Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GWHt FEDYDDIWIt. Cyf. I.] MAI, 1842. [Rhif. 5. BRASLUN 0 BREGETH AR GADWEDIGAETH BABANOD, A DRADDODWYD GAN Y PARCH. B. WILLIAMS, TABERNACL, MERTHYR, Yn Bethesda, Capel yr Anymddibynwyr, yn yr un lle, Chwef. 13eg, 1842. " Llef a glybuwyd yn Rama, galar, ac wylofain, ac ochain mawr, Rachel yn wylo am ei phlant; ac ni fynai ei chysuro, am nad oeddynt:" Math. ii, 18. Mae dau amgylchiad neillduol wedi achosi llafariad geiriau y testun, sef yn gyntaf, caethgludiad Iiad Abraham, neu ran o'r genedl Inddewig, i Babilon, er eu gorthrymu a'ucystuddio gan eu gelynion; y rhai, o ran pob ymddangosiad yn am- gylchiadau allanol pethau, oeddent wedi eu llwyr gladdu, fel na chawsant byth ddychwelyd yn ol i wladCanaan inwy, ac o ran eu sefyllfa a osodir allan dan y drychfeddwl fod Rachel, mam Benjamin, a gwraig Jacob, yn wylo o'u herwydd, feí y gwelwn Jer. xxxi, 15. " Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Llef a glybuwyd yu Rama, cwynfan ac wylofain chwerw; Rachel yn wylo am ei meibion, ni fynai ei chysuro am ei meibion, o herwydd nad oeddynt." Yn ail, mae cyfeiriad y testun at fechgyn Betlilehem a ferthyrwyd gan Herod, o ddwy flwydd oed a than hyny, mewn trefn i ladd y Messia, &c. Ych- ydig famau sydd wedi dyoddef y caledfyd a'r blinder teimladau a ddyoddefodd y rhai hyn,—gweled y fath greulonderau at eu ihai bychain diniwed, a'u merthyru ger eu gwydd ; ond llawer Rachel sydd wedi teimlo y boen o ymadael â'i babanod trwy weinidogaeth angeu y naill ffordd neu arall, ac y maent wedi wylo digon er Ueithâu eu gwelyau pridd ar en holau. Aufynych iawn y dygir y pwngc sydd genym yn bresennol i'r areithfa, a hyny yn benaf, fe ddichon, o herwydd nad oes a fyno gweinidogaeth yr efengylynunion- gyrchol â babanod fel y cyfryw yn ei gorchymynion, ei bygythion, na'i hordin- hadau, ond â dynion mewn oedran, o am-? gyffrediadau i 'ddeall ei chynnwysiad. Mae dynion yn wahanol a rhanedig iawu yn eu golygiadau o barth cadwedigaeth babanod, hyd y nod Cristnogion a duw- Cyf. I. iolion. Rhai a dybiant fod pawb sydd yn marw yn ddifedydd yn. golledig. Ereill a dybiant fod y rhai sydd yn marw yn ddifedydd yn cael eu çyfleu i sefyllfa o annheimladrwydd o boen na gwynfyd yn y byd tragwyddol, megis Ridgley, &c. Ereill a dybiant mai plant anuuwiolion difedydd yn unig a gyfrgollir. Ondy mae ereill.o deimladau mwy tyner, yn meddwl am yr holl fabanod sydd yn marw heb eu taenellu, eu bod yn cael eu dihanfodi. Mae y dynion da hyn ya ystyried y byddai yn greulonder yn.y Bod goruchel osod babanod diniwed yn uffern, ac ar. yr un pryd mae eu cyfun- draeth yn rhy gyfyngi ganiatâulle iddynt yn y nef wen !! ! Ond y mae y Bedydd- wyr yn gyffredinol, yn ddieithriad, mor bell ag y mae yn wybodus i mi, yn credu fod pawb babanod sydd yu marwyn eu mhabandod yn gadwcdig yn ddiwahan- iaeth; ac y mae y gwirionedd pwyig hwn, tybiwyf, yn cael ei ddysgu yn eglur i ni yn meusydd toreithiog y gyfrol ddwyfol. Bydded hysbys i'm gwrandawyr, yn flaenaf, nad ydym yu golygu fod cadwed- igaeth babanod yn ymgodi oddiar eu cysylltiad perthynasol âg un o oruchwyl- ìaethau datguddiedig y nefoedd. Dwy yn ueillduol sydd wedi eu datgnddio i deulu dyn, sef yr oruchwyliaeth Foesen- aidd, a'r nn Efengylaidd. Yr oedd amryw a gwahanol.ragorfreintiau yn perthynu i hiliogaeth Abraham o dan yr hen oruch- wyliaeth. Yr oedd iddynt addewidion am fenditbion tymhorol gwlad Canaan, a bendithion ysbrydol, ynghyd ag addoliad crefyddol yn eu plith. Os byddai y plant byw, a dyfod i oedrau a synwyr, yr oeddent yn tra rhagori yn eu breiutiau ar blaut paganiaid; ond y ihai oeddent