Skip to main content

Y GWIR FEDYDDIWR. Cvf. If.] CHWEFROR, 1843. [Rhif. 14. BYWGRAFFIAD THOMAS EVAN WATEINS, (thomas evan o'r rhtd), 0 Bwll yr Hyward, yn mlaen Cwm Llanwenarih, ger Gweithìau y Garnddyrys yn Swydd Fynwy, yr hwn a fu farw Maiyr èfed, 1842, yn £0 oed. GAN EIDDIL IFOR. Pan yn cymmeryd y gorchwyl mewn Uaw o ysgrifenu hanes unrhyw ddyn, ed- rychir fod rhywbeth yn deilwng yn ei daith trwy y byd o'i efelychu, a'i nodweddiad yn gyfryw ac y dylai gael ei barchu a'i gofìo pan yn maluriaw yn y bedd. Ysgrifenir bywgramadau rhai am eu bod yn feddian- nol ar lawer o gyfoeth daearol, ac wedi enill parch ac enwogrwydd trwy eu hael- ioni a'u hymddygiadau daionus tuag at eu cymmydogion, pan mewn helbülion ac ing, yr hyn sydd anrhydedd idd eu henw- au—ereill am eu bod wedi buddugoliaethu mewn cadgyrchau mawrion ar feusydd celanedd—rhai am eu gwybodaethau ëang- ddysg mewn daearyddiaeth a seryddiaeth, eu dysg a'u doniau, a'u medrusrwydd yn holl wybodau y byd adnabyddus ; ond nid yw gwrthrych y cofiant hwn, wedi cyrhaedd i un o'r grisiau anrhydeddus a nodwyd, ond yn un o sefyllfa isel a thlawd yn y byd, heb fod erioed allan o gymmydogaeth ei gwmmwd cynhenid, a chreigle anwastad ardafcei enedigaeth, heb yr enw o wron cadgyrchawl, nac yn feddiannol ar ychwa- neg o ddysg llythyrenol na'i fod yn alluog i ddarllen Llyfr ei Dduw yn ei iaith ei hun, yr hyn a ystyriai yn fraint o'r mwyaf; a'r unig gymmeradwyaeth a feddiannai yn ein tyb ni, oedd ei fod yn enwog mal crefydd- wr—yn ganlynydd nỳddlawn i Grist—yn addurn blodeuog idd yr enwad a arddel- wai—yn gadarn yn y fFydd a roddwyd unwaith i'r Saint, gan fyw mal y dymunai farw, a'i obaith yn sylfaenedig ar y tŵr cadarn a'r graig ddisigl. Iawn y Cyfryng- wr oedd ei fywyd a'i ddigonedd heb ddim o'i eiddo ei hun. Ganwyd gwrthrych y cofion hyn, ar ddydd gwyl Bedr yn y flwyddyn 1762, yn Mlaenau Gwent, a mab hjrnaf oedd i Evan ap Dafydd ap Hywel ap Thomas ap Dafydd Watkins, canys felly yr olrheiniau ei achau yn ol arferiad yr hen Gymry. Yr oedd ei dad Evan yn deilliaw o hen deulu cynhen- id yn Essyllwg, a'r un llwyth 9 hen Wat- kiniaid Glyn Ebbwy, y AVatkiniaid o'r Gryg, a'r Fedw Fawr, ac o'r Pwll gerllaw Brynbiga, oll yn swydd Fynwy, ac o rhan ei fam Elizabeth, o hen dylwyth y Shen- cyniaid o flaen Cwm Llanwenarth a Chwm Llanelen, yn yr un swydd. Symudasant ei dad a'i fam o'r Blaenau i flaen Cwm Llan- wenarth pan oedd Thomas o ddeutu blwydd oed, ac yma y ganwyd ei chwiriorydd a'i frawd, sef Mari, Shaned, Rebbecca, ac Edward, y rhai ynt oll wedi meirw erys amrywiol o fiynyddau, ac ef yn unig a adawwjd o'r teulu, neu o leiaf o'r undeb hwn, a gadwyd i weled pen ei 80ain mlynedd yn myd y gorthrymderau. Yr oedd y dyddiau hyny yn rhai tywyllion, ac yr oedd ymarfer a dysgu darllen ac jsgrif- enu yn beth anghj-flredin, yn neillduol yn mysg j r isel radd, a llawer o ofergoelion a dylni yn mysg jr werin, a'r canlyniad na wnaed Thomas yn fab cynhefin a lljthyr- enau yn ei ddyddiau bachgenaidd. Hefj-d, yr oedd anfantais arall wedi disgj-n idd ei rhan; yr oedd ei dad, Evan Watkins, (Evan o'r Rhyd) yrhwn afu farw yn Ebrill 1812, yn 82 mlwydd oed, yn ddyn ofer, ysgafn o dj-mherau, a thra anofalus am ei deulu, ffrwyth Syr Shon Heiddyn oedd ei eilun penaf—canu maswedd, dawnsio, chwareu eardiau, &c., oedd ei hyfrydwch mwyaf