Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

- Pulpud Cpmru* i Rhif 211.] 0>o' MEDI, 1904. ■ ■':■'■ [Cyf. xviii. ________J- 0 '________. ____ Haelfrydedd Duw. Gan y Parch. T. J. HUMPHRËŸS, (W.) " Da ydwyt, a daionus."—Dafydd N mhlith testynau lluosog myfyrdod, nid oes yr un yn meddu ar fwy o ragoriaeth na haelfryd- edd Duw tuag at ei greaduriaid, Fel nas gellir cael yr un testýn yn llawnach o ddefnyddiau ,* felly nis gellir chwaith gael yr un yn llawnach o ddyddordeb. Golwg ar, aç ymwybyddiaeth o haelfrydedd Duw a barodd iseintiaupob oes i ymuno gydag engyl glân i ddyrchafu eu mawl a'u diolch fel arogldarth peraidd gerbron; allor y cysegr fry, ac i fawrygu ('yr hwn sydd yn rhoddi yn haelionus i bawb, ac heb ddanod." Cymerwn olwg yn , ; ì I. Ar haelfrydedd duw yn ei natur, a'i berthynasau. Haelfrydedd Duw ydyw ei garedigrwydd, ei ewyllys da, neu ei duedd i gyfranu, amcan terfynol pa un ydyw dedwyddwch uwchaf ei greaduriaid. Pan y canfyddwn unrhýw berson ÿn cyfranu, naturiol ydyw ymholi:—Beth ydyw yr egwyddor a ddadblygir yn ei rhodd ? Mae pob rhodd o angenrheidrwydd yn ddadblygiad o hunaniaeth, neu o haelfrydedd, Dadblygir hunaniaeth o leiaf mewn tri o wahanol agweddau ; sef, mewn hunan-glod, hunan-les, a hunan-foddhâd, yn ol yr amcan a fydd mewn golwg yn y weithred o gyfranu. Os rhoddir er cael ei weled yn ei rhodd a fydd yn gymhelliad i un gyfranu,.