Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

- Pulpua Cpmru- - Rhif 216.] y RHAGFYR, 1904. [Cyf. xvm. Mawrion Weiíhredoedd Duw. Gan y diweddar BARCH. D. CHARLES, Caerfyrddin. "Yr ydym yn eu clywed hwynt yn llefaru yn ein hiaith ni fawrion weithredoedd Duw."—Act&u ii. II,. ■ WEITHREDOEDD Duw ydynt fawrion neu ryfeddol. Achlysur defnyddiad y gair hwn 3-doedd tywalltiad yr Ysbryd Glan, fel y llefar- wyd mewn amryw ieithoedd. Hyn ydoedd yn beth mawr at ledaeniad yr efengyl. Tyb wrthun ydoedd y dyb eu bod }7n feddw- on : canys nid yw meddwon yn gyffredin yn llefaru ond am weithredoedd dynion,— yn fynychaf am eu gweithredoedd hwy eu hunain. Ond y rhai hyn a draethant am weithredoedd Duw. Mae gweithredoedd Duw yn faẅr. Efe yw y gweithredwr cyntaf. Gwaith Duw a gwaith dyn yw y cỳ'fah ; ond y gwaith o eiddo'r dyn ag a fyddo yn dda, gwaith ydyw ar ail law. Mae dyn yn ymddibynol ar Dduw gyda golwg ar yr hyn olt ag y mae yn ei wneyd. Duwiolion yn mhob oes a y; tyrient waith Duw. " Mawr yw gweithredoedd yr Arglwydd wedi eu ceisio gan bawb a'i hoffant." " Myfyriais ar dy holl waith, ac yn ngweithredoedd dy ddwylaw y myfyriaf."