Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

■ Pulpud Cpmru. Rhif 210.] Q_YV , AWST, 1904. [Cyf. xvm. Y Gydwybod Ddirwystr. Gan y diweddar Hybarch Richard Eyerett, Wyddgrug, " Ac yn hyn yr ydwyf fi fy hun yn ymarfer, i gael cydwybod ddirwystr tuag at Dduw a dynion, yn wastadol." Act. xxiv. 16. AE y benod hon yn cynwys amddifTyniad Paul gerbron Ffelix y rhaglaw, mewn ateb- iad i gyhuddiadau a ddygid yn ei erbyn gan flaenoriaid yr Iuddewon, trwy yr areithiwr hy- awdl Tertulus. Maent yn ei gyhuddo o beri aflonyddwch a therfysg yn mhlith y genedl, ac o fod yn ben ar sect o Nazareniaid. Mae'r Apostol yn ateb yn syml trwy ddangos nad oedd y rhan gyntaf o'r cyhuddiad yn wir—nad oedd yn terfysgu, &c ; ond nid oedd yn gwadu ei egwyddorion a'i rTfydd yn y Gwar- edwr, yr hwn mewn gwawd a èlwid y Nazaread, neu y " Naz- areniaid." Y mae yn dweyd, adn. 14 a'r 15, " Ond hyn wyf yn ei gyffesu i ti, mai yn ol y ffordd y maenthwyyn ei galw yn heresi, felly yr wyf fi yn addoli Duw fy nhadau, gan gredu yr holl bethau sydd ysgrifenedig yn y ddeddf a'r prophwydi. A chenyf obaith ar Dduw, yr hon y mae y rhai hyn eu hun- ain yn ei dysgwyl, y bydd adgyfodiad y meirw, i'rcyfiawnon ac i'r anghyfiawnion." Ni ddylai y Cristion wadu ei grefydd hyd yn nod pan byddo ei harddel yn peryglu ei fywyd. " Ac yn yr hyn yr ydwyf fi fy hun yn ymarfer"—sef trwy ddilyn yr egwyddorion hyn, M yr wyf yn ymarfer, i gael cyd- wybod ddirwystr tuag at Dduw a dynion yn wastadol."