Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Pulpuü Cpmru* Rhif 212.] r, HYDREF, 1904. [Cyf. xvnî. Onid hwn yw y Saer? Gan y Diweddar Barch. ROGER EDWARDS, Wyddgrug. ......,,.0.......i\ " Onid hwn yw y saer, mab Mair, brawdlago, a Joses, ajudas, aSimon ? ac onid yw ei chwiorydd ef yn ein plith ni ? A hwy a rwystrwyd o'i blegid ef." Marc vi. 3. ESU Grist a geir yma yn ddiystyredig gan ei hen gydnabod a'i gyd-drefwyr yn Nazareth, ar gyfrif anenwogrwydd ei deulu, a'i alwedigaeth gyffredin pan yn eu mysg. Mae rhai yn tybied mai yr un ymweliad â Nazareth oedd hwn â hwnw yr adroddir am dano yn Luc iv., pan ar y Sabbath yn y syn- agog y cyfododd yr Iesu i fyny i ddarllen, acy rhodded ato lyfr y prophwyd Esaias, ac y darllenodd yntau y prophwydoliaeth hono am y Messiah, " Ysbryd yr Arglwydd Dduw sydd arnaf, &c," gan ychwanegu, " Heddywy cyflawn- wyd yr ysgrythyr hon yn eich clustiau chwi." Y pryd hwnw wele y rhai oedd yn y synagog, ar ol rhyfeddu i ddechreu wrth ei eiriau grasusol, yn ymgynddeiriogi ar ei waith yn cymhwyso'r gwirionedd yn argyhoeddiadol atynt hwy, ac yn myned mor bell a cheisio gwneyd pen am ei einioes. Ond fe dybygid mai cywirach yw'r syniad mai ymweliad arall oedd hwn, am ba un y coftheir hefyd gan Mathew: yr Iesu, yr hwn nad oedd byth yn diffygio gwneuthur daioni, heb gymeryd ei ddigaloni gan y gwrthodiad ohono a'r anfri arno y tro blaenorol, yn dy- fod drachefn " i'w wlad ei hun," sef i Nazareth, lle y magesid