Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Pulpud Cpmru Rhif 213.] ^}^ TACHWEDD, 1904. [Cyf. xvm. Mawredd y Mab. Gan y Parch, W. MORRIS, D.D., Treorci. (B.) -" Oblegid rhyngodd bodd i'r Tad drigo o bob cyflawnder ynddo ef." Colossiad ii 19. MDDENGYS ddarfod i awdwr y llythyr hwn dderbyn o Colossa ddau ddosbarth o newydd- ion. Caf'odd newyddion da am yr eglwys yno, " Er pan glywsom am eich fFydd yn Nghrist Iesu, ac am y cariad sydd genych tuag at yr holl saint, er mwyn y gobaith a roddwyd i gadw i chwi yn y nefoedd, &c" Y mae hefyd wedi clywed newyddion drwg am y peryglon mawr- ion sydd yn eu hamgylchynu ac yn beiddio ymlusgo i'r eg- /lwys. Ceir fod yna ryw " philosophi a gwag dwyll yn ol tra- ddodiad dynion ;" " addoliad angelion ;" " ewyllys grefydd," yn llanw ac yn anmhuro yr awyr yn Colossa. Teimla Paul fod yna berygl i'r eglwys yno gael ei llygru gan yr athraw- iaethau llygredig hyn. Y maent yn niweidiol iaw'n, ac yn gwneyd cam mawr â Pherson ac a safle Iesu Grist. Penderfyna ysgrifenu llythyr cryf at yr eglwys i'w cadarn- hau yn y gwirionedd am Grist, ac i'w rhybuddio i ochelyd y gau. Ysgrifenodd eisoes lythyr godidog, medrus, cywrain "a nodedig atPhilemon, ac y mae hwnw yn nwyìaw Onesimus i'ẅ gyflwyno iddo. Aros, meddai wrth Onesimus y caethwas ffoedig, yn awr y " creadur newydd yn Nghrist," i mi ysgrif- enu llythyr at yr eglwys yno hefyd. Ysgrifena dan ei enw