Skip to main content

Y GWIR FEDYDDIWR. Cyf. II.] MAI, 1843. [Rhif. 17. ARFAETIIAU DUW. LLYTHYRAü CREFYDDOL.—LLYTHYR III. GAN D. JONES, CAERDYDD. Yn fy llythyr diwoddaf, ynulrechais, a gobeithio fy mod wedi llwyddo, i ddangos yn ddigon eglur i'r darllenydd, sefyllfaoedd priodol arfaetliau a rhagwybodaeth Duw yn eu cysylltiad â gwahanol wrthddrychau. Yr wyfyn crefu sylw manylgraff fy narllenydd yn mhellach, yn y llythyr hwn, at yr un pwngc, gyda golwg ar wahanol ganghenau perthynol iddo. Yr wyf yn dymuno cyfleu gerbron y dar- llenydd yn eglurbwyll, fy mod yn ystyried RIIAGWYBODAETII ÜUW O DDRWG MOESOL YN CYFODI ODDIAR NATUR BERFFAITII, LLWYR-GWBL, ANCIIWILIADWY, AC AN- FEIDROL Y JEHOFAH MAWR, AC NID ODDI- AR EI ARFAETIIAU DWYFOL. Diameu fod Duw yn gwybod yn drwyadl am yr oll oedd i gymeryd lle ; gwyddai am ewyllysiad a gweithrediadau ei holl greaduriaid; gwyddai am darddiad a chynnydd drwg moesol yn y byd. Yr ydwyf yn meddwl fod fy holl ddar- llenwyr yn credu hyn yn ddiymwad gyda golwg ar y Duw hollwybodol. Gwyddai pa fodd y gweithredai pob dyn ac angel. Wrth ffurfio pob un o'r ddau, gwyddai pa ddefnjdd a wneuthent o'u galluoedd. Yn awr, y pwngc yw, yn ngwyneb yr hollwy- bodaeth yma, onid oedd rhyw ddylanwad oddiwrth Dduw yn nygiad i mewn ddrwg moesol i'r bydl Nac oedd, yn y mesur lleiaf. Nis gall fod gwybodaeth un o un arall ddim bod yn achos efFeithiol iddo ef weithredu un ffordd na'r llall. Meddyliwch am beiriant: nis gall fod trwyadl wybodaeth un am ei holl wahanol ranau ddim bod yn achos iddo weithredu yn ol neu yn mlaen, gochwith neu godde; y mae yn weithredydd hollol rydd, o ran gwybodacth pwy bynag Cyf. II. am dano. Y mae pob peth yn sicr o ddyfod i ben fel y mae Duw yn gwybod y daw, ond nid obleyid fod Duw yn gwybod y daw y cymer un drwg le. Nid yw fod Duw yn gwybod am dauo yn profi mai y wybodaeth hùno yw yr achos o'i fodoliaeth Nis gellir meddwl hyny heb gredu fod Duw yn awdwr pechod, yr hyn a fyddai yn rhyfyg o'r mwyaf idd ei feddwl am y Duw sydd â'i lygaid yn lanach nag y medr edrych ar anwiredd. Creodd Duw ddyn ar y cyntafarei ddelw ci hun,—yn uniawn, ac yn rhydd oddiwrth bob anmherffeithrwydd, yn alluog i ufudd- hau idd ei Wneuthurwr, a pharhau mewn dedwyddwch, ond yn agored i syrthio, a dyfod yn druenus. Ac er y gwyddai y byddai iddo syrthio, ni allasai achos ei syrthiad fod yn Nuw. Y mae rhai wedi priodoli syrthiad Adda i dyniad yn ol oddiwrtho y gallu angen- rheidiol tuag at ei gynhaliad mewn sefyllfa o ddiniweidrwydd, ac ereill yn ei briodoli i arfaethiad, neu ragosodiad Duw. Y mae pob un o'r ddau yn ei daflu i ochr Duw, yr hyn sydd, feddyliwn i, yn newid cymcriad Duw yn hollol, ac yn ei wneud, yn lle bod yn Dduw pur, i fod yn awdwr neu yn achosydd pechod. Gochel y tir, O ddyn. Gyda golwg ar fod dyfodiadpechod i'r byd yn effaith arfaetliiad, neu ragosodiad, nis gall- asai fod; oblegid y mae yn anmhriodol i ni feddwl y buasai Duw yn arfaethu i fod yr hyn nas gallasai, yn unol â'i natur, ei gyflawni. A clian mai santaidd ydyw ei natur, nis gall fod yn awdwr o'r hyn sydd ansantaidd; os felly, nis gallasai fod yn arfaethydd o'r hyn sydd yn ansantaidd. Gyda golwg ar fod Duw wedi (ynu yn ol