Skip to main content

Y GWIR FEDYDDIWR. Cyf. I.] IONAWR, 1842. [Riiif. 1. CYFARCHIAD Y GWIR FEDYDDIWR AT El FRODYR CU YN Y DYWYSOGAETH. Ff.l poh bodolyn arall ar ei ymdclangosiad cyntaf ar glawr daear, y mae yn debyg y bydd peth syllu arnat' íìnnau, a phob un yn barod i ymholi beth yw fy neges yn y byd, pa lwybr wyf yn bwriadu ei deithio, pa un ai heddwch neu waed sydd i fod ar fy maneri, a pheth sydd yn debyg o fod yn gynyrch fy ngweithrediadau. Fel gwr dyeithr yn ymddangos raewn cymmeriad cylioeddus yr wyf yn ewyliysgar yn cyd- nabod hawl pawb—brodyr, cyfathrach, ac estroniaid, i gael eu boddloni ar y pwyntiau hyn, ac nid anfoddol wyf i roddi iddynt bob cynnorthwy yn yr ymchwil. Mi a gefais fy nghenedlu ymhen rhai misoedd wedi'marwolaeth fy rhag- flaenor dysgedig, " Ystorfa y Bedyddw yr." Bu hwnw yn enwog a defnyddiol yn y Dywysogaeth am gryn dymhor, a theimlad o'r golled a gafodd cyfeillion dysg a gwybod yn y wlad trwy symudiad hwnw o dir y bywiolion a'm dygodd trwy yr esgoreddfa. Ac yn wir, nid edifar genyf fy modoliaeth, canys nid croesawiad oerllyd ac anserchog wyf wedi ei gael, o herwydd y mae dros ddwy fîl wedi danfon gwahodd- iad caredigol ataf, eu bod yn barod i'm derbyn at eu byrddau, yn ewyllysgar i roddi llety i'mo fis i fis,ac i wrando fy nghenadwri, ahyny trwy Ogledd a Deheubarth. Ni ddychymygais erioed am y fath gar- edigrwydd hyd y nod oddiar ddwylaw fy nghydgymeriaid, yu Weinid- ogion, diaconiaid, aelodau, &c. Ond gallaf dystio wrthynt fy mod yn wir ddiolchgar iddynt; ac fel ad-daliad, y bydd i mi wneud pob ym- drech o fewn fy ngallu i wneud fy ymddangosiad yn deilwng o'u croesawiad, o ran cyfansoddiad a thrwsiad fy mherson. Fy neges yn y byd sydd i gyfranu addysg moesol, efengylaidd, a guladol. Bwriadwyf wneud hyn yn y fath fodd, fel na fydd unrhyw aelod o'r teuluoedd caredig a'm gwahoddant, o'r henaf hyd y ieuangaf, heb gael rhyw ddyferion o íí'ynonell gwybodaeth helaeth-ddysg yr oes. liefyd, bydd i hanesion gwlad a thref, am grefydd a gwladyddiaeth, gael eu trosglwyddo genyf i ymyl yr aelwydydd, yn I!e hanesion hwciod dychymygol, y rhai ydyntyn dychrynu plantos y cymydogaethau; a bydd i holl amrywiaethau yr ardaloedd gacl eu gosod genyf gerbron fy nghroesawyr, fel na bydd damwaîn na dygwydd o bwys na fydd i'r byd eu gwybod.