Skip to main content

Y ëWÎR FEDYDDIWR. Cyf. I.] MEDI, 1842. [Rhif. 9. DYMCHWELIAD CAERAU JERICHO. GAN DYFNWAL. Dywedir mai yr Arglwydd sydd ryfelwr, ac mai yr Arglwydd yw ei enw ; a phan ddel ef'e allan mewn rhyfellgyrch yn erbyn ei elynion, nid dichouadwy i neb ei wrthsefyll, oblegid y mae efe yn gadarn o nerth, a holl elfenan natur yn eirf iddo, fel y gall wasgaru dinystr hyd i bellaf- oedd y greadigaeth ar un waith. Ychydig iawn ydyw y llewyrch sydd wedi tywynu arnom ni mewn pertlnuas i nerthoedd a ìhyfeddodau yr Hollalluog yn modau yr eithation, oblegid eu pellderau oddi- wrthym; ond y mae mawredd ei natur, anfeidroldeb ei ddoethineb, ac anchwil- iadwy oludoedd ei ryfeddodau, yn cyd- brofi ei fod ef yn fawr, ac i'w arswydo yn ei ryfeddodiou drwy ymerodraeth fawr tragwyddoldeb. Ymylau ei wyrthiau aneirif ef ydym ni yn weled, ac am ryw dywyniadau bychain o ardderchawgrwydd yr ydym ni wedi clywed ; oblegid y mae Hesgedd ein natur, a byrdra ein cyr- haeddiadau o'r fath, fel nad allwn synied pethau mawrion ein Harglwydd ar len- nyrch purdeb, Ue y mae efe yn egluro rhyfeddodau uwchlaw ein hamgyíFredion ni, yn mhlith bodau o wybodaethau cwbl ysbrydol, diamdoedig gan leni o gnawd. Y mae cytìead bodau natur yn eu gorsaf- ion priodol, a'u llywodraethiad drwy yr oesau gan ddeddfau diwyrni, yn lloned ein Ilestri ni. Y mae yr amlygiadau o nerthoedd braich y Duw bendigedig mewn creadigaeth a chynhaliaeth y peth- au a welir, yn boddi ein syniadau penaf ni; ac y mae gwaith awdwr natur yn dirymn deddfau ^natur, yn gwneuthur i elfenau natur weithredu yu groes i'w deddfau, ac eto yft cadw peiriannwaith natur heb ymddyrysu, yn llawn ddigon i ddynion mewn cnawd, i'w synwyrau weithredu arnynt tra yn y fuchedd hon. Ond beth am y taleithiau hyny yn y greadigaeth ysbrydol a gyfaneddir gan Cyf. I. fodau ysbrydol, Ilestri y rhai ydynt eang, ac amgyffrediou y rhai ydynt ysbrydol, i weled, i edrych, ac i synied nerthoedd, cadernid, a rhyfeddodau y Duw mawr, o fil miliwn uwch graddau nâ dim ag a am- Iygwyd i ni o ryfeddodau ei weithredoedd ef? Y mae dydd i ddydd yn traethu ymadrodd i ni, a nos ar ol nos yn mynegu gwybodaeth i ni. Y mae llyfr natnr yn holl amrywioliaethau ei ddarluniadau yn fwy nâg a allwn ni synied; ac y mae y datguddiedigaethau a roes ein Dnw o hono ei hun i ni, yn ymeangu i anfeidrol- deb ger gwydd ein syniadau ; oud y mae ei ryfeddodau mwyaf datguddiedig i ni, yn myned dan y lleni yn ymyl ei ryfedd- odau yn y bydoedd ysbrydol, y rhai a wnaeth efe yn mhlith gwybodaethau ysbrydol! Pa beth ydy w gwaith Iòr yn dyfod allan o'i ystafell fawr dragwyddol ar gychwyniad amser a chyfnod ein byd ni, er creu y pethau a welir, at ryw orchwyl mwy o'i eiddo mewn rhan arall o'i ymerodraeth; oblegid y mae meddwl na all yr Hollalluog wneuthur dim mwy nâ chreu, yn gwbl anghydweddol à'r priod- oliaethau perthynol i'w hanfod ? Pa beth ydoedd rhwygo dyfnderau y Môr Cocb, a phalmantu ffordd ì'w ddewisolion ar ei waelodion, er mor fawr a rhyfedd ydoedd hynr at ryw wyrth fawr a gyflawnwyd ganddo yn un o froydd purdeb, am yr hon y mae bodau ysbrydol mewn syndod er ys myrddiwn o oesau? Yn ol ei ddoethineb amrywiol, y mae yr uchel Jehofa wedi cyfleu ei lyfrau i'w greadur- iaid rhesymol yn ol graddau eu syniadau, ac yn ol fel y gallant wneuthur defnydd ohonyut; a pha beth ydyw cylchyniad dydd a nos, am fodau aneirif mewn pellderau mawrion, am drai a Uanw mor- oedd,am ryw gynbyrfiadau mewn natur, neu amrywiaethau creaduriaid a chyu- nyrcli byd fel yr eiddom ni, i thronau, i 2 K