwaredwr, a'i gaf- aelion yn nhiroedd sefydlog y cyfammod newydd, a'r hon, rhyw ddydd, a ymleda fel nabydd terfynau i'w hamgylchu, ond y rhai hyny a amgylchant y byd. Cymdeithas Genhadol y Bedyddwyr sydd beiriant gogoneddus a phwrpasol, yr hwn a weithia ar gestyll damniol a thalgryfion eil- unaddoliaeth, pabyddiaeth, heresi, rhagfarn, a gelyniaeth dynion; a diau fod y peiriann- wyr yn y dwyrain a'r gorllewin wedi ym- wystlo gerbron Duw, fel Hannibal gynt pan y tyngodd ar allorau ei wlad y byddai yn elyn tragywyddol y Rhufeiniaid; felly hwythau, ni lonyddant ac ni phallant nes y bo amddiffynfeydd annghrist yn gydwastad Cyf. II. â'r llawr. Gwir yr ymddangosant yn gedyrn ac anoresgynadwy, eu bwletiau uffemol yn ymfachu yn ofnadwy, a'u clorian haiaraaidd yn seiliedig ag awdurdod y fagddu ; ond y gymdeithas efengylaidd hon a'u dryllia ae a'u todda, fel y tawdd gwaed y gallestr, gan ddatguddio twyll y dyn pechod, a gwneuthur yr holl gynlluniau gwrthwynebol yn wawd bythol gerbron holl fydoedd rhinweddol y Jehofah. Dyma un o'r trosolion a'r gyrdd a osod- wyd yn nghloddfa fawr Eden er dattod y meini yn rhyddion, y rhai yn y man a welir yn nheml gogoniant "yn gerig wedi eu cwbl naddu cyn eu dwyn yno." Y mae rhwygiadau dychrynllyd yn cael eu gwneud yn y graig yn ílyneddol, ac nid yw yn ddichonadwy i bechod mwy i asio yn ol y darn a dorwyd; ond dysgwylir cyn hir weled a chlywed am ysgydwad cyffredinol, fel pe 'r ymaflai rhyw grynfa ddigyffelyb yn ngwythi dyryslyd y gloddfa fawr, &c., &c. Dyma yr afon sydd yn tarddu yn mwr- iadau grasol Duw, gan redeg trwy yr anial- wch diffaith, dyfrhau y tir a reibiwyd, a lloni y diffeithdir lleidiog, gan ei wisgo ag addurniadauparadwjs—gwae hefydi'r hwn a amcano attal ei rhediad, oblegid gan gym- maint ei grym hi a ddryllia y gwrthgloddiau yn chwilfriw, ac a wthia yr holl argaeon i ddystryw tragywyddol, a chyfyd i'rlàn yn ei rhedfa cyfuwch â'i tharddiad gwreiddiol, nes y bo fel diluw yn gordoi y greadigaeth, gan ddwyn miloedd ar filoedd o waeleddau y codwm yn iach ac achubol i diroedd Uon- der ac ymgeledd. Llwyddiant iddi. Gall fod ambell un lled grynedig yn barod i ddweyd erbyn hyn, cystal a gwell yw bod yn Uonydd am dro, yn gymmaint a bod y 2a